|
Mam a merch sy'n ofalwyr maeth yn dîm cryf sy'n croesawu plant i’w cartref
Dewch i gwrdd â Louise ac Ammanys (hefyd, Ted, Elliott, Boo, a mam a dad Boo). Tîm mam a merch yw Louise ac Ammanys sydd wedi croesawu mwy na dwsin o blant i'w cartref dros y tair blynedd diwethaf.
O redeg ysgol berfformio gyda'i gilydd i ymlacio drwy gael nosweithiau gemau teuluol, mae Louise ac Ammanys wedi creu cartref llawn chwerthin, creadigrwydd a gofal.
|
|
Y cymorth a'r manteision wrth faethu gyda ni
Mae dewis maethu yn benderfyniad mawr, ac mae cael y cymorth iawn yn gwneud byd o wahaniaeth. Yn Maethu Cymru Sir Gâr, rydyn ni'n rhoi cymorth ymarferol, emosiynol ac ariannol i helpu ein gofalwyr maeth i ganolbwyntio ar beth sydd bwysicaf - gofalu am ein plant a'n pobl ifanc.
Fel gofalwr maeth gyda ni, gallech chi gael y canlynol:
- Cymorth ariannol
- Sesiynau pwll nofio am ddim yng nghanolfannau hamdden Actif
- Tocynnau am ddim i rai o gemau cartref y Scarlets
- Gostyngiadau gyda phartneriaid gan gynnwys Cadw a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Carden Golau Glas
|
 Mae maethu gyda ni hefyd yn golygu dod yn rhan o gymuned leol o ofalwyr maeth. Rydyn ni'n cynnig cyfleoedd rheolaidd i gysylltu â gofalwyr maeth eraill drwy grwpiau cymorth, boreau coffi, teithiau cerdded llesiant a gweithgareddau cymdeithasol.
|
|
Yr effaith a gawson ni yn 2025
Wrth i 2025 ddod i ben, fe wnaethon ni gymryd amser i fyfyrio ar beth rydyn ni wedi'i gyflawni ledled Sir Gâr.
- Fe wnaethon ni helpu 278 o blant a phobl ifanc i aros yn lleol.
- Fe wnaethon ni ddarparu 70 o sesiynau hyfforddiant i'n gofalwyr maeth.
- Fe wnaethon ni gynnal 68 o stondinau recriwtio ledled y sir.
- Fe wnaethon ni dderbyn 110 o ymholiadau gan bobl fel chi, sydd â diddordeb mewn maethu.
Mae'r gwaith hwn yn parhau i gryfhau'r cymorth rydyn ni'n ei gynnig i'n gofalwyr maeth wrth helpu ein plant a'n pobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â'u cymunedau lleol.
|
Gallwch chi ddod o hyd i ni yma
Os ydych chi'n meddwl am faethu, mae cwrdd â'n tîm yn gam cyntaf gwych. Mae ein digwyddiadau gwybodaeth yn gyfle hamddenol i ofyn cwestiynau, siarad â gofalwyr maeth presennol a dysgu mwy am beth mae maethu yn ei olygu.
Digwyddiadau gwybodaeth i ddod:
-
Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf: Dydd Mawrth, 17 Chwefror, 10am i 1pm
-
Ysgol Caerfelin, Pencader: Dydd Mercher, 18 Chwefror, 10am i 1pm
-
Canolfan Gwlyptir Llanelli: Dydd Gwener, 20 Chwefror, 1pm i 4pm
-
Hwb Llanelli: Dydd Mawrth, 3 Mawrth, 10am i 2pm
|
Os na allwch chi ddod i unrhyw un o'n digwyddiadau gwybodaeth, gallwch chi gysylltu â ni am sgwrs anffurfiol ar adeg sy'n gyfleus i chi.
|
|
|
|