|
Croeso i'r Cylchlythyr Trawsnewid Tyisha.
Anfonwyd y cylchlythyr hwn atoch oherwydd eich bod wedi cofrestru i dderbyn newyddion, gwybodaeth a diweddariadau i breswylwyr sy'n byw yn Nhyisha, Llanelli.
|
|
Hwyl hanner tymor am ddim yn Sied Nwyddau Llanelli
Mae gan Sied Nwyddau Llanelli ddigon o weithgareddau am ddim ar gael drwy gydol hanner tymor!
Dydd Llun 24 Chwefror - Gweithdy Gwesty Trychfilod, 10am - 2pm
Dydd Mercher 26 Chwefror - Collage Cynefin, 10am - 2pm
Dydd Mercher 26 Chwefror - Cyfarfod Grŵp Niwroamrywiaeth, 1pm - 3pm
Dydd Gwener 28 Chwefror - Grŵp Magpies 50+, 11am
Dydd Gwener 28 Chwefror - Clwb Gwyliau Eglwys Golau y Bedyddwyr, 10am – 1pm
Dydd Gwener 28 Chwefror - Gofod Adnewyddu Eglwys Golau y Bedyddwyr, 1pm-3pm
Dydd Gwener 28 Chwefror – Sgiliau Beicio, 10am – 2pm
Adeiladu cartrefi newydd i bobl leol
Yr haf diwethaf, fe ddechreuon ni'r broses dendro i ddod o hyd i bartner i gyflawni cam nesaf prosiect Trawsnewid Tyisha.
Mae'r broses yn mynd rhagddi'n dda a bydd yn parhau drwy gydol 2025 wrth i ni drafod cynigion gyda phartneriaid posibl i sicrhau ein bod yn darparu'r hyn sydd ei angen ar y gymuned.
Rydym yn chwilio am bartner datblygu i ddarparu tai modern ac ynni-effeithlon o ansawdd, wrth gadw cymeriad treftadaeth gyfoethog Tyisha. Rydym hefyd am sicrhau bod y datblygiadau hyn yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol yn ogystal â gwella'r amgylchedd trwy dirlunio, darpariaethau gwastraff addas a chyfleusterau storio.
|
Patrolau gyda'r nos ar draws Tyisha
Mae Wardeiniaid Cymunedol Tyisha yn patrolio Tyisha gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn partneriaeth â Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu i nodi ansawdd yr amgylchedd lleol a materion ymddygiad gwrthgymdeithasol fel gollwng sbwriel, baw cŵn a thipio anghyfreithlon.
Rhowch wybod i ni os oes unrhyw ardaloedd lle mae problemau y dylem eu targedu.
|
|
|
Canolfan Deulu Sant Paul
Mae Canolfan Deulu Sant Paul yn cynnig grwpiau babanod a phlant bach, gweithgareddau iaith a chwarae a sesiynau Dechrau'n Deg i blant 0-11 oed yn ystod y tymor a gwyliau ysgol.
Edrychwch ar hysbysfwrdd Tyisha neu cysylltwch â Chanolfan Deulu Sant Paul i gael rhagor o wybodaeth drwy ffonio 01554 775338 neu drwy e-bostio.
|
Chwarae yn yr awyr agored yn Nhyisha
Dewch draw i Chwarae Stryd yn Neuadd Paddock Street rhwng 2.30pm a 4.30pm ar 1, 8, 15, 22 a 29 Mawrth!
Mae Chwarae Stryd yn rhoi cyfle i deuluoedd ddefnyddio mannau yn yr awyr agored, i gysylltu ac i chwarae. Darperir offer ar gyfer gemau, chwarae stecslyd a chreadigrwydd!
|
|
Cymorth ar gael gan CETMA
Mae CETMA Llanelli yn ganolfan fusnes a chymunedol sy'n cynnig amrywiaeth o fentrau cymunedol gan gynnwys Grŵp Cymorth LGBTQ+ Llanelli a Masnach Deg Llanelli.
Wedi'i leoli yn 105 Heol yr Orsaf, mae CETMA ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 10am a 5pm a dydd Gwener, rhwng 12pm a 5pm.
Carnifal Nadolig Llanelli 2024
Daeth sefydliadau, ysgolion a grwpiau cymunedol o Dyisha at ei gilydd i gymryd rhan yng Ngharnifal Nadolig Llanelli gyda gorymdaith fflotiau a llusernau.
Wrth baratoi ar gyfer y carnifal, creodd disgyblion Ysgol Pen Rhos ac Ysgol Gynradd Bigyn nifer o lusernau yn ystod gweithdai a gynhaliwyd gan Dîm Trawsnewid Tyisha Cyngor Sir Gaerfyrddin a People Speak Up.
Diolch i bawb a ddaeth at ei gilydd i wneud y fflôt yn llwyddiant gan gynnwys Tîm Trawsnewid Tyisha, meithrinfa ddydd Once Upon a Time, Canolfan Deulu Sant Paul, Ysgol Gynradd Bigyn, Ysgol Pen Rhos a People Speak Up.
|
Hwyl hanner tymor yn Sir Gâr!
Barod i wneud y gorau o hanner tymor mis Chwefror eleni? Peidiwch ag edrych ymhellach na Darganfod Sir Gâr am yr holl weithgareddau a digwyddiadau gorau i lenwi'ch wythnos gydag antur!
Mae Sir Gâr yn cynnig amrywiaeth wych o atyniadau cyffrous, digwyddiadau sy'n addas i deuluoedd, ac anturiaethau awyr agored—perffaith ar gyfer creu atgofion heb wario ffortiwn. P'un a ydych chi'n archwilio llwybrau godidog, neu'n darganfod trysorau cudd, mae digon i'w archwilio a'i fwynhau boed yn yr awyr agored neu dan do!
Felly, beth yw'r oedi? Dewch i brofi hud Sir Gâr yr hanner tymor hwn. Mae gweithgareddau fforddiadwy, llawn hwyl yn aros i'ch teulu.
|
|
|
|
|