Newid cadarnhaol ym Maescader
Rydyn ni'n falch o rannu'r gwelliannau sylweddol a gyflawnwyd ym Maescader a hynny drwy waith partneriaeth cadarn rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Heddlu Dyfed Powys a'r gymuned leol. Mae'r gwaith hwn yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol ymyrraeth gynnar, ymgysylltu parhaus a chamau gorfodi cymesur.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae gweithredu ar y cyd wedi arwain at gwymp amlwg mewn troseddu, ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r galw am wasanaethau brys, gan helpu i greu cymdogaethau mwy diogel a mwy sefydlog.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cydnabod y cynnydd hwn yn ffurfiol, gan nodi bod ystadegau diweddar yn dangos gostyngiad sylweddol yn y galw am wasanaethau brys a throseddu, a wnaed yn bosibl trwy weithio mewn partneriaeth effeithiol ac wrth ymgysylltu parhaus yn yr ardal.
Canlyniadau mesuradwy
Mae cymhariaeth flwyddyn i flwyddyn yn dangos gostyngiad o fwy na 50% mewn galwadau i'r gwasanaethau brys:
- 2024-2025: 150 o alwadau
- 2025-2026: 71 o alwadau
Mae hyn yn cynnwys gostyngiadau mewn:
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol: 16 i 4
- Trais domestig: 40 i 18
- Difrod troseddol: 3 i 1
Mae'r gwelliannau hyn wedi cyfrannu at gymdogaethau mwy diogel, mwy o hyder mewn gwasanaethau lleol a gwelliant gweladwy yn yr ardal.
Camau gweithredu cadarnhaol a chymesur
Ochr yn ochr â gwaith ataliol, mae camau gweithredu cadarn a chymesur yn parhau lle bo angen. Mewn un achos, yn dilyn ymdrechion dro ar ôl tro i gefnogi tenant i wella cyflwr ei eiddo, rhoddodd y Llys Sirol feddiant o'r cartref yn ôl i'r Cyngor. Mae'r cam gweithredu hwn yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i gynnal cymunedau diogel, sydd wedi'u rheoli'n dda.
Parhau â'n hymrwymiad
O ganlyniad i waith rhagweithiol gan y tîm ymddygiad gwrthgymdeithasol tai - gan gynnwys patrolau gyda'r nos ac ar y penwythnosau gyda Heddlu Dyfed Powys - a pharodrwydd preswylwyr i roi gwybod am bryderon, mae Maescader wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y materion yr adroddwyd amdanynt.
Ni fyddai'r llwyddiant hwn wedi bod yn bosibl heb ymroddiad ac ymrwymiad ein swyddogion:
- Melanie Thomas, Swyddog Ymddygiad Gwrthgymdeithasol
- Maria Evans, Swyddog Tai
- Cathie Davies, Swyddog Tai â Chymorth
Mae eu hymgysylltiad parhaus â phreswylwyr a'u presenoldeb gweladwy yn y gymuned yn parhau i fod yn ganolog i gyflawni a chynnal newid cadarnhaol ym Maescader.
Mae eich llais yn bwysig
Os oes angen cymorth arnoch i gynnal eich cartref, cysylltwch â'n timau cymorth ystadau neu denantiaeth am gyngor a chymorth. Gall cyfathrebu ac ymgysylltu cynnar helpu i atal problemau rhag gwaethygu.
Rydyn ni hefyd yn annog pob tenant a phreswylydd i roi gwybod am bryderon, boed hynny'n ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyflwr eiddo, neu anghenion cymorth. Mae eich gwybodaeth yn ein helpu i weithredu'n gyflym ac yn effeithiol.
Gyda'n gilydd, gallwn barhau i adeiladu cymunedau mwy diogel a chryfach ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae eich adborth yn bwysig - ac mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol
Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi cwblhau mwy na 24,000 o atgyweiriadau i gartrefi sy'n eiddo i'r cyngor.
Er mwyn ein helpu i wella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu, rydyn ni am anfon neges destun sy’n cynnwys 'arolwg wyneb hapus' at ein holl denantiaid ar ôl i waith atgyweirio gael ei gwblhau. Mae'r arolygon cyflym, tri chwestiwn hyn yn ein helpu i ddeall beth sy'n gweithio'n dda a ble y gallwn wella.
Rydyn ni'n falch iawn o rannu ein bod bellach wedi derbyn dros 1,000 o ymatebion, gyda sgôr bodlonrwydd cyfartalog o 9/10. Mae hynny'n adborth gwych ac yn glod gwirioneddol i'r timau sy'n gweithio'n galed i gyflawni gwaith atgyweirio i'n tenantiaid. Mae pob ymateb rydyn ni'n ei gael yn ein helpu i nodi tueddiadau, dathlu gwasanaeth gwych a gwneud gwelliannau ystyrlon lle mae eu hangen. Gall hyd yn oed ychydig eiliadau o'ch amser gael effaith fawr ar ansawdd y gwaith atgyweirio a wneir yn eich cartref. Os ydych chi'n derbyn arolwg wyneb hapus ar ôl i waith atgyweirio gael ei wneud yn eich cartref, cymerwch eiliad i'w gwblhau. Mae'n gyflym, yn hawdd ac yn un o'r ffyrdd gorau i'n helpu ni i barhau i wella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu i chi. Diolch i bawb sydd eisoes wedi rhannu eu hadborth - rydyn ni wir yn ei werthfawrogi.
Os oes gennych adborth i ni am y gwasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn, gallwch anfon e-bost atom: HousingRepairs@sigar.gov.uk a gallwn ystyried eich barn yn ein cynlluniau gwella yn y dyfodol.
|
|