|
 Camau gweithredu i hybu twristiaeth drwy gydol y flwyddyn
Mae mentrau marchnata sy'n hyrwyddo lles, ymlacio, a theithio ar adegau tawel i gyd yn rhan o raglen i gynyddu ymwybyddiaeth o'r Sir fel lle deniadol i ymweld â hi yn y tymor tawel traddodiadol, gan arddangos arfordir, cefn gwlad a diwylliant Sir Gâr drwy'r flwyddyn. Gyda chefnogaeth ariannol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, mae ymchwil diweddar i'r farchnad wedi dangos bod angen canolbwyntio ar brofiadau cynaliadwy ac o ansawdd uchel i ymwelwyr. Felly, i fod yn rhan o seibiannau "Llwybrau Araf Sir Gâr" a "Penwythnos i'r Merched" a gwneud y mwyaf o'r sector priodasau yn ogystal â dod yn Llysgennad, cysylltwch â Sarah ac Elinos.
|
 Cyfle olaf i archebu: Ymweliad Ymgyfarwyddo â Llwybr Dyffryn Tywi AM DDIM!
Fusnesau Twristiaeth, peidiwch â cholli'r cyfle gwych hwn am ddim i ddarganfod sut y gall Llwybr newydd Dyffryn Tywi fod o fudd i'ch busnes. • Dechrau am 10am | Clwb Rygbi Nantgaredig • Darperir beiciau ac e-feiciau gan Actif Sir Gâr Ymunwch â ni am daith feicio dywysedig a: • Clywed gan arweinydd y prosiect am ddatblygiad y llwybr • Cael mynediad cynnar i'r Pecyn Cymorth Beicio newydd sbon ar gyfer busnesau twristiaeth • Siarad 1-i-1 gyda Thîm Twristiaeth y Cyngor Sir am gyngor o ran hyrwyddo, busnes a chyllid Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael – archebwch nawr i osgoi colli mas!
|
|
Hyrwyddwch Be sy' mlaen ym mis Gorffennaf
Helpwch eich gwesteion i wneud y gorau o'u hymweliad drwy arddangos y rhestr "Be sy' mlaen" ym mis Gorffennaf 2025 yn eich busnes. O farchnadoedd lleol i wyliau haf, mae'n llawn pethau i'w gweld a'u gwneud ym mhob rhan o'r sir.
Arddangoswch y rhestr yn eich derbynfa, mewn pecynnau croeso, neu ar hysbysfyrddau - unrhyw le y bydd gwesteion yn ei gweld.
Gadewch i ni sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i grwydro, mwynhau, a dod yn ôl am ragor.
|
Buddsoddiad pellach ar gyfer atyniadau lleol allweddol i ymwelwyr
Gyda cheisiadau llwyddiannus i Gronfa Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru, mae buddsoddiad pellach yn cael ei wneud i ddau brif atyniad i ymwelwyr. Mae Parc Gwledig Pen-bre yn ychwanegu podiau glampio a seilwaith digwyddiadau gwrthsefyll y tywydd tra bod Canolfan Gwlyptir Llanelli – Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir yn trawsnewid y ganolfan ymwelwyr er mwyn mynd i'r afael â materion hygyrchedd a gwella profiad cyffredinol ymwelwyr.
|
2.9 miliwn yn darllen am Sir Gâr yng nghylchgrawn ffordd o fyw amlycaf y DU
Mae hybu ymwybyddiaeth o'r sir drwy gysylltu â chyfryngau'r DU yn rôl allweddol i swyddogion, ac roeddem yn falch iawn o drefnu ymweliad ym mis Ebrill gan Olygydd Ffordd o Fyw Cylchgrawn Fabulous. Hwn yw prif gylchgrawn ffordd o fyw y DU, gan gyrraedd 2.9m o fenywod bob wythnos! Gweithiodd Elinos, sy’n swyddog twristiaeth, gyda dros 10 o fusnesau lleol i greu amserlen lawn dros 5 diwrnod i arddangos lletygarwch ac uchafbwyntiau lleol. Os na weloch chi'r erthygl mewn print ddydd Sul, gallwch ei darllen drwy'r ddolen hon.
Eisiau cymryd rhan mewn cyfleoedd gyda'r wasg yn y dyfodol?
|
Rhoi sylw i ... Hendy-gwyn ar Daf
Bob mis rydym yn rhoi sylw i un o'n trefi gwledig a thro Hendy-gwyn ar Daf yw hi'r mis hwn. Gallwch ddefnyddio delweddau a fideos am ddim o Hendy-gwyn ar Daf i wella eich marchnata a dyma ddolen i'n tudalen we lle gall eich gwesteion gael ysbrydoliaeth.
Ar ddydd Mercher 23 o Orffennaf, rhwng 10 a– 3, gallwch alw heibio yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf i siarad â swyddogion y Cyngor o'r timau datblygu twristiaeth, trwyddedu, cymorth busnes a Chymunedau am Waith. Mae'r digwyddiad am ddim ac nid oes angen gwneud apwyntiadau.
|
Modiwl Llysgennad newydd ar gael nawr
Beth am fod ar flaen y gad drwy ddysgu mwy am rôl arbennig Darganfod Sir Gâr ar y sgrin gyda'n modiwl llysgennad newydd sbon Ffilmio yn Sir Gâr. Mae'r adnodd rhad ac am ddim hwn wedi'i gynllunio i helpu'r rhai sy'n gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch i rannu straeon diddorol gydag ymwelwyr am y nifer o ffilmiau a sioeau teledu a ffilmiwyd yma yn y sir. O dirweddau pert sy'n ymddangos mewn dramâu cyfnod i leoliadau a ddefnyddir mewn cyfresi poblogaidd.
Ymunwch â dros 400 o lysgenhadon sydd eisoes yn hyrwyddo Sir Gâr a dechreuwch rannu'r stori sinematig heddiw.
|
Diwrnod Aer Glân: Mae Ansawdd Aer Sir Gâr yn parhau i wella
I nodi Diwrnod Aer Glân (19 Mehefin), tynnodd Cyngor Sir Caerfyrddin sylw at y gwelliant parhaus a sylweddol mewn ansawdd aer ledled y sir ers 2009. Diolch i newidiadau mewn arferion trafnidiaeth, technolegau glanach, a mentrau Cyngor wedi'u targedu, mae'r sir bellach yn bodloni amcanion ansawdd aer cenedlaethol.
I gael rhagor o wybodaeth, Sir Gâr yn nodi Diwrnod Aer Glân gyda chynnydd cryf o ran Ansawdd Aer - Cyngor Sir Caerfyrddin
|
Twristiaeth yn cyflwyno yn Siambr Fasnach Llanelli
 |
|
Mae cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd twristiaeth yn y gymuned leol yn dasg allweddol ac roedd Sarah, sy'n swyddog twristiaeth, yn falch iawn o dderbyn gwahoddiad i siarad ag aelodau Siambr Fasnach Llanelli yn eu cyfarfod ym mis Mehefin. Clywodd mynychwyr am gynlluniau marchnata sydd ar ddod a rôl ehangach y Cyngor, a arweiniodd at sgyrsiau cadarnhaol ar ddatblygu twristiaeth yn Sir Gâr ac yn nhref fwyaf y Sir. |
|
|
|
|