|
Croeso i Denant i Denant – eich llythyr newyddion misol
Rydych yn derbyn y llythyr newyddion hwn oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i bobl sy'n byw mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor.
|
|
Ymunwch â'n tîm!
Rydym yn chwilio am blymwr, plastrwr, saer a gosodwr brics cymwys i ymuno â'n tîm cynyddol o dechnegwyr cynnal a chadw.
Fel rhan o'n hymrwymiad i gynnal a gwella ein 9,300 o gartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor, rydym yn chwilio am grefftwyr brwdfrydig, hyblyg a phrofiadol sydd ag agwedd gadarnhaol, i ymuno â'n Tîm Cynnal a Chadw Ymatebol ar gyfer cwsmeriaid.
|
Cyngor am gostau byw ar gael i bawb
Mae eich Swyddog Tai yma i'ch cefnogi a gall ddarparu cyngor am gostau byw, gan eich helpu i ddod o hyd i'r cymorth y gallai fod gennych hawl iddo. Cysylltwch â'ch swyddog tai lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Mae gennym dîm arbenigol o Ymgynghorwyr Hwb sy'n gallu darparu pecynnau cymorth pwrpasol i sicrhau eich bod yn derbyn y cyngor, y gwasanaethau a'r arian y mae gennych hawl iddynt. Gall y tîm helpu i asesu a ydych yn gymwys i hawlio taliadau penodol, yn ogystal â helpu gyda'ch cais.
Ewch i'n Canolfannau Hwb yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman, ffoniwch 01267 234567 neu ewch i wefan y Cyngor i gael rhagor o wybodaeth neu i gael cymorth.
|
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau
Mae ein Tîm Ymddygiad Gwrthgymdeithasol (ASB) yn ymdrin â thorri rheolau'r contract deiliadaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn cartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor ledled Sir Gâr.
Mae hyn yn cynnwys:
- Difrod i eiddo
- Anifeiliaid anwes a niwsans anifeiliaid
- Anghydfodau cymdogion
- Gweithgarwch anghyfreithlon gan gynnwys cyffuriau
- Cam-drin geiriol/ymddygiad bygythiol/aflonyddu/dychryn
Yn ogystal â darparu cymorth a chyngor, bydd y Tîm ASB yn cymryd camau cyfreithiol i atal niwsans ac i amddiffyn cartrefi a chymunedau.
Cofnodwch amser a dyddiad unrhyw ddigwyddiadau, a nodi hynny yn eich adroddiad i helpu'r tîm i adnabod troseddwyr a chanfod y lluniau CCTV perthnasol lle bônt ar gael.
|
|
Rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein
Oeddech chi'n gwybod y gallwch roi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein?
Mae rhoi gwybod am waith atgyweirio tŷ ar-lein yn golygu bod eich cais yn cael ei anfon yn syth i'r tîm a bydd yn cael sylw cyn gynted â phosibl.
|
Dywedwch wrthym beth yr hoffech ei weld yn Tenant i Denant
Rydym yn ceisio cynnwys ystod eang o bynciau sy'n bwysig i chi fel tenant a phreswylydd Sir Gaerfyrddin yn y llythyr newyddion hwn.
Dywedwch wrthym pa fath o wybodaeth, newyddion a chyngor fyddai'n ddefnyddiol i ni eu cynnwys.
|
|
Y Swyddog Tai sydd dan sylw ym mis Mawrth
Nicola Davies
07773753199
nicodavies@sirgar.gov.uk
Mae Nicola yn cefnogi trigolion sy'n byw yng Bynea, Hengoed, Glyn, Porth Tywyn a Dyffryn Y Swistir; gan ddarparu gwybodaeth a chyngor ynghylch materion yn ymwneud â rhent, cyngor ynghylch tenantiaeth a chymorth ariannol.
|
Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Pen-y-fan a Llwynwhilyg
Cymdeithas Tenantiaid a Phreswylwyr Pen-y-fan a Llwynwhilwg (PLTRA) yn Llanelli yw llais tenantiaid a phreswylwyr sy'n byw yn yr ardal, a cheir cyfarfodydd bob chwe wythnos.
Mae'r Gymdeithas yn cael ei chynnal gan wirfoddolwyr ac yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth, a hefyd yn cynnal pedwar digwyddiad cymunedol y flwyddyn (adeg y Pasg, Haf, Calan Gaeaf a'r Nadolig).
I gyfrannu neu fynychu cyfarfod, cysylltwch ag Ysgrifennydd PLTRA, David Skivington dros y ffôn (07950 539121) neu drwy e-bost.
Os ydych chi'n rhan o Gymdeithas Preswylwyr ac am i ni hyrwyddo'ch grŵp, neu os ydych am wybodaeth a chyngor i sefydlu eich Cymdeithas Preswylwyr eich hun, cysylltwch â Helen Jenkins, Swyddog Ymgysylltu ynghylch Tai drwy ffonio 07977 326098 neu drwy e-bost.
Diogelu rhag tân yn eich cartref chi
Mae rhoi gwasanaeth i foeler eich cartref yn rheolaidd hefyd yn ofyniad diogelwch pwysig. Mae'n rhaid i ni gynnal gwasanaeth boeler blynyddol i bob cartref sy'n eiddo i'r Cyngor yn ogystal â gwneud profion diogelwch trydanol rheolaidd. Os nad yw'r apwyntiad drefnwyd yn gyfleus, rhowch wybod i ni. Cwmni Westward sy'n gwasanaethu'r boeleri ar ran y Cyngor.
|
|
|
|