|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Tai ar werth drwy Berchentyaeth Cost Isel ym Mrynmefys, Llanelli
Mae tri thŷ fforddiadwy newydd ym Mrynmefys, Llanelli bellach ar gael drwy Berchentyaeth Cost Isel.
Mae'r tai ar gael i bobl leol nad ydyn nhw'n gallu fforddio cartref addas am bris y farchnad agored ond sy'n gallu:
- Cael morgais
- Fforddio ad-daliadau
- Fforddio'r costau sy'n gysylltiedig â phrynu tŷ (e.e. blaendal a ffïoedd cyfreithiol)
Rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb mewn prynu un o'r tai fforddiadwy newydd gofrestru yn gyntaf ar system gosodiadau ar sail dewis y Cyngor Canfod Cartref.
|
Newidiadau i'r ffordd rydyn ni'n delio â thaliadau â cherdyn dros y ffôn
Mae newidiadau wedi cael eu gwneud i'r ffordd rydyn ni'n delio â thaliadau â cherdyn dros y ffôn i ddiogelu eich manylion personol yn well.
Mae'r system newydd yn golygu, wrth dalu â cherdyn dros y ffôn, y byddwch chi'n cael eich trosglwyddo i linell dalu ddiogel awtomatig i roi manylion eich cerdyn gan ddefnyddio bysellbad eich ffôn, yn hytrach na darllen y manylion yn uchel.
Mae'r newidiadau hyn wedi cael eu cyflwyno gan Capita, y darparwr taliadau rydyn ni'n ei ddefnyddio.
Mae preswylwyr yn dal i allu siarad â'u Swyddog Tai, Tîm Rhenti Tai neu Ymgynghorydd Gwasanaethau Cwsmeriaid i ddechrau, ond yna byddan nhw'n cael eu trosglwyddo i linell dalu breifat i dalu â cherdyn.
Gallwch chi barhau i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, gorchmynion sefydlog, taliadau BACS, taliadau cerdyn drwy wefan y Cyngor neu daliadau arian parod/siec/cerdyn yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor a thaliadau ffôn awtomatig 24/7.
|
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth at y tîm a bydd yn cael ei asesu cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Mae eich Swyddog Tai yma i'ch helpu
Mae eich Swyddog Tai lleol yn gallu rhoi amrywiaeth o gymorth a chyngor i chi. Mae hyn yn cynnwys cymorth ynghylch eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel un o denantiaid y Cyngor, cymorth ariannol, cyngor ac arweiniad ar dalu eich rhent a chymorth gyda newidiadau i'ch Contract Meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth).
Hefyd mae timau penodol sy'n mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cymunedau/tai sy'n eiddo i'r Cyngor a thîm sy'n delio â materion ystadau a chymunedol.
Ewch i wefan y Cyngor i chwilio am eich Swyddog Tai neu i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth maen nhw'n ei roi.
|
Atal a lleihau anwedd a llwydni yn eich cartref
Gall dau berson sy'n gwneud gweithgareddau arferol yn y cartref fel coginio, cael bath neu gawod, sychu dillad dan do, a defnyddio'r tegell gynhyrchu hyd at 26 peint o gyddwysiad mewn un diwrnod yn unig.
Gellir atal hyn a'i wella drwy ddilyn yr awgrymiadau hyn yn ddyddiol:
- Sychwch olch y tu allan
- Peidiwch byth â sychu golch ar reiddiaduron
- Ceisiwch gadw tymheredd eich cartref yn uwch na 15°C
- Gosodwch ddodrefn ychydig oddi wrth y waliau i gynyddu llif aer
- Glanhewch yn rheolaidd yr arwynebau sydd wedi'u gorchuddio ag anwedd a gwaredwch lwydni drwy ddefnyddio chwistrell ffyngladdol (defnyddiwch ganllawiau'r gwneuthurwr)
- Gwaredwch lwydni bob amser, a pheidiwch â gadael iddo dyfu
- Peidiwch byth â chael gwared ar lwydni gan ddefnyddio brwsh neu hwfer oherwydd gall hyn wasgaru'r sborau
- Coginiwch bob amser gan ddefnyddio caeadau sosbenni a ffaniau echdynnu
- Llenwch eich bath gan ddefnyddio dŵr oer yn gyntaf i leihau stêm
- Gadewch holltau awyru ar agor drwy gydol y flwyddyn
- Cadwch ddrysau'r gegin a'r ystafell ymolchi ar gau wrth goginio neu wrth gael cawod a gadewch ffan echdynnu ymlaen am 20 munud wedi hynny (agorwch ffenestr os nad oes ffan echdynnu yno).
Os yw lleithder neu lwydni yn parhau i ddatblygu ar ôl defnyddio'r dulliau hyn am gwpl o fisoedd, rhowch wybod i ni am hyn.
Diogelu rhag tân yn y cartref
Gall dilyn arferion syml helpu i'ch cadw chi, eich teulu a'ch cartref yn ddiogel rhag tân yn y cartref. Mae hyn yn cynnwys:
- Peidiwch byth â gorlwytho socedi neu geblau estyn
- Diffoddwch offer wrth y wal pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio (yn enwedig dros nos)
- Cadwch wresogyddion cludadwy i ffwrdd o ddodrefn, llenni a dillad gwely
- Peidiwch â gadael bwyd i goginio heb fod rhywun yn cadw llygaid arno - yn enwedig sosbenni sglodion/padelli ffrïo
- Dylech brofi eich larymau mwg bob wythnos (cysylltwch â ni os nad yw eich rhai chi'n gweithio)
- Peidiwch byth â rhwystro allanfeydd tân neu goridorau
|
|
|
|
|