|
Rydym yn gwybod bod profiad gwaith cynnar yn gallu chwarae rôl hanfodol wrth helpu pobl ifanc i ddarganfod y llwybr gyrfa gywir, ac mae taith Sianco Emmanuel yn enghraifft wych o sut y gall cyfleoedd ymarferol arwain yn uniongyrchol at gyflogaeth hirdymor.
Cwblhaodd Sianco leoliad paentio chwe wythnos gyda ni trwy ein rhaglen profiad gwaith Llwybr at Ddyfodol, wedi’i chefnogi gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig, mewn partneriaeth â’r Cyngor.
Yn ystod y lleoliad, gwnaeth Sianco wella ei sgiliau paentio a chael gwell dealltwriaeth o beth yw gwaith o ddydd i ddydd ar safle, gan ddysgu’n uniongyrchol oddi wrth y tîm. Wrth fyfyrio ar y cyfle, dywedodd Sianco:
“Roedd fy chwe wythnos o brofiad gwaith gyda Chyngor Sir Caerfyrddin yn anhygoel. Cefais y cyfle i weithio’n ymarferol gyda gwaith paentio ac addurno go iawn, fel paratoi waliau, cymysgu paent a rhoi cynnig ar wahanol dechnegau gorffen. Dysgu’n uniongyrchol gan y tîm a gweld sut maen nhw’n rheoli prosiectau go iawn dysgodd cymaint i mi a gwneud i mi deimlo’n barod i ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb.”
Bu Sianco yn gweithio gyda’r Tîm Cynnal a Chadw Eiddo a’i fentor, Adrian Brown, yn ennill profiad ar draws amrywiaeth o adeiladau’r Cyngor ac eiddo preswyl.
Ym mis Medi 2025, ymunodd â’r Cynllun Prentisiaeth Sgiliau Adeiladu Cyfle, gan ddechrau prentisiaeth mewn paentio ac addurno wrth astudio tuag at ei gymhwyster City & Guilds Lefel 3 yng Ngholeg Sir Gâr – Campws Rhydaman, ochr yn ochr â’i gyflogaeth gyda Chyngor Sir Caerfyrddin.
|
|
|
Rydym yn falch iawn o ddathlu cyflawniad rhagorol Jake Fearn o’n Tîm Digidol a Thrawsnewid, sydd wedi cwblhau tri digwyddiad dygnwch mawr yn llwyddiannus er cof am Phil Jones (Shamby), gan godi arian i Aren Cymru.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, ymgymerodd Jake â her gorfforol a meddyliol eithriadol, gan gwblhau:
-
Ironman Cymru – Medi 2025
-
Marathon Eryri (Yr Wyddfa) – Hydref 2025
-
Marathon Llundain – Ebrill 2026
Profodd pob digwyddiad ddygnwch, gwytnwch a phenderfyniad, ac ymatebodd Jake i’r her bob cam o’r ffordd — i gyd wrth godi arian at achos sy’n agos iawn at ei galon ac wrth barhau etifeddiaeth elusennol Phil.
Pam mae Aren Cymru yn bwysig
Mae clefyd yr arennau yn effeithio ar dros 93,000 o bobl yng Nghymru. Nid oes iachâd ar hyn o bryd, ac mae llawer yn dibynnu ar driniaethau sy’n newid bywydau fel dialysis neu drawsblaniad. Ers 1967, mae Aren Cymru wedi bod yn gweithio i wella bywydau cleifion a’u teuluoedd ledled Cymru.
Nid yw’r elusen yn derbyn unrhyw gyllid gan y llywodraeth, ac mae’n dibynnu’n llwyr ar roddion i ddarparu cymorth hanfodol.
Er bod Jake wedi cwblhau’r tair her, mae rhoddion yn dal i gael eu derbyn, a bydd pob cyfraniad — waeth pa mor fach — yn parhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a theuluoedd sy’n byw gyda chlefyd yr arennau yng Nghymru.
Diolch mawr a llongyfarchiadau i Jake am y cyflawniad anhygoel hwn — a diolch i bawb sydd wedi’i gefnogi ar hyd y daith.
|
|
|
Rydym yn falch iawn o rannu newyddion cyffrous i’r adran. Bydd amrywiaeth o swyddi prentisiaeth a graddedigion yn cael eu hysbysebu ym mis Mai, gan gynnig cyfleoedd gwych i bobl ar ddechrau eu gyrfaoedd ac yn nodi cam pwysig ymlaen yn ein cynllunio gweithlu a chynllunio olyniaeth.
