|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Diogelwch tân adeg y Nadolig
Wrth i gyfnod y Nadolig agosáu, mae rhai camau syml y gallwn ni i gyd eu cymryd i gadw ein cartrefi yn ddiogel rhag tân. Mae gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru lawer o awgrymiadau defnyddiol i'w dilyn y Nadolig hwn.
Diogelwch Canhwyllau:
- Rhowch ganhwyllau ar arwyneb sefydlog sy'n gallu gwrthsefyll gwres
- Cadwch ganhwyllau i ffwrdd o unrhyw beth a allai fynd ar dân
- Defnyddiwch ddalwyr priodol
- Sicrhewch nad yw’r canhwyllau ar bwys drafftiau
- Peidiwch byth â gadael canhwyllau'n llosgi heb neb yn cadw golwg arnyn nhw
- Cadwch ganhwyllau allan o gyrraedd plant ac anifeiliaid
- Defnyddiwch ddiffoddwr canhwyllau i'w diffodd yn ddiogel
Diogelwch Tân - Batris Lithiwm:
Mae'r rhan fwyaf o ddyfeisiau modern sy’n gallu cael eu hailwefru yn defnyddio batris lithiwm-ion. Os caiff batri lithiwm-ion ei wefru, ei drin, ei storio neu ei waredu’n anghywir, mae perygl y gallai ordwymo, mynd ar dân neu hyd yn oed ffrwydro.
I helpu i leihau'r risgiau hyn, mae'n bwysig defnyddio'r gwefrydd cywir, osgoi gorwefru, a chadw llygad ar ddyfeisiau wrth wefru. Gwiriwch gyflwr batris yn rheolaidd a'u cadw i ffwrdd o dymheredd eithafol a peidiwch byth â gorchuddio dyfeisiau sy'n gwefru, byddwch yn ofalus o gynhyrchion ffug, cofiwch y gallai llawer o gynhyrchion a brynir ar-lein fod yn ffug, felly prynwch eich eitemau gan fasnachwyr cyfreithlon bob amser.
Diogelwch eitemau trydanol y cartref:
Mae llawer o danau damweiniol mewn tai yn cael eu hachosi gan offer trydanol diffygiol, gan gynnwys socedi wedi'u gorlwytho a chyfarpar diffygiol. Gall eitemau bob dydd fel gwefrydd ffôn symudol beri risg arbennig, yn ogystal ag e-sigaréts a blancedi trydan os ydyn nhw'n cael eu defnyddio'n anghywir neu eu gadael heb neb i gadw llygad arnyn nhw. Gallwch chi leihau'r tebygolrwydd o dân trydanol yn sylweddol drwy sicrhau bod y dyfeisiau hyn mewn cyflwr da ac yn cael eu defnyddio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, ac nad ydyn nhw'n sownd wrth y plwg pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
Dylai pawb yn eich cartref hefyd wybod beth i’w wneud os bydd tân a dylech chi brofi larymau mwg yn rheolaidd.
|
Bydd llyfryn diogelwch tân, sydd wedi cael ei gyhoeddi gan Wasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn cael ei ddosbarthu i'ch drws yn ystod yr wythnosau nesaf.
Ymunwch â'n tîm!
Labrwr-Dechnegydd - Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydyn ni'n chwilio am labrwr-dechnegydd ag agwedd gadarnhaol i ymuno â'n Tîm Cynnal a Chadw Ymatebol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
- £13.26 - £13.69 yr awr / £25,583 - £26,403 y flwyddyn
- Parhaol/amser llawn
- Mae’r swydd wedi’i lleoli yn Llanelli
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 5 Ionawr 2026
|
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn tai sy'n eiddo i'r Cyngor a chymunedau.
Mae ein Tîm Tai - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn darparu amrywiaeth eang o gymorth i denantiaid, trigolion a chymunedau, yn ogystal â chymryd camau ffurfiol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled Sir Gaerfyrddin.
Yn ddiweddar, sicrhaodd ein tîm bedwar gorchymyn cau 90 diwrnod (gorchmynion cyfreithiol sy'n gwahardd unigolion rhag cael mynediad i adeiladau am gyfnod penodol) i ddiogelu trigolion mewn perygl a lleihau tarfu difrifol mewn cymunedau. Mae hyn yn cynnwys diogelu unigolion rhag camfanteisio sy'n gysylltiedig â defnyddio cyffuriau, helpu trigolion sy'n agored i niwed, ac atal aflonyddwch sylweddol a gafodd ei achosi gan denant a'u cysylltiadau yn ardal Sanclêr, Y Fan, Clos Granby a Llys y Felin (Llanelli).
Mae ein Tîm Tai - Ymddygiad Gwrthgymdeithasol hefyd wedi cael meddiant ar ddau gartref sy'n eiddo i'r Cyngor yng Nghlos Granby, Llanelli a Maescader, Pencader oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a difrod difrifol i eiddo.
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae ein tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol wedi cyflwyno deg rhybudd/hysbysiad gwarchod y gymuned i unigolion sy'n achosi niwsans i gymdogion a'r gymuned ehangach. Gall methu â chydymffurfio â'r hysbysiadau hyn arwain at hysbysiadau cosb benodedig neu gamau gorfodi cryfach o ran tenantiaeth.
Ochr yn ochr â chamau gorfodi ffurfiol, mae ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gefnogi cymunedau drwy gynnal trafodaethau â'r rhai sy'n gysylltiedig â'r mater, cynnig cyfryngu a chyngor, cyflwyno llythyrau rhybudd neu rybuddion/hysbysiadau gwarchod y gymuned, a gweithio'n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys i gynnal patrolau ar y cyd mewn ardaloedd problemus.
