|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Ymunwch â'n tîm!
Technegydd Cynnal a Chadw - Saer
|
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth i'r tîm a bydd yn cael sylw cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref – pwy sy'n gyfrifol?
Fel eich landlord, mae'n rhaid i ni:
- Sicrhau bod eich cartref yn addas i bobl fyw ynddo, cynnal strwythur/ochr allanol yr adeilad, a gofalu bod y gegin a'r ystafell ymolchi (pethau fel sinciau, toiledau a bathau) mewn cyflwr da
- Cynnal a chadw'r gwasanaeth ar gyfer dŵr, nwy, trydan, glanweithdra a gwresogi
- Ymateb i chi pan fyddwch wedi cofnodi atgyweiriad, gan gadarnhau a oes angen yr atgyweiriad, pwy sy'n gyfrifol, a rhoi syniad pryd bydd yn cael ei wneud
- Trwsio unrhyw ddifrod sy'n cael ei wneud yn ystod y gwaith/atgyweiriadau
- Rhoi o leiaf 24 awr o rybudd cyn mynd i mewn i'ch cartref i archwilio/atgyweirio, ar wahân i argyfyngau neu lle bo hyn wedi cael ei gytuno gyda chi
Mewn argyfwng, gallwn ni fynd i mewn i'ch cartref heb roi rhybudd os oes risg o ddifrod difrifol neu broblemau iechyd a diogelwch brys
Fel Deiliad Contract, mae'n rhaid i chi:
- Gofalu am eich cartref yn iawn, gan gynnwys gosodiadau, ffitiadau ac addurniadau
- Peidio â chadw dim byd sy'n mynd i achosi risg o ran iechyd a diogelwch
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw beth sydd angen ei atgyweirio cyn gynted â phosib
- Gwneud tasgau bach o ran gwaith cynnal a chadw, neu drefnu hynny. Mae hyn yn cynnwys ailosod gwydr sydd wedi torri, cloeon, allweddi, colfachau, seddi toiled, teils, plygiau trydan, ffiwsiau, plygiau sinc a bath, gridiau gwastraff, batris larwm mwg, a lein ddillad, yn ogystal â chadw'r ardd a siediau
- Gadael rhywun i mewn i'ch cartref yn syth pan fo argyfwng (e.e. gwaith atgyweirio brys)
- Gwneud/trefnu atgyweiriadau sydd wedi eu hachosi gan esgeulustod, gan gynnwys eitemau sydd wedi'u difrodi gennych chi, rhywun sy'n byw gyda chi neu ymwelwyr â'ch cartref. O bosib byddwn yn atgyweirio'r difrod i chi a chodi tâl arnoch chi am wneud y gwaith
Rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw newidiadau i strwythur yr adeilad heb ein caniatâd ni. Os byddwch chi'n gwneud hyn, byddwn ni'n codi tâl arnoch chi am gywiro'r newidiadau a/neu'n cymryd camau cyfreithiol i ddod â'n Contract gyda chi i ben.
Newidiadau i gasgliadau gwastraff dros gyfnod y Pasg
Mae rhai newidiadau i gasgliadau gwastraff y cartref dros gyfnod y Pasg:
- Dydd Gwener y Groglith (18 Ebrill) - bydd casgliadau’n digwydd ddydd Sadwrn, 19 Ebrill
- Wythnos Dydd Llun y Pasg (21 Ebrill) - bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyr (er enghraifft, bydd casgliadau dydd Llun yn symud i ddydd Mawrth)
Bydd casgliadau hylendid a gwastraff gardd hefyd yn dilyn yr amserlen ddiwygiedig.
|
Investing in your home’s future with the Welsh Housing Quality Standard (WHQS) 2023
Ein nod yw cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru (2023) ym mhob un o'n cartrefi.
SATC 2023 yw'r safon, sy'n cael ei gosod gan Lywodraeth Cymru, y mae'n rhaid i bob cartref sy'n eiddo i Gynghorau a Chymdeithasau Tai ei chyrraedd.
Mae hyn yn golygu:
- Cartrefi mwy diogel, cynhesach sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon
- Ceginau, ystafelloedd ymolchi a mannau byw modern, o ansawdd uchel
- Llai o angen am atgyweiriadau, gydag ymatebion cyflymach pan fydd ein hangen arnoch
- Gerddi priodol a mannau awyr agored deniadol
- Cartrefi y gallwch fod yn falch ohonynt—yn awr ac yn y dyfodol
|
|
 |
|
|
|
|
|