|
 Digwyddiad newydd Cwrdd â'r Cyflenwr - Priodasau!
Mae priodasau yn fusnes mawr ac yn un y bydd ein cadwyn gyflenwi leol yn manteisio i'r eithaf arno yn y digwyddiad newydd cyffrous hwn a fydd yn cael ei gynnal yn Ionawr 26. Mae swyddogion y Cyngor o adrannau datblygu twristiaeth a swyddfa'r Cofrestrydd yn awyddus i gysylltu cyflenwyr lleol gyda lleoliadau a phartneriaid twristiaeth, gan gryfhau cadwyn gyflenwi priodasau'r sir a chreu profiadau bythgofiadwy a chyflwyno'r Sir fel y gyrchfan fwyaf rhamantus yn y DU.
Bydd y digwyddiad yn dwyn ynghyd cymysgedd o fusnesau lleol ar draws pedair thema ysbrydoledig:
-
Gwnaed yn Sir Gâr (crefftau, gemwaith, sebonau, blasu),
-
Blas ar Sir Gâr (arlwywyr a bwyd artisan),
-
Profiad o Sir Gâr (ffotograffiaeth, adloniant, llesiant), a
-
Steil Sir Gâr (gwerthwyr blodau, steilwyr, addurniadau).
|
|
Be sy' mlaen - Hydref
 Helpwch eich gwesteion i wneud y gorau o'u hymweliad drwy arddangos y rhestr "be sy' mlaen" ym mis Hydref 2025 yn eich busnes. O farchnadoedd lleol i wyliau cymunedol lleol, mae'n llawn pethau i'w gweld a'u gwneud ym mhob rhan o'r sir. Gallwch arddangos y rhestr yn eich derbynfa, mewn pecynnau croeso, neu ar hysbysfyrddau - unrhyw le y bydd gwesteion yn ei gweld.
|
Dyddiadau Marchnadoedd Stryd Artisan ym mis Hydref
 Cyfle perffaith i brofi bwyd a diod cartref, dewis anrheg unigryw wedi'i wneud â llaw, neu fwynhau'r awyrgylch bywiog, mae ein marchnadoedd stryd artisan yn dychwelyd ym mis Hydref, gan ymweld â Llanelli (9 Hydref), Rhydaman (10 Hydref) a Chaerfyrddin (11 Hydref)
Rhowch wybod i'ch gwesteion trwy gynnwys hyn yn eich argymhellion lleol. Ariannwyd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
|
|
Cynllun newydd i gofrestru Llety yn cael cymeradwyaeth derfynol
Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2025 ar gyfer Deddf Llywodraeth Cymru i gofrestru holl ddarparwyr llety i ymwelwyr yng Nghymru. Gan ddechrau yn 2026 ac yn cael ei oruchwylio gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i chi gofrestru gyda nhw os ydych chi'n codi tâl ar ymwelwyr am aros dros nos yng Nghymru.
Gall darparwyr llety gael rhagor o wybodaeth drwy gofrestru ar gyfer seminarau ar-lein ym mis Tachwedd
|
Canllaw swyddogol i ymwelwyr â'r sir bellach ar gael
Waeth pa mor fawr neu fach yw eich digwyddiad, gallwn helpu i'w hyrwyddo y gaeaf hwn drwy ei hysbysebu am ddim ar wefan Darganfod Sir Gâr, drwy ein partneriaeth â Radio Sir Gâr a thrwy ein negeseuon wythnosol i'n 24k o ddilynwyr ar Facebook, yn ogystal â'i anfon i Croeso Cymru a Visit Britain. Peidiwch â cholli'r cyfle hwn!
|
Cyllid ar gael nawr ar gyfer sgiliau
Yn cael ei ddarparu gan Busnes Cymru, gall busnesau twristiaeth a lletygarwch gael cyllid i gefnogi staff i fynychu cyrsiau hyfforddi achrededig ar-lein neu yn bersonol mewn meysydd fel sgiliau digidol a hyfforddiant sy'n benodol i'r sector. Gall cyflogwyr wneud cais am 50% o'r cyllid tuag at y costau.
|
|
|
Lluniwch ddyfodol ein trefi - Dyma'ch cyfle i ddweud eich dweud!
