|
Slotiau ar gael ar gyfer y sioe deithiol twristiaeth nesaf
Ar ôl digwyddiadau prysur yn Llanelli, Castellnewydd Emlyn, Rhydaman a Chaerfyrddin, mae dyddiad arall wedi'i drefnu i fusnesau gyfarfod ag amrywiaeth o swyddogion y Cyngor Sir. Dewch i gwrdd â swyddogion datblygu twristiaeth, trwyddedu, grantiau, ynghyd â swyddogion cymorth busnes a marchnata, yn Llandeilo ar 16 Mai
|
|
"Cwtsho Lan" yn Sir Gaerfyrddin yn cyrraedd miliynau
Gan dargedu'r rheiny oedd yn chwilio am egwyl fer ar ôl y Nadolig o fewn 3 awr o daith, roedd gweithgareddau marchnata oedd yn defnyddio'r gair poblogaidd 'cwtsh' wedi cyrraedd dros 3.6 miliwn o bobl drwy hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, ymweliadau gan ddylanwadwyr a hysbysebion radio, gan arwain at 12,278 o ymweliadau â gwefan Darganfod Sir Gâr.
Diolch i'r busnesau lleol niferus a gymerodd ran. Cefnogwyd y gwaith gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
|
|
|
Deddfwriaeth newydd ynghylch ailgylchu yn y gweithle
O 6 Ebrill 2024 ymlaen, rhaid i unrhyw wastraff rydych chi'n ei roi allan i'w gasglu gael ei wahanu'n gategorïau, sef poteli a jariau gwydr, gwastraff bwyd (os ydych chi'n cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos), cardbord a phapur, a metelau, plastig a chartonau.
Siaradwch â'ch darparwr casglu gwastraff i sicrhau eich bod yn cydymffurfio. Mae cyngor a chymorth sy'n benodol i'r sector, gan gynnwys arwyddion, posteri a gweminarau, ar gael ar y wefan.
|
Gweithredoedd o Gymreictod ar hap
Cafwyd sylw i sicrhau cymaint o ddiddordeb â phosibl yn Nydd Gŵyl Dewi drwy bartneriaethau gyda ThisIsWales.com a Croeso Cymru, yn ogystal â sylw digidol drwy weithgareddau marchnata "o Gawl i Gawl" a gefnogwyd gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
Torrwyd Record y Byd Guinness ar Fawrth 1af ar draeth Cefn Sidan ar gyfer yr ornest tynnu rhaff hiraf sef 516.35 metr. Mae Rîl o'r ymgais wedi'i phostio ar gyfrif Facebook Record y Byd Guinness, ac mae wedi cael ei gwylio 66k o weithiau. Bydd rhaglen ac arni bob un o ymdrechion eleni i dorri record y byd, a gynhyrchir gan gwmni Orchard o Gaerdydd, yn cael ei darlledu ar S4C ar Ebrill 1af am 8pm.
|
Archebwch nawr am ymweliadau am ddim i brif atyniadau'r sir
Dewch i weld rhai o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yn y sir (o lygad y ffynnon fel petai) yn barod ar gyfer y tymor sydd i ddod. Mae ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim, gan gynnwys teithiau a chyflwyniadau, yn cael eu cynnig drwy gydol y gwanwyn ar gyfer cyfleusterau ymwelwyr mawr. Archebwch le nawr ar yr ymweliad ymgyfarwyddo ag atyniadau Llanelli, gan gynnwys Parc Gwledig Pen-bre a Phlas Llanelly ar 25 Ebrill.
|
|
|
Cynllun Llysgenhadon Sir Gâr yn cyrraedd dros 400
Cofrestrwch i fod yn rhan o gynllun Llysgenhadon Twristiaeth Sir Gâr ac ymuno â dros 400 o bobl sydd eisoes wedi cofrestru ar lefel efydd ac arian. Mae'r modiwlau yn cynnwys trefi a phentrefi, bwyd a diod, y Gymraeg a'i diwylliant, arfordir Sir Gaerfyrddin, gerddi a mannau gwyrdd, a'r celfyddydau a diwylliant.
Mae'r modiwlau yn gwella gwybodaeth drwy ddysgu ar-lein sy'n hwyliog, am ddim ac yn addysgiadol gyda chwis ar y diwedd. Bydd modiwlau aur pellach yn cael eu rhyddhau ym mis Ebrill. Ar ôl ei gwblhau, anfonir sticeri ffenestri wedi'u brandio, tystysgrifau ac eiconau cyfryngau cymdeithasol atoch i arddangos eich cyflawniad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah.
|
|
|
Prosiect Pentre Awel yn nodi carreg filltir allweddol
|
|
Ymunodd Fay Jones, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, ag uwch-swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin, yn ogystal â chynrychiolwyr Bouygues UK ac is-gontractwyr lleol, yn y seremoni swyddogol i lofnodi'r ffrâm ddur ar safle mawreddog Pentre Awel, gan fod y strwythur dur terfynol wedi'i gwblhau ym mhob un o'r pum adeilad sy'n ffurfio Parth 1.
Mae'r datblygiad gwerth miliynau o bunnoedd, sef y cynllun adfywio mwyaf yn y de-orllewin, yn cael ei gyflawni gan Gyngor Sir Caerfyrddin a bydd yn dod â meysydd gwyddor bywyd ac arloesi busnes, gofal iechyd cymunedol a chyfleusterau hamdden modern at ei gilydd ar safle 83 erw Llynnoedd Delta ar arfordir Llanelli.
|
|
|
|
|