|
 Cadw plant a phobl ifanc yn lleol
Rydym wedi lansio ymgyrch i recriwtio gofalwyr maeth, gan ganolbwyntio ar gadw plant a phobl ifanc yn lleol fel eu bod yn gallu ffynnu yn eu cymunedau eu hunain. Mae pob plentyn yn haeddu teimlo'n ddiogel, teimlo'i fod yn cael ei gefnogi a theimlo cysylltiad â'i wreiddiau, boed hynny trwy ei ysgol, ei deulu, ei ffrindiau neu ei amgylchedd cyfarwydd.
Mae gofalwyr maeth lleol yn chwarae rhan hanfodol o ran trawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Trwy ddewis Maethu Cymru Sir Gâr, mae gofalwyr yn dod yn rhan o rwydwaith cefnogol a dibynadwy sy'n ymroddedig i gael effaith gadarnhaol.
Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwybodaeth ledled y sir lle gallwch gwrdd â'r tîm, gofyn cwestiynau, a chael rhagor o wybodaeth am faethu.
|
|
Rhannwch eich cariad
 Ym Maethu Cymru Sir Gâr, mae cariad yn fwy na theimlad - mae'n weithred.
Mae'n darparu sefydlogrwydd, cynhesrwydd a gofal i fywydau plant a phobl ifanc lleol sydd eu hangen fwyaf.
Os oes gennych le yn eich cartref a chalon fawr – ac am wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn – rhannwch eich cariad.
|
Cefnogi pobl ifanc mewn chwaraeon
 Rydym yn falch o noddi'r categori Person Ifanc Ysbrydoledig yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gâr 2024! Mae'r wobr hon yn cydnabod pobl ifanc sydd wedi cael effaith barhaol oherwydd eu hymroddiad i chwaraeon.
I lawer o blant a phobl ifanc mewn gofal maeth, mae chwaraeon yn rhoi cysur, sefydlogrwydd, ac ymdeimlad o berthyn. Mae'n meithrin hyder, gwytnwch a sgiliau gydol oes.
|
|
Taith Emma o aelwyd faethu i waith cymdeithasol
Wedi ei magu ar aelwyd faethu yn Sir Gaerfyrddin, gwelodd Emma â’i llygaid ei hun yr effaith y gall cartref diogel, gofalgar ei chael ar fywyd plentyn.
Bellach, fel rhan o'r tîm recriwtio maethu, mae hi'n gweithio i adeiladu cymuned sy'n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gallu aros yn yr ardal maen nhw'n ei galw'n gartref.
Mae cariad yn trawsnewid bywydau, ac mae Emma yn gweld hynny bob dydd trwy waith anhygoel ein gofalwyr maeth a thrwy wên a llygaid y plant.
Dyma ei chyngor i unrhyw un yn Sir Gaerfyrddin sy’n ystyried maethu:
"Siaradwch â ni. Rydym ni yma i'ch helpu chi i ddysgu am faethu a rhoi cymorth i chi bob cam o'r ffordd. Mae'n gam mawr, ond yn gam sy'n gallu newid bywyd plentyn - a'ch bywyd chi."
|
Taith plentyn maeth yn Sir Gaerfyrddin
I ddathlu Diwrnod Gofal 2025 ddydd Gwener, 21 Chwefror, mae bachgen 10 oed sydd wedi bod mewn gofal maeth yn Sir Gaerfyrddin ers ychydig dros ddwy flynedd, wedi rhannu ei gerdd am ei daith deimladwy.
Yn dwyn y teitl 'Fy Mywyd Maeth' mae'r gerdd yn rhoi cipolwg pwerus ar brofiadau G, o'r ansicrwydd o fynd i ofal i ddod o hyd i sefydlogrwydd, llawenydd a pherthyn mewn cartref gofalgar.
|
Angen gofalwyr maeth ar gyfer merch yn ei harddegau (o'r Haf/Hydref 2025)
Rydym yn chwilio am deulu cefnogol a meithringar i ddarparu cartref diogel a sefydlog i ferch yn ei harddegau sy'n barod i drosglwyddo o gartref gofal preswyl i amgylchedd teuluol.
Mae'r person ifanc hwn yn ffynnu wrth gael strwythur ac wrth wybod beth i’w ddisgwyl. Mae hi'n mwynhau treulio amser gydag eraill, sgwrsio, a chymryd rhan mewn nosweithiau pampro. Mae hi eisiau gwneud y byd yn lle gwell, i bawb fod yn iawn, ac i gael rhywle ble y gall deimlo'n gartrefol.
Beth rydym yn chwilio amdano mewn teulu:
- Yn ddelfrydol, cwpl sy’n gallu bod yn esiampl dda o ran perthnasoedd iach.
- Cartref heb ddim mwy nag un plentyn arall, yn ddelfrydol yn iau na hi.
- Amgylchedd cefnogol lle gall brofi normalrwydd bywyd teuluol.
Bydd angen cyfleoedd arni i archwilio, profi lleoedd newydd, ac yn raddol feithrin hyder mewn amgylcheddau prysurach. Rydym hefyd yn awyddus i annog a chefnogi amser teuluol gyda'i brodyr a chwiorydd i gynnal eu perthynas.
Os credwch fod gennych yr amynedd, empathi ac ymrwymiad i ddarparu cartref meithringar, rydym am glywed gennych.
|
|
|
|
|