Yn ogystal â chefnogi digwyddiadau cymunedol, mae staff y Cyngor hefyd yn cysylltu â'r rhai sy'n trefnu gwyliau a digwyddiadau llawer mwy ar gyfer trwyddedu, iechyd y cyhoedd a chau ffyrdd. Mae Rali Ceredigion, sy’n ddigwyddiad Pencampwriaeth Rali Ewropeaidd, wedi ehangu ar gyfer 2024 i gael llwybr newydd cyffrous yn Sir Gâr ac edrychwn ymlaen at groesawu’r llu o gyfranogwyr, criwiau a gwylwyr o 30 Awst i 1 Medi. |
|
|