|
Croeso i'r rhifyn cyntaf o Y Lle Newyddion, ein llythyr newyddion misol newydd sydd wedi'i greu i sicrhau bod pawb yn yr adran yn gysylltiedig, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf, ac ar flaen y gad.
Bob mis, byddwn yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd ar draws yr adran, yn tynnu sylw at newidiadau a allai effeithio ar staff, ac yn sicrhau eich bod yn cael gwybod am wybodaeth allweddol oddi wrthyn ni yn gyntaf.
Rydyn ni hefyd eisiau i'r llythyr newyddion fod yn berthnasol i'r adran gyfan, felly os oes rhywbeth yn digwydd yn eich ardal y dylai eraill wybod amdano, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych. Anfonwch neges at kellythomas@sirgar.gov.uk a byddwn yn ei chynnwys mewn rhifyn yn y dyfodol. |
|
Rydyn ni wedi clywed eich adborth yn glir - mae llawer ohonoch chi eisiau gweld mwy o'n huwch-reolwyr yn mynd o amgylch y lle, yn dod yn agosach at y gwaith dyddiol rydych chi'n ei wneud. Rydyn ni'n dechrau ar y brig.
Bydd ein Cyfarwyddwr, Ainsley Williams, yn treulio amser yn Ystafell Gyfarfod Depo Trostre ar 13 Chwefror, a rhwng 1-3pm bydd cyfle i chi alw draw am sgwrs anffurfiol.
Does dim agenda a does dim angen archebu unrhyw beth. Dewch draw i ddweud helo, a siaradwch am beth bynnag sy'n bwysig i chi. Y peth pwysicaf yw gwneud y cysylltiad. Gobeithio y byddwn yn eich gweld yno.
|
|
|
|
Da iawn i dri o'n cydweithwyr, Shannen Rees, Mark Johns a Shaun Lynch, am fynd amdani yn y Narberth Nobbler — taith fwdlyd, fryniog, 10k trwy Sir Benfro dros wyliau'r Nadolig. Am gyflawniad arbennig ac enghraifft wych o'r egni a'r ysbryd ar draws ein timau.
Bydden ni wrth ein bodd yn cynnwys mwy o'ch straeon. Os ydych chi'n cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau elusennol, heriau, neu weithgareddau hwyliog yn 2026, anfonwch y manylion (a llun os oes gennych un) at kellythomas@sirgar.gov.uk fel y gallwn ddathlu eich cyflawniadau mewn rhifynnau yn y dyfodol.
|
|
Daeth Storm Goretti â thywydd gaeaf heriol, ond diolch i'r ymroddiad a'r gwaith paratoi ar draws ein timau, roedden ni'n gallu sicrhau bod pobl yn ein cymunedau yn parhau i gael y gofal a'r gefnogaeth yr oedd eu hangen arnyn nhw.
Diolch o galon i bawb a ddaeth i'r adwy - p'un a oeddech chi'n cyflawni gwahanol rolau, yn gweithio oriau ychwanegol, neu'n cefnogi cydweithwyr y tu ôl i'r llenni. Roedd yn ymdrech ragorol ar draws yr adran a'r Awdurdod ehangach.
Gwnaeth eich ymrwymiad wahaniaeth gwirioneddol, ac rydyn ni'n falch iawn o'r ffordd y gweithiodd pawb.
|
|
|
Fel pob adran ar draws yr Awdurdod, gofynnwyd i ni nodi arbedion o fwy na £2 miliwn ar gyfer cyllideb 2026/27 wrth i'r Cyngor weithio i gydbwyso ei gyllid ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Dros yr wythnosau ddiwethaf, rydyn ni wedi cyflwyno ein cynigion i gynghorwyr, a bydd y rhain bellach yn cael eu cyflwyno i'r Cyngor Llawn i'w hystyried.
Pan fydd y gyllideb derfynol wedi'i chymeradwyo, byddwn yn defnyddio'r llythyr newyddion misol hwn i esbonio beth mae'n ei olygu i'n gwasanaethau a sut y bydd yn llywio'r flwyddyn nesaf. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn wrth i bethau ddatblygu.
|
|
|
Costiodd absenoldeb salwch dros £1.5m i'n hadran y llynedd, gan danlinellu'r angen am ddull canolbwyntio a mwy cyson o reoli presenoldeb. I gefnogi hyn, mae Gweithdai i Reolwr ynghylch Absenoldeb Salwch yn cael eu cyflwyno i helpu rheolwyr i ddeall eu cyfrifoldebau, magu hyder wrth gael sgyrsiau cynnar a chefnogol, a sicrhau ymagwedd deg a chyson ar draws yr Adran.
