Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
Cyfle olaf i leisio'ch barn am ein Gwasanaeth Tai
Mae Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR yn cau cyn bo hir ac rydyn ni am gael eich barn am y gwasanaeth rydyn ni'n ei ddarparu.
Mae'r arolwg wedi'i anfon at bawb sy'n byw mewn cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin ac mae'n gofyn cwestiynau yn ymwneud â'ch Swyddog Tai, ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwerth am arian, y gwasanaeth atgyweirio, ansawdd eich cartref a mwy.
I gwblhau'r arolwg, defnyddiwch y ddolen yn y testun neu'r e-bost rydych wedi'i dderbyn, neu defnyddiwch y copi papur a anfonwyd i'ch cartref.
Gwnewch bob ymdrech i gwblhau'r arolwg, mae eich barn yn ein helpu i lunio ein gwasanaeth a deall sut y gallwn ni wella.
Rhowch wybod i ni os nad ydych chi wedi cael yr arolwg - e-bostiwch ni neu ffoniwch 01267 234567.
Mae'r arolwg wedi'i anfon allan ar ein rhan gan Acuity.
Mae'r Cyngor yn lansio gwasanaeth i wella cartrefi ac ystadau
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio Tîm Tacluso'r Gwasanaeth Tai, gwasanaeth cynnal a chadw a glanhau newydd sy'n darparu gwasanaethau cynnal a chadw, atgyweirio a glanhau cyffredinol i ystadau a chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
Bydd y tîm yn cyflawni tasgau cynnal a chadw a glanhau cyffredinol ar raddfa fach i gynnal a gwella ymddangosiad cartrefi ac ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor yn ogystal â chefnogi gwasanaeth Atgyweirio Tai y Cyngor i gwblhau atgyweiriadau ar raddfa fach.
Patrolau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin
Mae ein timau'n perfformio patrolau ychwanegol mewn ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor ledled y sir i ddarparu presenoldeb ychwanegol yn y gymuned ac i atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os oes angen help neu gefnogaeth arnoch gan swyddog ar batrôl, rhowch wybod iddo.
Gall eich Swyddog Tai lleol ddarparu ystod o gymorth a chyngor i chi. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar eich hawliau a'ch cyfrifoldebau fel tenant y Cyngor, cymorth ariannol, cyngor ac arweiniad ar dalu eich rhent a chymorth gyda newidiadau i'ch Contract Meddiannaeth (cytundeb tenantiaeth).
Mae gennym hefyd dimau sy'n ymroddedig i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cartrefi/cymunedau sy'n eiddo i'r Cyngor a thîm sy'n delio â materion ystadau a chymunedol.
Ewch i wefan y Cyngor i ddod o hyd i'ch Swyddog Tai neu i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth y maen nhw'n ei roi.
Mae gwasanaethu'r boeler yn eich cartref bob blwyddyn yn bwysig i'ch cadw chi a'ch cartref yn ddiogel.
Mae'n bwysig y gallwn ni ddod i'ch cartref i wasanaethu'ch boeler, hyd yn oed yn ystod misoedd yr haf pan nad ydych chi'n ei ddefnyddio llawer. Mae'r gwasanaeth yn caniatáu i Westward (sy'n gwneud yr holl waith gwasanaethu a chynnal a chadw boeleri ar ein rhan) wirio bod y boeler yn gweithio'n ddiogel a'i fod mor effeithlon â phosibl. Gall boeler heb ei wasanaethu ddefnyddio mwy o danwydd ac yn costio mwy i chi.
Fel rhan o'r gwasanaeth, bydd y larymau tân a charbon monocsid yn eich cartref hefyd yn cael eu profi.
Gall gwrthod mynediad i'ch cartref arwain at orfodi mynediad. Gallai hyn arwain at dâl o £284 i dalu'r costau sy'n gysylltiedig â chael mynediad i'r eiddo drwy rym.
Nid ydym am wneud hyn, ond fel eich landlord mae'n ofynnol i ni o dan y gyfraith wasanaethu yr holl offer gwresogi yn eich cartref.
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw broblemau pan fyddwch chi'n cael eich apwyntiad i wasanaethu'ch boeler. Rydym yma i'ch helpu chi a'ch cefnogi chi.