|
|
Mae 85% o blant sy'n byw gyda gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn aros yn eu hardal leol.
Mae maethu yn lleol o fudd nid yn unig i'r plant a'r bobl ifanc sydd angen gofal, ond hefyd i deuluoedd a chymunedau ledled Sir Gâr.
Yn agos at eu cartref, eu hysgol, a'u teulu a'u ffrindiau.
|
|
Uchafbwyntiau Cymuned Faethu Sir Gâr
 Roedd Jasmin o'r Rhwydwaith Maethu wedi ymuno â'n Grŵp Cymorth dan Arweiniad Mentor, gan roi arweiniad i'n gofalwyr maeth ynghylch eu holl hawliau o ran eu haelodaeth.
Gwnaethom weithio gyda Chanolfan Gwlyptir Llanelli – Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir yn ystod ei Gŵyl Gweision y Neidr i gynnal Gweithdy Creu Barcud i'n gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc. Dan arweiniad y Community Kite Project, gwnaethom ddysgu technegau traddodiadol Japan o greu barcud.
Rydym yn cynllunio ein Digwyddiad Haf blynyddol, a fydd yn llawn gweithgareddau hwyliog i'n gofalwyr maeth a phlant a phobl ifanc.
|
Sgiliau i Faethu
Rydym yn falch o fod wedi mabwysiadu Sgiliau i Faethu y Rhwydwaith Maethu, sef prif gwrs hyfforddiant paratoi y DU ar gyfer darpar ofalwyr maeth cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Mae hyn yn ffurfio Cam 3: Mae'r Hyfforddiant yn ein proses wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth a'r hyder i'r cyfranogwyr feithrin plant a phobl ifanc mewn gofal maeth.
Mae'r hyfforddiant yn cwmpasu chwe sesiwn hanfodol: beth sydd ei angen ar blant, meithrin perthynas, cartref amddiffynnol a chariadus, gofal therapiwtig, cefnogi hunaniaeth, trefniadau trosglwyddo a threfniadau'n dod i ben.
Gorffennaf oedd ein tro cyntaf yn cyflwyno'r hyfforddiant uwch hwn. Roeddem wrth ein bodd yn croesawu saith cartref!
|
|
Gofalwyr maeth Sir Gâr yn rhannu pwysigrwydd cymorth lleol
Mae pâr a drosglwyddodd i faethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr yn 2016 yn edrych yn ôl ar eu siwrnai, un sydd wedi ymestyn dros ddau ddegawd ac wedi trawsnewid bywydau llawer o blant a phobl ifanc.
Dechreuodd eu siwrnai faethu yn 2004 pan wnaeth perthynas, a oedd eisoes yn ofalwr maeth, eu hannog i ystyried maethu. Ar ôl dysgu am y broses a'r hyn oedd yn ei olygu, penderfynon nhw fynd amdani, a dydyn nhw ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.
|
Os ydych chi eisoes yn maethu ar gyfer asiantaeth neu awdurdod lleol arall, rydych chi eisoes wedi gwneud y penderfyniad pwysicaf – agor eich calon a'ch cartref i blant a phobl ifanc sydd angen amgylchedd sefydlog, cariadus.
Yn Maethu Cymru Sir Gâr, rydym yma i'ch cefnogi. P'un a ydych wedi cael eich cymeradwyo fel gofalwr maeth ond heb gael y cyfle i groesawu plentyn neu berson ifanc, neu os ydych chi'n symud o ardal arall, gallwn ni gynnig arweiniad, cefnogaeth a gwasanaethau wedi'u teilwra i'ch anghenion.
|
Mae dewis trosglwyddo i faethu gyda Maethu Cymru Sir Gâr yn cynnig sawl budd i chi:
- Ffocws lleol
- Cefnogaeth leol bwrpasol
- Cyfleoedd hyfforddi a datblygu
- Ymrwymiad cymunedol
|
|
|
|
|