|
Dathlu Llysgenhadon Twristiaeth yn Neuadd y Sir
Derbyniodd 40 o Lysgenhadon Twristiaeth dystysgrif lefel efydd yn Neuadd y Sir a hynny o dan ofal y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden a Thwristiaeth, Cyngor Sir Caerfyrddin.
Mae'r cynllun wedi bod yn boblogaidd wrth helpu i hybu gwariant lleol ac amser aros ymwelwyr, ac anogir pob busnes twristiaeth a lletygarwch i ymuno. Mae am ddim, ac mae'r modiwlau'n amrywiol a gellir eu cwblhau ar-lein.
|
|
Seminar AM DDIM i drefnwyr digwyddiadau cymunedol
Ar ôl cael adborth gan drefnwyr digwyddiadau, mae gweithdy 2 awr am ddim wedi'i drefnu ar gyfer 19 Medi gydag arbenigwr blaenllaw yn y diwydiant a fydd yn trafod y gofynion o ran cynllunio a rheoli digwyddiadau cymunedol yn effeithiol yn y Sir. Waeth pa mor fawr neu fach yw eich digwyddiad, mae'r sesiwn hon ar gyfer y rhai sy'n ceisio gwella eu dealltwriaeth a'u cynllunio.
|
|
|
Diweddariad Marchnata'r Hydref
Mae gweithgareddau marchnata i gynyddu ymwybyddiaeth o'r Sir yn ystod y misoedd nesaf yn cynnwys ymweliad gan 5 awdur teithio a dylanwadwyr digidol gan gynnwys rhai o Lonely Planet a blogiwr sy'n hoff o gŵn, hysbysebu digidol parhaus gyda 3 chylchgrawn o'r sector beicio, partneriaeth â chylchgrawn staff y Gwasanaeth Sifil yn y DU gyda ¼ miliwn o ddarllenwyr, nawdd radio ar draws Sir Gâr a Chymru yn ogystal â hysbysebu digidol wedi'i dargedu drwy Google, Facebook a YouTube.
Diolch i'r 30 o fusnesau sy'n cymryd rhan yn y gweithgareddau.
|
Cyhoeddi ymgyrch farchnata ar gyfer 2025
‘Croeso’ i bawb! yw thema ymgyrch Croeso Cymru ar gyfer 2025 ac maen nhw wedi gofyn i swyddogion y Cyngor lunio rhestr o bethau newydd a chyffrous sy'n digwydd yn y Sir i'w cynnwys yn y gwaith marchnata. Cysylltwch am unrhyw lety neu fwytai newydd sy'n agor neu ddigwyddiadau, profiadau a llwybrau, er enghraifft.
|
Llefydd ar gael ar gyfer Sioe Deithiol busnesau Twristiaeth mis Medi
Dewch i gwrdd â swyddogion y Cyngor o'r timau datblygu twristiaeth, gwastraff ac ailgylchu, trwyddedu a chymorth busnes mewn sesiynau un i un, ddydd Mercher 18 Medi yn yr Neuadd Goffa, Hendy-gwyn ar Daf. Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae slotiau ar gael ar sail y cyntaf i'r felin a chi sy'n penderfynu pa swyddogion rydych chi am gyfarfod a sgwrsio â nhw.
|
|
|
Gweithdy Instagram AM DDIM ym mis Hydref
Byddwch yn dysgu sut i sefydlu, optimeiddio a rheoli eich proffiliau Instagram yn effeithiol i wella'ch presenoldeb ar-lein ac ymgysylltu â'ch cynulleidfa darged yn y sesiwn rad ac am ddim ar 22 Hydref. Erbyn diwedd y sesiwn, bydd gennych awgrymiadau ymarferol i ddefnyddio nodweddion Instagram yn hyderus a manteisio ar ei botensial ar gyfer twf busnes. |
|
|
Canllaw i Ymwelwyr Dydd ar gyfer yr Hydref / Gaeaf
|
|
Mae canllaw swyddogol ymwelwyr dydd Sir Gâr yn elfen allweddol o ran cynyddu gwariant lleol a chynyddu amser aros ymwelwyr dros gyfnod yr hydref/gaeaf. Mae'n rhestru dros 100 o wahanol fusnesau lleol y gall ymwelwyr ymweld â nhw. Gwiriwch eich manylion neu os oes gennych argymhellion i ni eu hystyried, cysylltwch â Sarah. |
|
|
|
|