Rydyn ni am glywed gan fusnesau lleol a'r gymuned wrth i ni geisio llunio dyfodol canol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman. Gallwch roi eich barn trwy ein tudalen we ymgynghori ar-lein neu yn bersonol yn un o'n sesiynau galw heibio 12pm - 7pm:
- Dydd Sul 23 Hydref - Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman
- Dydd Llun 24 Hydref - 1 Rhodfa Stepney, Llanelli
- Dydd Gwener 28 Hydref - Neuadd Ddinesig San Pedr, Caerfyrddin
Mae eich mewnbwn yn bwysig a thrwy gymryd rhan, byddwch chi'n helpu i greu trefi bywiog, cysylltiedig a chroesawgar sy'n gweithio i bawb.
|
Gweminar Croeso Cymru i’r Diwydiant
Ymunwch â gweminar diwydiant rhad ac am ddim Croeso Cymru ar 13 Tachwedd, 2–3:30pm, i ddarganfod y diweddaraf am yr ymgyrch Blwyddyn Croeso a Hwyl. Bydd y sesiwn hon yn rhoi cipolwg ar ei strategaeth farchnata hirdymor ar gyfer 2026 a thu hwnt, sut mae gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus a'r cyfryngau yn gwneud Cymru yn gyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi, a chyfleoedd i fusnesau ymgysylltu â phartneriaid y diwydiant teithio. Gall mynychwyr hefyd gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb fyw. Mae'r digwyddiad ar-lein hwn yn agored i bob busnes twristiaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid, ac mae'n gyfle gwerthfawr i gydweithio a dysgu. Archebwch erbyn 10 Tachwedd, 4pm.
|
Drama Newydd 'Y Golau: Dŵr' a ffilmiwyd yn Sir Gâr ar eich sgriniau cyn hir
Mae Sir Gâr wedi bod yn rhan ganolog o'r ddrama newydd sbon ar S4C, Y Golau: Dŵr a ymddangosodd gyntaf ym mis Medi a bydd yn cael ei darlledu ar Channel 4 yn y Flwyddyn Newydd. Yn cynnwys actorion o Gymru a'r DU, mae'r cynhyrchiad nid yn unig wedi arddangos ein tirweddau ond mae hefyd wedi cefnogi'r economi leol trwy lety, arlwyo a gwariant eilaidd.
📺Heb ei weld ar S4C? Gallwch chi ddal i fyny nawr ar S4C Clic ac All 4.
|
|
|
Wythnos Llysgenhadon Cymru - Cymerwch ran!
Rydyn ni'n paratoi i ddathlu Wythnos Llysgenhadon Cymru 17-23 Tachwedd, a bydden ni wrth ein bodd i Lysgenhadon Sir Gâr fod yn rhan ohoni!
Mae hwn yn gyfle gwych i arddangos beth sy'n gwneud ein hardal yn arbennig boed hynny'n daith dywysedig, sgwrs, gweithdy, neu weithgaredd arall sy'n taflu goleuni ar ddiwylliant, treftadaeth a thirweddau Sir Gâr.
Os hoffech gynnal gweithgaredd yn ystod yr wythnos, rhowch wybod i ni erbyn 15 Hydref fel y gallwn ei ychwanegu at y rhaglen a helpu i ledaenu'r gair.
Gadewch i ni wneud hyn yn wythnos i'w chofio a dangos yr hyn sydd gan Sir Gâr i'w gynnig!
|
Gweinidog yn ymweld ag amgueddfa Sir Gâr yn dilyn buddsoddiad mawr gan y gronfa Y Pethau Pwysig
Bu Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, yn ymweld ag Amgueddfa Sir Gâr heddiw (dydd Llun, 15 Medi) i weld canlyniadau prosiect gwella mawr a wnaed yn bosibl drwy gronfa Y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru.
Cafodd Amgueddfa Sir Gâr £264,000 tuag at gyfanswm gwerth prosiect o £330,000, i gyflawni ystod o welliannau sy'n gwella profiad ymwelwyr yn sylweddol.
Yn ogystal, llwyddodd Cyngor Sir Caerfyrddin i sicrhau cyllid gan y gronfa Y Pethau Pwysig i uwchraddio'r cyfleusterau yn y Grîn, Llansteffan. Cafodd y cynllun hwn £224,000 gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi cyfrannu at gyfanswm gwerth y prosiect o £280,000.
|
Blwyddyn Croeso: cronfa addasu i’r tywydd ar gyfer atyniadau twristiaeth
Mae Croeso Cymru wedi lansio cronfa grantiau cyfalaf i helpu atyniadau twristiaeth yng Nghymru i ddod yn fwy gwydn i dywydd gwael. Gyda'r nod o hybu twristiaeth drwy gydol y flwyddyn a gwydnwch economaidd, mae grantiau o £5,000–£20,000 (sy'n talu hyd at 75% o'r costau) ar gael ar gyfer gwelliannau cymwys sy'n gwrthsefyll y tywydd. Rhaid i brosiectau gael eu cwblhau erbyn 31 Mawrth 2026.
Mae'r gronfa'n agored i fusnesau twristiaeth bach a chanolig yng Nghymru sydd wedi'u hachredu neu'n gymwys ar gyfer VAQAS, ac mae'n cefnogi mesurau sy'n lleihau effaith tywydd gwael ar weithrediadau a phrofiad ymwelwyr. Gwnewch gais nawr.
|
|
|
|
|
|