|
Croeso i gylchlythyr mis Rhagfyr! |
|
Tyfu i fyny mewn teulu sy’n maethu gydag Amy
Mae taith Amy wrth dyfu i fyny mewn teulu sy’n maethu yn ein hatgoffa o'r ffordd y mae maethu yn newid bywydau - nid yn unig i'r plant a'r bobl ifanc mewn gofal, ond i'w teuluoedd.
Wyth mlynedd yn ôl, croesawodd ei theulu fachgen bach ag anghenion cymhleth i'w cartref, gan ffurfio cysylltiad agos dros ben.
Mae maethu wedi gwneud sut argraff ar Amy, mae hi eisoes yn ystyried gwneud hynny ei hun yn y dyfodol.
Canmolodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd, y Cynghorydd Jane Tremlett, deuluoedd fel teulu Amy sy'n gwneud cymaint o wahaniaeth.
|
Arbenigedd a chymorth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin
Lansiwyd ein hymgyrch 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth', sy'n tynnu sylw at y rhwydwaith cymorth anhygoel sydd tu cefn i'n gofalwyr maeth.
P'un a ydych chi'n ystyried maethu, eisoes yn maethu, neu'n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol - mae gan bawb ran i'w chwarae.
Yn Sir Gaerfyrddin yn unig, mae 148 o blant mewn gofal maeth, tra bod angen llawer mwy o ofalwyr maeth o hyd i ateb y galw cynyddol.
|
|
|
Pŵer grwpiau cymorth dan arweiniad mentoriaid
Un o'r ffyrdd yr ydym yn cefnogi ein gofalwyr maeth yw drwy ein grwpiau cymorth dan arweiniad mentoriaid.
Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i gysylltu, rhannu profiadau a chael arweiniad wrth ofalwyr maeth sydd wedi ymgymryd â'r rôl.
Mae'n ymwneud â'ch helpu i deimlo eich bod yn cael cymorth, hyder, a bod yn rhan o gymuned sydd wir yn deall y boddhad a'r heriau a ddaw yn sgil maethu.
|
Cymorth therapiwtig i ofalwyr maeth
Yn Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin, rydym yn cynnig cymorth therapiwtig i helpu ein gofalwyr maeth i ddeall a rheoli anghenion y plant a'r bobl ifanc sydd yn eu gofal.
Mae ein Tîm Iechyd Emosiynol yn darparu arweiniad arbenigol, wedi'i gynllunio i feithrin perthnasoedd cryfach.
Gwrandewch ar Karon, Uwch-seicolegydd Addysg - Ymddygiad, wrth iddi rannu ei dealltwriaeth a'i harbenigedd.
|
|
Y Nadolig hwn, nid yw’r anrhegion mwyaf gwerthfawr wedi’u lapio mewn papur gyda rhubanau – yr anrhegion mwyaf gwerthfawr yw’r rhai sy’n rhoi cariad, sefydlogrwydd a gobaith.
Pan fyddwch chi'n dod yn ofalwr maeth, rydych yn rhoi cartref cariadus a diogel i blentyn, sef anrheg a all newid ei fywyd am byth.
Rhowch anrheg sy'n para drwy'r flwyddyn. Dewch yn ofalwr maeth nawr.
|
Rydym bob amser yn edrych ymlaen at gwrdd â chi yn ein digwyddiadau niferus ledled Sir Gaerfyrddin.
Dewch i'n gweld ni yn y mannau canlynol:
- Canolfannau Hwb Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli
- Gemau Cartref y Scarlets
Rydym hefyd yn mynychu amrywiaeth o ddigwyddiadau cymunedol drwy gydol y flwyddyn. Peidiwch â cholli'r cyfle i gysylltu â ni, gofyn cwestiynau a dysgu mwy am faethu yn Sir Gaerfyrddin.
|
Cadwch lygad allan am ein rhifyn nesaf, pan gewch fwy o wybodaeth, straeon a chyfleoedd i gymryd rhan.
|
|
|
|