|
|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
System Apwyntiadau Newydd ar gyfer Atgyweiriadau Tai
Yn dilyn adborth gan bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor, rydym wedi cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer atgyweiriadau tai.
Bydd y system newydd yn darparu dyddiad/amser apwyntiad drwy neges destun neu e-bost pan fydd atgyweiriad yn cael ei gofnodi, gan ei gwneud yn haws i chi olrhain cynnydd eich atgyweiriad. Mae hyn ar gyfer atgyweiriadau cyffredinol/arferol yn unig. Ni fydd argyfyngau neu waith sydd angen archwiliad pellach yn cael apwyntiad awtomatig.
Yn dilyn peilot llwyddiannus o'r system mewn ardaloedd penodol yn Sir Gaerfyrddin, mae'r system bellach ar waith ym mhob ardal.
Byddwn yn parhau i ymateb i argyfyngau o fewn 24 awr. Os byddwch yn rhoi gwybod am waith atgyweirio brys i ni, arhoswch yn eich cartref fel y gallwn gael mynediad i wneud y gwaith.
Ni fydd atgyweiriadau cymhleth sydd angen archwiliad pellach yn cael apwyntiad awtomatig. Bydd amserlenni'n cael eu darparu yn dilyn archwiliad.
Gwnewch yn siŵr bod y manylion cyswllt sydd gennym ar eich cyfer yn gyfredol er mwyn sicrhau eich bod yn cael gwybodaeth am eich apwyntiad ac unrhyw wybodaeth bellach gennym ni.
|
Yn dod yn fuan – Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR 2025
Ym mis Rhagfyr 2023, cafodd 5,000 o drigolion sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor eu dewis ar hap i rannu eu barn yn yr Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR am y gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu. Mae'r canlyniadau hyn wedi helpu i lywio a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu yn y dyfodol.
Ym mis Mehefin eleni, bydd pob un o denantiaid Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael cyfle i gwblhau'r arolwg. Byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun. Byddwn yn postio copi o'r arolwg atoch chi os nad oes gennym eich cyfeiriad e-bost neu eich rhif ffôn.
Gwnewch bob ymdrech i gwblhau'r arolwg. Mae'r canlyniadau hyn wir yn ein helpu i gynllunio ein gwaith, i lunio'r gwasanaeth ac i wella.
Yn seiliedig ar eich adborth, ers yr arolwg diwethaf rydym wedi:
- Cyflwyno system apwyntiadau ar gyfer atgyweiriadau. Mae'r system newydd wedi cael ei lansio'r wythnos hon, yn dilyn cyfnod prawf llwyddiannus
- Dechrau cynyddu ein gweithlu atgyweirio
- Datblygu gwasanaeth glanhau a chynnal a chadw sy'n canolbwyntio ar dai, ystadau ac ardaloedd cymunedol sy'n eiddo i'r Cyngor
- Swyddogion Tai yn fwy amlwg, gan eich helpu i ddod i'w hadnabod yn well yn ogystal â thynnu sylw at yr ystod o gymorth sydd ar gael ganddyn nhw.
- Cwrdd â phreswylwyr ar draws ein Cynlluniau Tai Gwarchod i ddysgu mwy am yr hyn maen nhw am ei gael a'r hyn sydd ei angen arnyn nhw gan y Gwasanaeth Tai rydym yn ei ddarparu
- Parhau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion o dorri amodau tenantiaeth yn ogystal â defnyddio teledu cylch cyfyng i gadw ein cartrefi a'n cymunedau'n ddiogel
- Cyflwyno Swyddog Ymgysylltu penodol i'n tîm Gwasanaethau Tai sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwell cyfathrebu, mewn amrywiaeth o fformatau, gyda thenantiaid. Mae hyn wedi cynnwys datblygu Panel Tenantiaid, sy'n cael ei gadeirio gan yr Aelod Cabinet dros Dai i'n helpu i wneud penderfyniadau a llunio'r gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu. Bydd y panel hwn yn cyfarfod am y tro cyntaf y mis hwn. E-bostiwch ni i gymryd rhan
Mae eich Swyddog Tai yma i'ch helpu
 |
|
Mae eich Swyddog Tai lleol yma i ddarparu help, cymorth a chyngor mewn perthynas â'ch cartref, costau byw a mwy.
Mae gennym hefyd dîm ymroddedig sy'n delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac achosion difrifol o dorri amodau tenantiaeth, gan helpu i gadw cartrefi a chymunedau'n ddiogel.
|
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth i'r tîm a bydd yn cael sylw cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Y Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gadw cymunedau'n ddiogel
Mae ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn parhau i gadw cartrefi a chymunedau'n ddiogel ac mae wedi llwyddo i adfeddiannu eiddo yr wythnos hon yn dilyn nifer o broblemau oedd yn cael eu hachosi gan breswylydd.
Yr Hydref diwethaf, yn dilyn nifer o achosion o aflonyddu sylweddol gan breswylydd oedd yn byw mewn cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn Llanelli, cymerodd ein Swyddogion gamau ffurfiol drwy wneud cais i'r llys am Orchymyn Cau ar yr eiddo.
Ar ddiwedd y Gorchymyn 90 diwrnod, dychwelodd y problemau. Yna gwnaeth ein tîm gais llwyddiannus am Orchymyn Cau arall, yn ogystal â chais am feddiannu'r eiddo. Oherwydd y problemau sylweddol a achoswyd, rhoddodd y Llys feddiant o'r eiddo i ni ac mae'r preswylydd wedi cael ei symud ymlaen yn llwyddiannus.
Mae Gorchymyn Cau yn atal rhywun rhag mynd i mewn i eiddo penodol heb ganiatâd penodol y llys.
|
|
|
|