|
Ymadawydd gofal Sir Gâr yn rhannu ei stori
Rydyn ni wedi bod yn sgwrsio gyda rhywun arbennig iawn...
Dyma Jodie, sy'n ymadawydd gofal yn Sir Gâr. Aeth Jodie i ofal maeth yn ei harddegau a threuliodd weddill ei phlentyndod mewn gofal maeth.
Mae hi'n siarad am y person a luniodd sut mae hi'n gweld ei hun ac a ddangosodd iddi y math o fam y mae hi eisiau bod. Ei mam faeth, Jackie.
Er gwaethaf yr heriau y mae Jodie wedi'u hwynebu, mae hi bellach yn berchennog busnes llwyddiannus, yn fam ymroddedig, ac yn ymadawydd gofal balch.
|
|
Cefnogaeth i'r rhai sy'n gadael gofal yn Sir Gâr
Mae'r rhai sy'n gadael gofal yn Sir Gâr yn gymwys i gael Gwasanaethau Gadael Gofal penodol.
O 16 oed, gall pobl ifanc gael eu cefnogi gan Ymgynghorydd Personol o'n Tîm Camau Nesaf, sy'n cynnig arweiniad ar bopeth o dai a thenantiaeth i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth.
Mae cymorth ar gael hyd at 21 oed, neu 25 oed mewn rhai amgylchiadau.
|
Efallai y bydd y rhai sy'n gadael gofal yn Sir Gâr yn gymwys i gael rhyddhad o’r dreth gyngor.
Mae ymgeiswyr â phrofiad gofal sy'n bodloni meini prawf hanfodol unrhyw swydd wag nad yw'n swydd mewn ysgol gyda Chyngor Sir Gâr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad yn awtomatig.
Mae'r cynllun hwn yn helpu pobl sy'n gadael gofal i gael y cyfleoedd maen nhw'n eu haeddu.
Ticiwch y Bocs
Rydyn ni'n falch o gefnogi'r Rhwydwaith Maethu i annog pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i Dicio'r Bocs ar eu ceisiadau UCAS.
Mae gormod o bobl sy'n gadael gofal yn colli mas ar gymorth ychwanegol o ran cyllid, llesiant a llety gan nad ydyn nhw'n ticio'r bocs.
Ar hyn o bryd, mae pobl ifanc sydd â phrofiad gofal 3.5 gwaith yn llai tebygol o symud ymlaen i addysg uwch na'u cyfoedion. Gyda'n gilydd, gallwn ni newid hynny drwy sicrhau bod pob ymgeisydd yn deall y gwahaniaeth y gall un tic syml ei wneud.
Os ydych chi'n gadael gofal yn Sir Gâr, gall eich Ymgynghorydd Personol eich tywys drwy'r cymorth sydd ar gael.
|
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydyn ni wedi penderfynu gadael X yn ddiweddar.
I weld y newyddion, y straeon a’r digwyddiadau diweddaraf yn ymwneud â maethu yn Sir Gâr, dilynwch ni yma:
|
|
|
|