Mae hon yn ymgyrch aml-sianel a fydd yn cynnwys cysylltiadau cyhoeddus, negeseuon cyfryngau cymdeithasol â thâl, hysbysebu y tu allan i'r cartref a bydd sianeli ymwybyddiaeth ddigidol eraill yn rhoi sylw i'ch atyniad i helpu i greu diddordeb ac archebion ychwanegol ar gyfer tymor yr haf. I gymryd rhan, mae Trafnidiaeth Cymru yn gofyn i atyniadau roi cynnig arbennig, gall hyn fod yn 2 docyn mynediad am bris 1, un lle plentyn am ddim i bob oedolyn sy'n talu, gostyngiad o 10%, neu gall fod yn gymhelliant gwerth ychwanegol. Bydd yr ymgyrch ar waith am 8 wythnos (o 1 Gorffennaf). Y dyddiad cau yw 15 Mai. |