Ein nod yw cadw cymunedau'n ddiogel a datrys problemau'n gynnar drwy gyfathrebu, cymorth a chyfryngu, gan ddefnyddio camau gorfodi dim ond pan fo ymddygiad yn barhaus, yn ddifrifol neu'n niweidiol, a phan fo angen gwarchod y gymuned.
|
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Newidiadau i gasgliadau gwastraff yn ystod y Nadolig
Gwiriwch eich dyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu dros gyfnod yr ŵyl. Mae newidiadau wedi'u gwneud i sicrhau bod gwasanaethau'n rhedeg yn hwylus yn ystod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
Dyma pryd y bydd eich biniau yn cael eu casglu dros y Nadolig:
|
Diwrnod casglu arferol
|
Newid diwrnod
|
|
Dydd Llun 22 Rhagfyr
|
Dydd Sul 21 Rhagfyr
|
|
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr
|
Dydd Llun 22 Rhagfyr
|
|
Dydd Mercher 24 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 23 Rhagfyr
|
|
Dydd Iau 25 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 24 Rhagfyr
|
|
Dydd Gwener 26 Rhagfyr
|
Dydd Sul 28 Rhagfyr
|
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
Dydd Llun 29 Rhagfyr
|
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
Dydd Mawrth 30 Rhagfyr
|
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
Dydd Mercher 31 Rhagfyr
|
|
Dydd Iau 1 Ionawr
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
|
Dydd Gwener 2 Ionawr
|
Dydd Sadwrn 3 Ionawr
|
Cofiwch:
- Rhoi eich biniau mas erbyn 6am
- Cadw at yr uchafswm o dri bag du
- Golchi a gwasgu eich deunydd ailgylchu
|
Amseroedd agor gwasanaethau'r Cyngor dros y Nadolig
Mae gennym dudalen benodol ar ein gwefan gyda rhestr o oriau agor y Nadolig ar gyfer ein gwasanaethau fel Hwbs, Llyfrgelloedd, canolfannau hamdden a chanolfannau Ailgylchu.
Os oes angen help arnoch mewn argyfwng, bydd staff Llesiant Delta wrth law i helpu drwy gydol cyfnod y Nadolig. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt
Mae eich swyddog tai yma i'ch helpu
Mae ein swyddogion tai yn hawdd siarad â nhw ac yn barod i helpu gyda materion sy'n gysylltiedig â thenantiaeth a chynnig cymorth, sy'n cynnwys:
-
Cymorth ymarferol yn ymwneud â chyfrifoldebau tenantiaeth – canllawiau clir ar eich hawliau a'ch rhwymedigaethau i wneud yn siŵr bod pethau'n mynd yn hwylus
-
Cymorth yn ymwneud â rheolaeth ariannol a chyllidebu – cyngor i reoli costau cartref
-
Cymorth yn ymwneud â materion ystadau ac eiddo – sicrhau bod mannau cymunedol, ystadau a chartrefi yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda a bod unrhyw faterion yn cael eu trin yn brydlon
-
Cyngor ac ymyrraeth yn ymwneud â phryderon ymddygiad gwrthgymdeithasol – helpu tenantiaid a chymunedau i gadw cymdogaethau yn ddiogel.
-
Cymorth wedi'i deilwra ar gyfer tenantiaid sy'n agored i niwed – cymorth ychwanegol i'r rhai sydd ei angen, gan gynnwys mynediad at wasanaethau a chymorth parhaus i aros yn annibynnol
|
Camau syml i leihau eich biliau ynni
Os ydych chi am leihau eich biliau ynni, mae'r chwe cham syml a rhad ac am ddim hyn yn lle da i ddechrau. Mae'r rhan fwyaf o'r camau hyn yn addas ar gyfer cartrefi sydd â boeleri nwy cyfunol (combi).
Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig peidio â gadael i'ch cartref fynd yn rhy oer, gan fod hyn yn gallu effeithio ar eich iechyd a chynyddu'r risg o leithder a llwydni. Ceisiwch gadw tymheredd eich cartref rhwng 18°C a 21°C.
Rhagor o wybodaeth am reoli lleithder a llwydni yn eich cartref
-
Gostwng tymheredd y thermostat os oes modd a gwisgo dillad mwy cynnes Gallai gosod thermostat eich ystafell 1°C yn is leihau eich costau gwresogi hyd at 10%.
-
Gostwng tymheredd llif eich boeler Mae'r rhan fwyaf o foeleri cyfunol (combi) yn gweithio'n dda ar tua 60°C. Gall gostwng y tymheredd ddefnyddio llai o nwy.
-
Gostwng gwres rheiddiaduron ychydig Gall hyn eich helpu i gadw'n gyfforddus wrth ddefnyddio llai o ynni.
-
Diffodd y gosodiad twymo dŵr ymlaen llaw ar y boeler Mae hyn yn arbed ynni, er y bydd yn rhaid i chi aros ychydig yn hirach am ddŵr poeth o bosib. Edrychwch ar eich llawlyfr i gael gwybod sut i wneud hyn.
-
Sychu dillad yn yr aer Ceisiwch sychu dillad yn yr awyr agored gymaint â phosibl. Dylech chi osgoi sychu dillad ar reiddiaduron, gan fod hyn yn cynyddu lleithder y tu mewn i'r cartref a gall achosi llwydni smotiau du lle mae'r lleithder yn taro wyneb oer yn y cartref.
-
Gwella awyru a chysgodi Agorwch y ffenestri pan fo hynny’n bosibl a defnyddio bleinds, llenni, neu gysgodi naturiol i helpu i reoli'r tymheredd yn y cartref.
|
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda
Hoffai ein tîm ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i'n holl denantiaid.
|
|
|
|
|
|