Hyd yn hyn, mae 103 o reolwyr wedi cwblhau'r hyfforddiant ar draws saith sesiwn, gan gynyddu ymwybyddiaeth o'r offer, y polisïau a'r gefnogaeth sydd ar gael i helpu gweithwyr i gadw'n iach ac yn y gwaith. Os ydych chi'n rheolwr llinell sydd heb fynychu sesiwn eto ac yr hoffech ymuno â sesiwn yn y dyfodol, anfonwch e-bost at two'leary@sirgar.gov.uk i gofrestru eich diddordeb.
|
|
|
Rydyn ni'n cynnal cyfres o grwpiau ffocws trwy gydol mis Chwefror i gasglu adborth gonest gan drawstoriad o gydweithwyr ar draws ein hadran. Mae'r sesiynau hyn yn ein helpu i fwrw golwg ar ddwy thema bwysig: gwobr & chydnabyddiaeth gwasanaeth hir, a chyfathrebu mewnol. Trwy glywed yn uniongyrchol oddi wrthych chi'ch hun, gallwn ddeall yn well beth sy'n gweithio'n dda, beth sy'n teimlo'n ystyrlon, a lle byddai gwelliannau yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf.
Bydd y wybodaeth o'r sgyrsiau hyn yn llunio argymhellion a newidiadau yn y dyfodol yn y ddau faes. Er mai dim ond rhai ohonoch sy'n cymryd rhan yn y rownd hon, mae eich adborth yn cynrychioli'r gweithlu ehangach, a byddwn yn parhau i greu cyfleoedd i fwy ohonoch gymryd rhan wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
|
|
|
|
Mae gan ein hadran bellach ei thudalen bwrpasol ei hun ar y fewnrwyd, gan ddod â phopeth sydd ei angen arnoch ynghyd mewn un lle hawdd ei ddarganfod.
Mae'r dudalen wedi'i chreu i roi mynediad cyflym i chi i wybodaeth allweddol, diweddariadau, canllawiau, ac adnoddau sy'n cefnogi eich gwaith bob dydd.
|
|
 |
|
|
Sefydlwyd Gweithgor Gwella Depos ym mis Awst 2025 ac mae'n cyfarfod yn fisol i wneud gwelliannau ar draws depos yn y sir. Er bod nifer o syniadau yn dal i gael eu hystyried, mae sawl menter wedi'u cymeradwyo yn ddiweddar ac maen nhw bellach ar y gweill.
Mae gwaith adnewyddu to fesul cam wedi dechrau yn Depo Cillefwr, gan baratoi'r ffordd ar gyfer adnewyddu mewnol pellach ar ôl ei gwblhau. Yn ogystal, mae unedau lles newydd wedi'u darparu a'u gosod yn Depos Trostre, Cillefwr a Glanaman, gan ddarparu gwell cyfleusterau sy'n cefnogi lles staff Gwastraff gweithredol ac iechyd a diogelwch ar y safle.
|
|
|
Mae gwaith ar y gweill ar fodiwl Codi a Chario newydd sbon ar gyfer Thinqi. Mae'r modiwl wedi'i gynllunio i gefnogi staff ar draws yr Adran gyda hyfforddiant diogel, cyson a hygyrch. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn ymdrech ar y cyd rhwng Iechyd a Diogelwch a'n tîm Dysgu a Datblygu, sydd wedi bod yn gweithio'n agos i sicrhau bod y modiwl yn adlewyrchu'r tasgau go iawn y mae ein timau yn eu cyflawni bob dydd.
Bydd yr hyfforddiant yn werthfawr iawn i wasanaethau gweithredol fel Gwasanaethau Glanhau, lle mae arferion codi a chario da yn hanfodol i atal anafiadau a chefnogi llesiant hirdymor yn y gwaith. Ar ôl ei lansio, bydd y modiwl yn rhoi'r hyblygrwydd i chi gwblhau'r hyfforddiant ar-lein, ar adeg sy'n addas i chi, ynghyd â bodloni'r holl safonau diogelwch gofynnol.
Rydyn ni'n anelu at gyflwyno'r modiwl newydd ym mis Chwefror 2026, a byddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth wrth i ni agosáu at y lansiad. Mae hwn yn gam pwysig wrth gryfhau ein hymagwedd at ddiogelwch yn y gweithle, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at sicrhau bod yr adnodd hwn ar gael i chi i gyd.
|
|
|
|
|
|