|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Yn dod yn fuan - Porth tenantiaid newydd
Yn ystod misoedd yr haf byddwn yn lansio porth ar-lein newydd ar gyfer tenantiaid yn unig. Bydd hyn yn eich galluogi i roi gwybod am waith atgyweirio neu gysylltu â'ch swyddog tai ynghyd â llawer o fuddion eraill fel darparu mynediad 24/7 at daliadau rhent, dogfennau tenantiaeth a diweddariadau am waith atgyweirio amser real. Os hoffech chi fod yn un o'r cyntaf i ddefnyddio'r porth, cwblhewch y ffurflen:
Os ydych wedi cofrestru o'r blaen, does dim angen i chi wneud hynny eto. Byddwn ni'n cysylltu dros y misoedd nesaf i gadarnhau'r camau nesaf.
Ymunwch â'n tîm!
 |
|
- £27,630 - £28,515 y flwyddyn
- Parhaol/Rhan-amser
- Wedi'i leoli yn Sanclêr
- Ceisiadau'n cau 26 Mawrth 2026
|
Gwelliannau natur yng Nghlos Sant Paul
|
Bydd gwaith yn dechrau'n fuan yng Nghlos Sant Paul fel rhan o'r prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, sy'n anelu at wella mannau gwyrdd cyhoeddus ledled Cymru.
Mae'r gwelliannau arfaethedig yn cynnwys:
- Creu a gwella mannau gwyrdd sy'n addas ar gyfer bywyd gwyllt
- Gwella ymddangosiad cyffredinol yr ardal
- Gosod llwybr newydd er mwyn gwella mynediad
I weld y cynnig llawn a darparu adborth, sganiwch y côd QR
|
|
 |
Digwyddiadau cymunedol i ddod
Chwarae a Chwerthin.
(Grŵp babanod a phlant bach ar gyfer plant ag ADY rhwng 3 mis a 4 oed).
1pm-2.30pm ar ddydd Iau yng Nghanolfan Deulu Sant Paul.
Cegin Llanelli - (Pryd cymunedol).
Yn dechrau 23 Chwefror, ar ddydd Llun 12.20pm-2.30pm.
Cegin y Bobl, Canolfan Antioch, Heol Copperworks Llanelli.
Plant Dewi - (Grwpiau Teuluoedd Gyda'i Gilydd).
Yn dechrau ar 26 Chwefror, ar ddydd Iau 9.30am-11.30am yn Neuadd y Dref, Hendy-gwyn ar Daf.
Digwyddiad y Gwanwyn.
8 Ebrill, 1pm-3pm ym Maes y Gors (y pedwar Tŷ), Llanelli.
Gwanwyn Glân y Gymuned.
15 Mai, 1pm-4pm ym Maes y Gors (y pedwar Tŷ), Llanelli.
Digwyddiad Haf.
19 Awst, 1pm-3pm ym Mharc Stryd Ann, Llanelli.
Digwyddiad yr Hydref.
30 Hydref, 2pm-5pm yn Y Sied Nwyddau, Llanelli.
|
|
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
|
Gwiriadau Cartrefi yn Eiddo'r Cyngor
Bydd eich Swyddog Tai yn cynnal Gwiriadau Cartrefi arferol yn Eiddo'r Cyngor. Mae'r ymweliadau hyn yn gyfle i:
- Sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf am yr aelwyd
- Trafod unrhyw newidiadau o ran amgylchiadau neu anghenion meddygol
- Codi unrhyw bryderon am eich tenantiaeth
- Gwirio cyflwr eich eiddo a'ch gardd
- Rhoi cyngor a chyfarwyddyd lle bo angen
Mae'r ymweliadau fel arfer yn para rhwng 30 a 60 munud, yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei drafod. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich cydweithrediad i'n helpu i gynnal a chadw tai diogel a thaclus.
|
Arolwg STAR
Yn dilyn canlyniadau ein Arolwg STAR rydyn ni wedi gwrando ar eich barn ac yn awr yn edrych ar ffyrdd o wella'r gwasanaeth rydych chi ei eisiau. Byddwn ni'n blaenoriaethu ymgysylltu â'n tenantiaid yn ystod y misoedd nesaf a byddwn yn cysylltu â thenantiaid i gael safbwyntiau pellach ar sut y gallwch chi ein helpu i lunio'r newidiadau hyn.
- Cyfathrebu cliriach, mwy rheolaidd - Darparu cyfathrebu clir i denantiaid, gwrando ar bryderon tenantiaid, cynghori ar ddisgwyliadau, rhannu diweddariadau trwy'r sianeli sy'n well gennych chi, megis wyneb yn wyneb, e-bost, cyfryngau cymdeithasol, llythyrau a gwybodaeth ar y safle.
- Mwy o gyfleoedd i ddweud eich dweud - Disgwyliwch fwy o arolygon, teithiau cerdded o amgylch ystadau, ac opsiynau adborth cyflym fel y gallwch ddweud wrthym ni yn hawdd beth sy'n bwysig i chi.
- Cymorth personol pan fydd ei angen arnoch - P'un a yw'n atgyweiriadau, cyngor rhent, pryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol neu broblemau ar yr ystad, byddwn ni'n ymateb yn gyflym ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n cael eich cyfeirio at y cymorth cywir.
- Prosiectau a digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned - Byddwn ni'n parhau i gyflwyno gweithgareddau a phrosiectau gwella sy'n dod â thenantiaid, staff a phartneriaid at ei gilydd i lunio newidiadau cadarnhaol yn eich ardal.
- Gweithio gyda thenantiaid o'r dechrau - Byddwn ni'n cynnwys tenantiaid yn gynt wrth ddatblygu syniadau newydd, cynlluniau peilot a gwelliannau cymdogaeth.
Newidiadau i dorri'r borfa yn eich ardal
Efallai y byddwch chi'n sylwi ar newidiadau i'r ffordd y mae'r Cyngor yn torri'r borfa mewn rhai ardaloedd tai. Mae hyn er mwyn helpu bywyd gwyllt, cefnogi pryfed peillio fel gwenyn a gloÿnnod byw, ac ymateb i'r Argyfyngau Natur a Hinsawdd yng Nghymru.
Rydyn ni'n bwriadu cyflwyno tri dull o dorri porfa yn raddol:
- Torri Porfa Amwynderau: Bob 2 wythnos mewn ardaloedd prysur.
- Toriad Neithdar a Chasglu: Bob 6 wythnos i ganiatáu i flodau dyfu.
- Toriad Dôl a Chasglu: Ddwywaith y flwyddyn i greu ardaloedd llawn blodau.
Bydd stribed 1 metr taclus yn dal i gael ei thorri ar hyd llwybrau a ffyrdd.
Bydd y newidiadau hyn yn helpu mwy o flodau gwyllt i dyfu ac yn gwella mannau gwyrdd lleol. Rydyn ni hefyd wedi bod yn plannu coed, gwrychoedd a blodau newydd gyda chymorth gan gyllid Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
Oes gennych chi syniadau? Os ydych chi'n gwybod am ardal a allai elwa o doriadau llai aml neu blannu newydd, siaradwch â'ch swyddog tai.
|
|
|
|
|