|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Dweud eich dweud – Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR
Mae Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR nawr yn fyw ac mae wedi'i anfon at bawb sy'n byw mewn cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn Sir Gaerfyrddin.
Rydyn ni eisiau gwybod beth ydych chi'n ei feddwl o'n gwasanaethau tai, gan gynnwys:
- Safon eich cartref
- Y gwasanaeth atgyweirio
- Cynnal a chadw tiroedd
- Cymorth tenantiaeth
- Cyfathrebu
- Y gymdogaeth
Mae'r arolwg wedi'i anfon allan ar ein rhan gan Acuity.
|
 Gofynnwn i chi wneud pob ymdrech i lenwi'r arolwg a rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch. Mae'r canlyniadau hyn wir yn ein helpu i gynllunio ein gwaith, i lunio'r gwasanaeth ac i wella.
Y dyddiad cau ar gyfer llenwi'r arolwg yw 11 Gorffennaf.
Gwneud gwaith yn eich cartref
Mae gennym dîm o Weithwyr Cynnal a Chadw gan gynnwys seiri, trydanwyr, paentwyr ac addurnwyr, plymwyr, bricwyr a phlastrwyr sy'n gwneud gwaith atgyweirio i gartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor. Rydym hefyd yn defnyddio contractwyr dibynadwy i wneud atgyweiriadau i'ch cartref.
Cwmni Westward sy'n gwneud yr holl waith atgyweirio a gwasanaethu i'r boeleri ar ran ein rhan.
Gall contractwyr gysylltu â chi'n uniongyrchol i siarad â chi am eich apwyntiad neu i roi gwybod i chi pryd y byddant yn ymweld â'ch cartref.
Os nad ydych yn siŵr am unrhyw gyfathrebiad rydych wedi'i dderbyn gennym ni neu gontractwr sy'n gweithio ar ein rhan, cysylltwch â ni ar 01267 234567 a gallwn gadarnhau a yw'n ddilys.
|
Y Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn cadw cartrefi a chymunedau'n ddiogel
Mae ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cartrefi ac ystadau sy'n eiddo i'r Cyngor, gan gymryd camau yn ddiweddar yn erbyn dau eiddo yn Llanelli yn dilyn troseddau dro ar ôl tro.
Mae'r camau a gymerwyd yn cynnwys y canlynol:
- Gorchymyn Cau 90 diwrnod (i atal rhywun rhag mynd i mewn i eiddo penodol heb ganiatâd penodol gan y llys)
- Gorchymyn Meddiant Llwyr (i symud preswylydd a dod â'i denantiaeth i ben)
Os ydych chi'n poeni am ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â chartref sy'n eiddo i'r Cyngor, rhowch wybod am hynny ar ein gwefan neu ffoniwch 01267 234567.
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth i'r tîm a bydd yn cael sylw cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Cadw chi a'ch cartref yn ddiogel
Mae gwasanaethu boeler yn flynyddol yn rhan hanfodol o gadw chi a'ch cartref yn ddiogel. Rhaid i ni hefyd gynnal profion diogelwch trydanol yn rheolaidd.
Mae'n bwysig ein bod yn gallu cael mynediad i'ch cartref i wneud y gwaith hwn. Os nad yw'r apwyntiad a drefnwyd yn gyfleus, rhowch wybod i ni.
Mae synwyryddion carbon monocsid yn cael eu gosod mewn unrhyw ystafell gyda boeler neu offer tanwydd solet (fel llosgwyr coed) a ffyrnau nwy. Mae'r larymau yn bwysig iawn a byddant yn synhwyro gollyngiadau carbon monocsid.
Mae nwy carbon monocsid yn cael ei adnabod fel y 'lladdwr tawel' gan nad oes ganddo arogl a gall achosi salwch difrifol neu farwolaeth. Peidiwch â symud y larymau nac ymyrryd â nhw, maen nhw wedi cael eu gosod er mwyn eich diogelwch chi.
Cwmni Westward sy'n gwneud yr holl waith atgyweirio a gwasanaethu i'r boeleri ar ran ein rhan.
Os oes problem gyda'ch boeler neu larwm carbon monocsid, cofiwch ddweud wrthym. Ffoniwch 01267 234567 neu gallwch roi gwybod am waith atgyweirio ar-lein.
|
Rheoli glaswelltiroedd ledled Sir Gaerfyrddin
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn newid yn raddol sut rydym yn rheoli glaswelltiroedd ledled y sir, gan gynnwys mewn rhai ardaloedd o'n hystadau tai i gefnogi blodau gwyllt ac i helpu pryfed peillio i ffynnu.
Nod y polisi newydd ynghylch Rheoli Glaswelltiroedd ar gyfer Pryfed Peillio yw cynyddu glaswelltiroedd sy'n gyforiog o flodau trwy addasu amserlenni torri gwair a thorri/gwaredu gwair i leihau'r angen am dorri gwair yn aml. Mae coed, gwrychoedd a blodau hefyd wedi'u plannu fel rhan o'r polisi.
Lle bo angen, bydd gwair yn dal i gael ei dorri'n rheolaidd, gyda stribedi 1 metr hefyd yn cael eu cynnal ar hyd llwybrau a ffyrdd.
Rhowch wybod i'ch Swyddog Tai os gallwch helpu i nodi unrhyw ardaloedd a allai fod yn addas ar gyfer torri gwair yn llai aml neu blannu coed.
Mae'r newidiadau hyn yn rhan o'r gwaith i fynd i'r afael ag Argyfyngau Natur a Hinsawdd a ddatganwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru a chafwyd cyllid gan Raglen Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.
|
|
|
|
|