|
Os ydych wedi tanysgrifio yn ddiweddar, croeso i'n llythyr newyddion! |
|
Neges wrth Maethu Cymru Sir Gâr
Diolch am eich diddordeb parhaus mewn maethu gyda ni! Rydym yn gwerthfawrogi eich parodrwydd i ddysgu mwy am sut y gallwch wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Wrth fynegi diddordeb am faethu, rydych chi'n cymryd cam pwysig tuag at newid bywydau a darparu amgylchedd diogel, meithringar i'r plant sydd ei angen fwyaf.
|
|
Digwyddiadau i Ddod
Rydym wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau cyffrous sy'n rhoi'r cyfle i chi gwrdd â'n tîm, gofyn cwestiynau, a dysgu mwy am faethu.
Peidiwch â cholli'r cyfleoedd hyn i gysylltu â ni a chael gwybod sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywydau plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin!
|
Cwestiynau Cyffredin
Oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â maethu? Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i'ch helpu i ddeall y broses faethu yn well a'r hyn y mae'n ei olygu.
Cymerwch olwg i gael atebion i'ch ymholiadau a chael eglurder ar sut y gallwch chi gymryd rhan!
|
|
Cydweithio â'r Scarlets
Rydym wedi ymuno â'r Scarlets i godi ymwybyddiaeth o faethu!
I ddathlu ymroddiad anhygoel ein gofalwyr maeth, croesawodd y Scarlets ein teuluoedd maethu i'w gêm gartref gyntaf o'r tymor yn erbyn Caerdydd.
Roedd yn ddiwrnod mas haeddiannol i'n gofalwyr maeth, ac yn gyfle gwych i dynnu sylw at bwysigrwydd maethu yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r cydweithio yn tynnu sylw at rôl hanfodol gofalwyr maeth yn ein sir ac yn anelu at ysbrydoli eraill i ystyried maethu.
Drwy gydweithio, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
|
Dewch i gwrdd â Brett a Wendy: Dathlu 30 Mlynedd o Faethu
Y mis hwn, rydym yn falch o rannu stori Brett a Wendy, dau o’n gofalwyr maeth ymroddedig sydd wedi bod gyda ni ers 30 mlynedd!
Mae eu taith yn llawn heriau ac eiliadau sy'n cynhesu'r galon. Dewch i wybod am y gwahaniaeth anhygoel y maen nhw wedi'i wneud i fywydau'r plant y maen nhw wedi gofalu amdanyn nhw.
|
Cymryd y Cam Nesaf: Cysylltwch â ni Heddiw
Ydych chi'n barod i wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn?
Mae Maethu Cymru Sir Gâr yma i'ch cefnogi bob cam o'r ffordd.
Mae ein tîm ymroddedig yn darparu hyfforddiant, cefnogaeth, a chymuned o ofalwyr, fel Brett a Wendy, sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol.
Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol gwell i blant lleol.
|
|
|
Cadwch lygad am ein rhifyn nesaf, lle byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth, straeon, a chyfleoedd i chi gymryd rhan.
|
|
|
|