Gwella'r gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu
Gofynnodd yr Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid STAR diweddaraf i 5,000 o denantiaid a ddewiswyd ar hap rannu eu barn ar y gwasanaeth tai rydym yn ei ddarparu. Derbyniwyd 1,250 o ymatebion, a bydd y canlyniadau hyn yn helpu i lunio a gwella'r gwasanaeth rydym yn ei ddarparu wrth symud ymlaen.
Dyma'r drydedd mewn cyfres reolaidd o negeseuon i rannu gwybodaeth/canlyniadau o'r arolwg STAR.
Fe ddwedsoch chi...
Mae 80% yn fodlon â'u cymdogaeth fel lle i fyw, tra bod 20% yn credu y gellid gwella hyn.
Mae 62% yn fodlon â'r gwaith cynnal a chadw tiroedd yn ystadau/ardaloedd cymunedol y Cyngor, ond mae 18% yn teimlo y gallem wneud mwy.
Mae 73% o denantiaid yn teimlo bod eu cartref yn ddiogel, ond mae 15% yn teimlo y gallai hyn fod yn well.
Mae 55% yn hapus gyda'r ffordd rydym yn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n ymwneud â chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor, ond mae 16% yn credu y gallem wella.
Rydym ni yn…
- Cyflwyno'r Tîm Tacluso Tai – gwasanaeth tasgmon sy'n canolbwyntio ar dai, ystadau ac ardaloedd cymunedol sy'n eiddo i'r Cyngor.
- Parhau i dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â chartrefi sy'n eiddo i'r Cyngor gyda thîm o chwe swyddog.
- Parhau i gymryd camau mewn perthynas â thorri amodau tenantiaeth i ddiogelu cartrefi a chymunedau.
- Datblygu gwasanaeth rheoli tai gwell i ganolbwyntio ar ardaloedd problemus i gadw ein cartrefi a'n cymunedau'n ddiogel. Cadwch lygad am ein swyddogion, rydym yma i helpu.
Cymorth a chyngor ar gael mewn ardaloedd gwledig
Mae cymorth, gwybodaeth a chyngor ynghylch materion tai ar gael mewn cymunedau gwledig ledled Sir Gaerfyrddin. Dewch draw i gwrdd â'ch swyddogion tai!
- Dydd Gwener 10 Ionawr, 10am-3pm yng Nghanolfan Gymunedol Cwmaman
- Dydd Iau 16 Ionawr, 10am-3pm yn Neuadd Ddinesig Llandeilo
- Dydd Mawrth 21 Ionawr, 10am-3pm yng Nghanolfan Ieuenctid a Chymunedol Llanymddyfri
- Dydd Mawrth 28 Ionawr, 10am-3pm yng Nghanolfan y Mynydd Du, Brynaman
- Dydd Iau 30 Ionawr, 10am-3pm yng Nghlwb Rygbi Llanybydder
Bydd rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ym mis Chwefror a mis Mawrth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y Cyngor.
|
Ymgynghori ynghylch y Gyllideb 2025
Rydyn ni wrthi'n pennu ein cyllideb flynyddol ac yn eich gwahodd i rannu eich barn cyn i gynghorwyr wneud penderfyniad terfynol ym mis Mawrth.
Mae'r arolwg ar-lein yn rhoi cyfle i breswylwyr fynegi eu barn ar, er enghraifft, cynnydd yn y dreth gyngor, trafnidiaeth addysgol, cyfleusterau cyhoeddus, a rhai gwasanaethau diwylliannol a hamdden. Bydd y rhain yn cael eu hystyried ochr yn ochr â 90 o gynigion gweithredol manwl, megis costau adeiladu, defnydd effeithlon o gerbydau, effeithlonrwydd digidol, strwythurau staffio a swyddogaethau mewnol a chefn swyddfa.
|
Helpwch ni i'ch helpu chi yn ystod apwyntiadau atgyweirio
Pan fydd atgyweiriadau'n cael eu gwneud i'ch cartref, helpwch ni i'ch helpu chi.
- Rhowch fynediad - mae gwrthod mynediad i'ch cartref yn golygu na ellir gwneud yr atgyweiriad. Mae hyn yn costio arian, yn gwastraffu amser ac yn cynyddu amseroedd aros ein gwasanaeth atgyweirio
- Cliriwch yr ardal fel bod lle gyda ni i gwblhau'r gwaith atgyweirio cyn gynted â phosibl
- Wrth wneud cais am atgyweiriad, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'n helpu i amserlennu'r gwaith yn gywir a chaniatáu digon o amser
- Os yw'r atgyweiriad yn un brys, ffoniwch 01267 234567. Peidiwch â rhoi gwybod am atgyweiriadau brys/mewn argyfwng ar-lein. Bydd hyn yn ein galluogi i adolygu'r cais yn gynt ac amserlennu'r gwaith cyn gynted â phosibl
- Gofalwch fod eich manylion cyswllt yn gywir bob amser, fel y gallwn roi gwybod i chi am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran eich atgyweiriad
Y swyddog tai sydd dan sylw ym mis Ionawr
 |
|
Lisa Williams
07884 117581
LJWilliams@sirgar.gov.uk
Mae Lisa yn rhoi cymorth yn ymwneud â materion ariannol, rhent a thenantiaethau i bobl sy'n byw mewn tai sy'n eiddo i'r Cyngor yn Llwynhendy.
|
|