|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Cadw chi a'ch cartref yn ddiogel rhag tân
Yn ystod y misoedd diwethaf, bu tanau mewn rhai cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin. Diolch byth, roedd pawb yn ddiogel, ond mae'r digwyddiadau hyn yn dangos pa mor bwysig yw diogelwch trydanol a diogelwch tân yn ein cartrefi.
Gall yr awgrymiadau syml hyn helpu i'ch cadw chi, eich teulu a'ch cartrefi yn ddiogel:
|
- Plygiwch offer pŵer uchel, fel peiriannau golchi dillad a sychwyr dillad yn uniongyrchol i soced yn y wal (yn hytrach na defnyddio cebl estyn)
- Peidiwch â gorlwytho socedi / ceblau estyn gan fod terfyn ar faint o ampau o bŵer y gall y rhain eu cymryd
- Peidiwch â phlygio un cebl estyn i un arall
- Gwnewch yn siŵr bod consolau chwarae gemau wedi'u hawyru'n dda ac yn cael eu diffodd pan nad ydynt yn cael eu defnyddio
- Dylech fonitro’n ofalus eitemau trydanol a ddefnyddir mewn adeiladau allanol fel garejys a siediau
- Peidiwch â gosod eitemau trydanol ar ben offer eraill, fel cwcerau
- Sicrhewch mai un plwg sydd i bob soced
- Dylech wefru eitemau yn ddiogel ar arwynebau caled a pheidiwch â gadael iddynt wefru dros nos
- Os ydych chi'n prynu eitemau trydanol ail-law, gwiriwch a ydynt wedi cael prawf PAT (diogelwch) a bod ganddynt farc diogelwch Prydeinig neu Ewropeaidd
- Gwiriwch eich larymau mwg unwaith yr wythnos ac ailosod y batris yn rheolaidd (mae hyn yn ofyniad yn eich Contract Meddiannaeth)
- Edrychwch am arwyddion o wifrau rhydd neu beryglus, fel marciau llosg, plygiau/socedi poeth, ffiws wedi chwythu a goleuadau sy'n fflachio
- Datgysylltwch offer pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio a phan fyddwch chi'n mynd i'r gwely
- Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio gwresogyddion cludadwy – cadwch nhw'n glir o lenni a dodrefn, eu diffodd pan fyddant heb oruchwyliaeth a'u cadw'n ddiogel fel na allant ddisgyn.
- Glanhewch fentiau offer (fel sychwyr dillad) yn rheolaidd
- Rhowch wybod am unrhyw ddiffygion fel marciau llosgi, gwreichion ac arogleuon i'n gwasanaeth atgyweirio ar unwaith
- Peidiwch byth â rhedeg ceblau o dan garpedi neu rygiau
Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor ar gadw eich hun, eich teulu a'ch cartref yn ddiogel ar wefan Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Anifeiliaid anwes yn y cartref
Mae anifeiliaid anwes yn ffynhonnell o lawenydd, cwmnïaeth a chefnogaeth emosiynol i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod pawb sy'n byw mewn cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn parchu'r telerau a nodir yn eu Contract Meddiannaeth i sicrhau amgylchedd diogel a dymunol i bawb.
Gall pob preswylydd sy'n byw mewn cartref sy'n eiddo i'r Cyngor gyda mynedfa breifat gadw un ci a/neu un gath heb ofyn am ganiatâd. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cadw mwy o anifeiliaid anwes na hyn neu unrhyw rywogaeth arall, rhaid i chi anfon cais ysgrifenedig atom.
Os rhoddir caniatâd, bydd amodau ar waith y mae'n rhaid eu dilyn. Bydd methu â chadw at yr amodau yn arwain at dynnu’r caniatâd yn ôl ac os bydd achos difrifol o dorri’r amodau gallai arwain at daliadau am ddifrod neu gamau cyfreithiol.
I ofyn am ganiatâd neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'ch swyddog tai neu e-bostiwch tai@sirgar.gov.uk
|
Gwasanaethu boeleri am ddim
Mae gwasanaethu boeleri’n flynyddol yn wasanaeth rhad ac am ddim ac mae'n waith hanfodol i gadw chi a'ch cartref yn ddiogel, yn enwedig os nad yw'ch boeler wedi'i ddefnyddio dros fisoedd y gwanwyn a'r haf. Rhaid i ni hefyd gynnal profion diogelwch trydanol rheolaidd.
Bydd gwasanaethu eich boeler yn rheolaidd yn helpu eich boeler i redeg yn fwy effeithlon, gan gostio llai i chi redeg yn ogystal â gwneud yn siŵr ei fod yn ddiogel. Byddwn hefyd yn gwirio eich larymau carbon monocsid a mwg fel rhan o'r gwasanaeth.
Mae'n bwysig ein bod yn gallu cael mynediad i'ch cartref i wneud y gwaith hwn. Os nad yw'r apwyntiad a drefnwyd yn gyfleus, rhowch wybod i ni.
Os ydych chi'n profi problem gyda'ch boeler neu larwm carbon monocsid, dywedwch wrthym. Ffoniwch 01267 234567 neu rhowch wybod am atgyweiriad ar-lein.
|
Cymorth ar gael i helpu pobl Sir Gâr i gadw'n gynnes y gaeaf hwn
Gall pobl gael cyngor pwrpasol am reoli defnydd ynni, gwneud cais am grantiau, adolygu biliau ynni, a gwella effeithlonrwydd cartref. Mae'r gwasanaeth hefyd yn darparu cymorth cyllidebu a mwyhau incwm, ynghyd â mesurau arbed ynni ymarferol lle bo hynny'n briodol.
Mae modd cael cyngor am ynni drwy wneud apwyntiad yn un o'r lleoliadau canlynol yn Sir Gâr:
-
Hwb Caerfyrddin: Ar ddydd Llun, 9:00am - 4:00pm
-
Hwb Rhydaman: Ar ddydd Mawrth, 9:00am - 4:00pm
-
Hwb Llanelli: Ar ddydd Mercher, 9:00am - 4:00pm
I drefnu apwyntiad neu i gael cyngor am ynni, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth Sir Gâr neu ffoniwch 01267 234488.
Gall atgyfeiriadau i'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth gael eu gwneud hefyd yn uniongyrchol drwy unrhyw un o'r canolfannau Hwb.
|
|
|
|