|
Dathlu gofalwyr maeth LHDTC+ yn Sir Gaerfyrddin
Yr Wythnos Maethu a Mabwysiadu LHDTC+ hon (3-10 Mawrth), gwnaethom ni gydnabod cyfraniadau amhrisiadwy gofalwyr maeth LHDTC+ wrth ddarparu cartrefi diogel, gofalgar, a chefnogol i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth.
Ym mis Chwefror 2025, mae dros 10% o aelwydydd maethu yn Sir Gaerfyrddin yn rhan o'r gymuned LHDTC+, gan bwysleisio amrywiaeth a chynhwysiant ein rhwydwaith gofalwyr maeth.
Mae un o'n gofalwyr maeth, sy'n dymuno aros yn ddienw, yn rhannu ei thaith a'i phrofiadau o faethu fel unigolyn LHDTC+.
|
|
|
Pythefnos Gofal Maeth (12-25 Mai)
Mae pythefnos Gofal Maeth yn agosáu, a'r thema eleni yw Pŵer Perthnasoedd.
Drwy gydol y pythefnos, byddwn yn rhannu straeon sy'n tynnu sylw at effaith anhygoel gofalwyr maeth a'r perthnasoedd cryf y maent yn eu meithrin gyda'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal.
|
Gallwch ddod o hyd i ni yma
 Rydym wedi trefnu digwyddiadau gwybodaeth ledled y sir cyn, yn ystod ac ar ôl pythefnos Gofal Maeth. Dewch i gwrdd â'r tîm, i ofyn cwestiynau, ac i gael rhagor o wybodaeth am faethu.
Methu â dod i ddigwyddiad? Cysylltu â ni i gael sgwrs anffurfiol.
|
|
Cydnabod effaith gweithwyr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Ar Ddiwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd (18 Mawrth), gwnaethom ni dynnu sylw at ymroddiad gweithwyr cymdeithasol sy'n gwneud gwahaniaeth mawr ym mywydau plant, pobl ifanc, teuluoedd a gofalwyr maeth. Mae'r gweithwyr cymdeithasol hyn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod plant a phobl ifanc mewn gofal maeth yn cael y gefnogaeth a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen arnynt.
Mae Jacky, sydd wedi bod yn maethu ers 17 mlynedd, yn gwybod yn bersonol pa mor bwysig y gall y gefnogaeth gywir fod. Mae Jacky wedi cael cefnogaeth gan ei gweithiwr cymdeithasol, Kevin, am y chwe blynedd diwethaf, ac, yn ôl Jacky ef sydd wedi rhoi'r hyder a'r sicrwydd sydd eu hangen arni.
|
Rôl anifeiliaid anwes mewn teuluoedd maeth
Gall anifail anwes wneud gwahaniaeth mawr mewn cartref maeth. Dyna pam rydym yn cynnwys anifeiliaid anwes yn eich asesiad maethu - i sicrhau byddant yn dod ymlaen yn dda gydag unrhyw blant maeth yn y dyfodol.
Nid yw cael ci neu gath yn golygu na allwch faethu - a dweud y gwir, gallant gynnig lefel arall o gefnogaeth a bod o fantais wirioneddol i deulu maeth.
|
Gweithgareddau Pasg yn Sir Gâr
Y Pasg hwn, mae Sir Gâr yn llawn digwyddiadau cyffrous ar gyfer pob oedran a chyllideb. P'un a ydych chi'n chwilio am ddanteithion siocled, gweithgareddau awyr agored, neu brofiadau diwylliannol, mae rhywbeth at ddant pawb.
O helfeydd wyau Pasg a gweithdai crefft i deithiau cerdded â golygfeydd gwych a pherfformiadau byw, mae digonedd o bethau i'w gwneud.
Mae llawer o ddigwyddiadau yn rhad ac am ddim neu'n fforddiadwy, felly gallwch chi fwynhau heb wario ffortiwn!
Edrychwch ar ganllaw Darganfod Sir Gâr i weld yr holl ddigwyddiadau gwych sy'n digwydd yn eich ardal chi.
|
|
|
|
|