|
Maethu Cymru Sir Gâr yn lansio ymgyrch newydd - Maethu yn Llanelli
Rydyn ni'n falch o gyhoeddi lansiad ein hymgyrch newydd, Maethu yn Llanelli, sydd â'r neges graidd: Gofalwyr maeth lleol i blant lleol. Dechreuwch eich siwrnai.
Mae Maethu yn Llanelli yn ymgyrch bwrpasol mewn ymateb i'r niferoedd cynyddol o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr sy'n dod o Lanelli.
Mae data diweddar yn dangos bod 76% o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr ar hyn o bryd yn dod o Lanelli (2023-2024). Ond mae llawer o blant a phobl ifanc yn cael eu lleoli y tu allan i'w tref enedigol oherwydd prinder gofalwyr maeth lleol.
|
|
|
Gofalwr Maeth Sir Gâr yn agor ei chartref a sylweddoli bod gyda hi fwy i'w gynnig nag a feddyliai
Un pryder cyffredin sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a yw eu cartref neu eu sgiliau yn addas. Fel rhan o'n hymgyrch Maethu yn Llanelli, rydyn ni'n mynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin fel y rhain sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau.
Y gwir yw, mae llai yn eich rhwystro rhag maethu nag y mae llawer o bobl yn sylweddoli.
Does dim angen i chi fod yn berchen ar eich cartref; gallwch chi faethu os ydych chi'n rhentu, cyn belled â bod eich sefyllfa fyw yn sefydlog. Does dim angen i chi fod yn briod na chael eich plant eich hun. Gallwch chi faethu fel person sengl, fel rhan o gwpl, neu fel teulu.
Yr hyn sy'n hanfodol yw bod gennych chi ystafell wely sbâr a'ch bod chi'n gallu darparu amgylchedd diogel, cefnogol a gofalgar i blentyn neu berson ifanc.
|
Gofalwr Maeth Sir Gâr yn gweithio'n llawn amser ac yn byw ar ei ben ei hun, ond maethu dal yn ffitio i'w fywyd
Un pryder cyffredin arall sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a yw eu ffordd o fyw yn ddigon hyblyg. Fel rhan o'n hymgyrch Maethu yn Llanelli, rydyn ni'n parhau i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin fel hyn sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau.
Mae llawer o bobl yn cymryd yn ganiataol bod yn rhaid iddyn nhw fod gartref yn llawn amser, cael llawer o amser sbâr, neu wneud newidiadau mawr i'w bywydau bob dydd er mwyn maethu. Ond dyw hynny ddim yn wir bob amser. Rydyn ni'n cefnogi amrywiaeth eang o ofalwyr maeth. Mae rhai yn gweithio'n llawn amser, eraill yn gweithio'n rhan-amser, ac mae llawer yn cydbwyso cyfrifoldebau eraill ochr yn ochr â maethu.
Mae gwahanol fathau o faethu i gyd-fynd â gwahanol ffyrdd o fyw, o faethu tymor byr a thymor hir i fathau mwy arbenigol o faethu. Mae rhai gofalwyr maeth yn darparu seibiannau byr, tra bod eraill yn cefnogi plant a phobl ifanc yn fwy rheolaidd. Mae pob rôl yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi.
|
Cymorth emosiynol ac ariannol anhygoel gan Faethu Cymru Sir Gâr
Un o'r pryderon mwyaf cyffredin sydd gan ddarpar ofalwyr maeth yw a fydden nhw'n cael digon o gymorth, yn emosiynol ac yn ariannol. Fel rhan o'n hymgyrch Maethu yn Llanelli, rydyn ni'n parhau i fynd i'r afael â chamsyniadau cyffredin fel hyn sy'n aml yn atal darpar ofalwyr maeth rhag gwneud ymholiadau.
Rydyn ni'n darparu system gymorth gref i ofalwyr maeth, gan gydnabod eu bod nhw'n chwarae rhan hanfodol ym mywydau plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn Sir Gâr. Mae'r cymorth hwn yn dechrau gyda hyfforddiant cyn cymeradwyo, fel Sgiliau i Faethu, ac mae'n parhau gyda chyfleoedd dysgu a datblygu.
Rydyn ni'n darparu cymorth ariannol wedi'i deilwra i anghenion penodol y plentyn neu'r person ifanc a lefel y gofal sydd ei angen. Yn unol â'n fframwaith taliadau maethu newydd, mae gofalwyr maeth yn derbyn pecyn sy'n amrywio o £351 i £942 yr wythnos.
|
|
|
|
|