|
|
Ym mis Mehefin, rydym ni'n dathlu mis Pride drwy gydnabod ein gofalwyr maeth LHDTC+ anhygoel sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc yng ngofal maeth.
Yn Sir Gaerfyrddin, mae mwy nag 1 o bob 10 o'n haelwydydd maethu yn aelwydydd LHDTC+.
I gefnogi ein gofalwyr maeth, rydym ni'n cynnig Aelodaeth Aur am ddim i New Family Social, elusen yn y DU dan arweiniad mabwysiadwyr a gofalwyr maeth LHDTC+. P'un a ydych chi'n archwilio maethu neu ar eich taith yn barod, mae eu hadnoddau yno i chi.
Ydych chi eisiau dysgu mwy? Mae eu Haelodaeth Efydd am ddim yn rhoi mynediad i weminarau defnyddiol a mwy o wybodaeth.
|
|
Pythefnos Gofal Maeth (12-25 Mai)
Dros Bythefnos Gofal Maeth, fe wnaethom ni ymuno â'r Rhwydwaith Maethu i ddathlu pŵer perthnasoedd yng ngofal maeth yn Sir Gaerfyrddin.
O ddigwyddiadau i ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth, roedd yn gyfle gwych i ddathlu'r perthnasoedd sy'n newid bywydau bob dydd.
|
 I anrhydeddu Pythefnos Gofal Maeth, fe lansion ni ein taith gerdded llesiant ym Mharc Dŵr y Sandy. Gwych oedd gweld cynifer o'n gofalwyr maeth yn mwynhau'r awyr agored yng nghwmni ei gilydd.
Diolch yn fawr i'r Rhwydwaith Maethu am ymuno â ni a chefnogi'r diwrnod.
|
|
Pŵer perthnasoedd wrth faethu gyda Bev a Reg
Mae maethu yn golygu mwy na darparu cartref, mae'n golygu meithrin perthnasoedd sy'n para.
Mae Bev a Reg wedi bod yn maethu person ifanc ag anableddau ers 11 mlynedd, a thrwy gydol y cyfnod hwnnw, maent nid yn unig wedi cynnig cartref cariadus ond wedi cynnal ei gysylltiad â'i deulu geni.
Un gair o gyngor sydd gan Bev a Reg i unrhyw un sy'n meddwl am faethu...
"Ewch amdani!"
|
Pŵer perthnasoedd wrth faethu gyda Marie, Mal a Madison
Mae Marie a Mal wedi bod yn maethu ers bron i 8 mlynedd bellach ac wedi adeiladu bond cryf, parhaol gyda Madison, sy'n 15 oed, ac sydd wedi bod yn rhan o'u teulu ers ei bod hi'n 9 oed.
I Madison, mae'r cysylltiad â'i theulu maeth wedi golygu popeth.
"Mae fy mherthynas â Marie a Mal yn golygu popeth i mi. Marie, Mal a'r teulu cyfan yw fy nheulu i. Rwy'n cael yr holl gariad a chefnogaeth yn y byd ganddyn nhw i gyd."
|
Angen gofalwyr maeth ar gyfer merch ifanc sy'n dwlu ar anifeiliaid (o'r Hydref/Gaeaf 2025)
Rydym ni'n chwilio am deulu cefnogol i roi cartref tawel, sefydlog a chariadus i ferch ifanc sy'n byw mewn cartref gofal preswyl ar hyn o bryd. Mae hi'n ffynnu mewn amgylcheddau cefnogol a rhagweladwy, lle gall hi gael sylw 1:1, cynhesrwydd emosiynol a theimlo ei bod yn cael ei derbyn.
Mae hi hapusaf gydag anifeiliaid, yn arbennig ceffylau, a byddai hi'n elwa ar gael cartref lle gall hi barhau i fwynhau hyn. Pan mae hi yng nghwmni ceffylau, mae hi'n wên i gyd. Mae hi'n hynod ofalgar, yn gwirfoddoli'n rheolaidd mewn llochesi anifeiliaid lleol ac yn dangos tosturi mawr.
Mae hi wrth ei bodd yn mynd i'r ysgol, yn nofio, yn gwylio teledu a fideos YouTube, yn mynd i'r sinema, ac yn treulio amser yn yr awyr agored. Mae hi'n anturus ac nid oes arni ofn mynd bach yn frwnt wrth archwilio! Mae hi hefyd yn mwynhau gweithgareddau creadigol fel gwallt a harddwch.
Ai chi yw'r teulu iawn?
- Profiad o gefnogi plant ag anghenion cymhleth o ran ymddygiad a/neu ymlyniad.
- Yn gallu darparu cartref tawel, di-straen gyda threfn a goruchwyliaeth glir.
- Yn gallu darparu cartref lle hi yw'r unig blentyn.
Rydym yn argymell dull therapiwtig o rianta, felly yn ddelfrydol byddai hi'n cael ei lleoli gydag unigolion profiadol sydd wedi cefnogi plant ag anghenion cymhleth yn flaenorol. Os oes gennych chi brofiad, a gallwch chi gynnig cartref diogelu, meithringar, byddem ni'n falch iawn o glywed gennych.
|
|
|
|
|