Ar 16 - 17 Chwefror, cwblhaodd William leoliad profiad gwaith deuddydd gyda thîm tai Cyngor Sir Caerfyrddin, gan gael cipolwg ymarferol ar waith plymio, gwaith coed a chynnal a chadw eiddo.
Ar ôl mynychu sesiwn sefydlu Iechyd a Diogelwch yng Nghillefwr, treuliodd William ei ddiwrnod cyntaf ar y safle gyda'r tîm plymio. Buodd yn cefnogi gwaith ar draws pum lleoliad, gan gynorthwyo gyda symud toiledau cyn gosod lloriau newydd, cario offer a dysgu pwysigrwydd dilyn gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch.
Ar ei ail ddiwrnod, gweithiodd William ochr yn ochr â'r tîm gwaith coed, gan helpu i osod silffoedd, symud drysau a pharatoi ardaloedd ar gyfer gwaith gwella. Arsylwodd dasgau'n agos, trosglwyddo offer a dysgu mwy am weithio'n effeithlon fel rhan o dîm.
Mae William wedi mynegi diddordeb cryf mewn dilyn gyrfa mewn plymio ac mae'n gobeithio gwneud cais am brentisiaeth pan fydd yn gorffen yr ysgol i ennill profiad ymarferol a chymhwyster cydnabyddedig. Dangosodd ddiddordeb hefyd mewn dychwelyd yn ystod gwyliau ysgol yn y dyfodol i gael rhagor o brofiad.
Yn ystod ei leoliad, datblygodd William well dealltwriaeth o'r rôl hanfodol y mae'r adran dai yn ei chwarae wrth reoli tua 9,000 o gartrefi a pharatoi eiddo gwag i'w hailosod i helpu i atal digartrefedd.
Y tîm eiddo gwag: “Dywedodd Lee, Ben ac Ashley ei fod wedi gwneud yn dda dros y 2 ddiwrnod. Roedd yn awyddus i fod yn rhan o bopeth yr oeddent yn ei wneud ac yn dangos parodrwydd i ddysgu. Mae'n dda gweld rhywun o'i oedran yn dangos brwdfrydedd dros y gwaith.”
Mae darparu cyfleoedd fel hyn yn helpu i ysbrydoli pobl ifanc a chefnogi datblygiad ein gweithlu yn y dyfodol.
|