Mae’r rolau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddatblygu talent, adeiladu sgiliau o’r tu mewn, a sicrhau bod gennym y capasiti a’r gallu sydd eu hangen i ateb gofynion gwasanaethau’r dyfodol. Drwy fuddsoddi mewn llwybrau prentisiaeth a graddedigion, rydym yn cryfhau gwydnwch ac yn creu llwybrau gyrfa gynaliadwy i rolau proffesiynol a thechnegol allweddol.
Bydd y rolau a hysbysebwyd yn cynnwys:
-
Cynlluniwr Trafnidiaeth dan Hyfforddiant (Graddedig)
-
Swyddog Gorfodi Amgylcheddol Graddedig
-
Graddedig Traffig a Diogelwch ar y Ffyrdd
-
Graddedig Cynnal a Chadw Eiddo
-
Prentis Trafnidiaeth Teithwyr
-
Prentis Arolygydd Gwaith Stryd
-
Prentis Technegydd Rheoli Traffig
-
Prentis Cynnal a Chadw Eiddo
-
Prentisiaethau Dylunio Sifil (2 swydd)
|
|
|
Rydym yn falch iawn o rannu bod Samara Powell wedi’i phenodi’n Rheolwr Strategaeth a Gwasanaethau Trafnidiaeth. Mae hon yn swydd newydd o fewn yr Isadran Amgylchedd a Seilwaith - stori lwyddiant gwych ac enghraifft ardderchog o sut y gall buddsoddi mewn talent ar ddechrau gyrfa arwain at ddatblygiad hirdymor o fewn y Cyngor.
Ymunodd Samara â’r Cyngor drwy ein rhaglen graddedigion, ac mae ei phenodiad i’r rôl uwch hon yn adlewyrchu ei hymrwymiad a’i datblygiad personol, yn ogystal â chryfder ein dull o feithrin talent o fewn y Cyngor. Mae ei thaith yn dangos gwerth darparu cyfleoedd graddedig ystyrlon sy’n cefnogi dysgu, cynnydd a datblygu arweinyddiaeth.
Yn ei swydd newydd fel Rheolwr Strategaeth a Gwasanaethau Trafnidiaeth, bydd Samara yn chwarae rôl allweddol wrth lunio a chyflawni gwasanaethau trafnidiaeth ledled y sir. Mae’r rôl yn darparu arweinyddiaeth strategol ar gyfer trafnidiaeth teithwyr, teithio dysgwyr, seilwaith trafnidiaeth, polisi a chynllunio, gan sicrhau bod gwasanaethau’n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mae’r swydd yn cynnwys arwain timau amlddisgyblaethol, goruchwylio rhaglenni trafnidiaeth a phrosiectau seilwaith mawr, gweithio’n agos gydag aelodau etholedig a phartneriaid allanol, a helpu i ddarparu trafnidiaeth ddiogel, gynaliadwy a chynhwysol i drigolion a chymunedau ledled Sir Gaerfyrddin.
Hoffem longyfarch Samara ar ei phenodiad a dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd.
|
|
|
Rydym yn falch iawn o rannu bod Llwybr Dyffryn Tywi bellach ar agor, gan nodi carreg filltir bwysig ar gyfer teithio llesol yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r prosiect seilwaith mawr hwn wedi trawsnewid hen reilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo yn llwybr di-draffig 16 milltir i gerddwyr a beicwyr, drwy galon Dyffryn Tywi.
Mae’r llwybr yn ddiogel, hygyrch ac yn wastad i raddau helaeth, wedi’i gynllunio ar gyfer pobl o bob oed a gallu. Unwaith ar y llwybr, gall defnyddwyr fwynhau cefn gwlad ddi-dor, bryniau tonnog a golygfeydd tawel ar hyd glannau’r afon drwy gydol y daith.
Diolch yn fawr iawn i bawb a fu’n rhan o wireddu Llwybr Dyffryn Tywi o gysyniad i realiti. Mae eich cyfraniad wedi darparu ased parhaol o safon uchel a fydd yn cael ei fwynhau gan drigolion ac ymwelwyr am genedlaethau i ddod.
|
|
|
|
|
|