|
Dewch i gwrdd â ni yn y sioe deithiol Twristiaeth a Busnes nesaf
Ar ôl adborth cryf gan y busnesau a fynychodd ddigwyddiadau'r sioe deithiol ddiweddar yn Llanelli a Chastellnewydd Emlyn, mae slotiau eraill bellach ar gael ar gyfer y ddwy sioe deithiol nesaf gyda'r cyfle i gwrdd â swyddogion datblygu twristiaeth y Cyngor Sir, gan gwmpasu pob agwedd ar y sector o drwyddedu, cynllunio a grantiau i gymorth busnes a marchnata. Gellir archebu sesiynau ymlaen llaw ac maent ar gael fel sesiynau un i un neu fel grŵp.
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi naill ai yn Rhydaman (1 Chwefror) neu yng Nghaerfyrddin (5 Mawrth)
|
|
Ymgyrch Farchnata "Cwtsho Lan"
Mae cynyddu ymwybyddiaeth o'r sir fel lle deniadol i ymweld â hi yn cynnwys set o weithgareddau marchnata wedi'u cynllunio drwy gydol y flwyddyn, gan ddefnyddio hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus a chysylltiadau â Chroeso Cymru. Mae'r canllaw "Cwtsho Lan yn Sir Gâr" yn targedu cynulleidfa fawr ar ôl y Nadolig sy'n chwilio am wyliau bach byr yn y gaeaf trwy boblogeiddio'r term 'cwtsho'.
Diolch i'r busnesau niferus sy'n cymryd rhan ar draws y 10 seibiant â thema, gan gynnwys llefydd i aros, bwyta a chrwydro, syllu ar y sêr a llecynnau arfordirol. Mae'r gwaith yn cael ei gefnogi gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.
|
Diweddariad o ran Marchnata o Gawl i Gawl
Er mwyn manteisio ar ymwybyddiaeth genedlaethol o Ddydd Gŵyl Dewi, rydym wedi defnyddio'n llwyddiannus ymgyrch gwerthiant "O Gawl i Gawl" er mwyn ennill sylw ac ymwybyddiaeth. Anogir ymwelwyr i fentro ar daith o amgylch mannau gorau'r sir o ran gweini cawl, sef pryd sy'n gyfystyr â bwyd a lletygarwch Cymreig, gan hyrwyddo pa mor dda yw'r sir am wneud y pryd traddodiadol hwn a hyrwyddo rhai o'r tafarndai, caffis a bwytai o safon ledled y sir.
Os ydych chi'n sefydliad annibynnol sydd a 'stori' dda i'w hadrodd yn ymwneud â hanes eich cawl (er enghraifft, cawl wedi'i ysbrydoli gan Jin neu gawl â blas bara lawr!).
|
Archebwch nawr am ymweliadau am ddim i brif atyniadau'r Sir
Bellach gall darparwyr llety archebu i weld rhai o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yn y Sir (o lygad y ffynnon fel petai) yn barod ar gyfer y tymor sydd i ddod. Mae ymweliadau ymgyfarwyddo am ddim, gan gynnwys teithiau a chyflwyniadau, yn cael eu cynnig drwy gydol y Gwanwyn ar gyfer cyfleusterau ymwelwyr mawr fel Parc Gwledig Pen-bre a'r Amgueddfa Cyflymder newydd ym Mhentywyn.
Bydd yr ymweliad ymgyfarwyddo cyntaf ym Mhentywyn yn yr amgueddfa cyflymder newydd a Caban, ar 27 Chwefror.
|
Modiwlau Llysgenhadon Aur bellach yn fyw
Gyda dros 300 o bobl wedi cofrestru ar lefel efydd ac arian, mae modiwl aur cyntaf cynllun Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin bellach wedi'i ryddhau. Mae'r modiwl "Treftadaeth" yn gwella gwybodaeth trwy ddysgu ar-lein sy'n hwyliog, am ddim ac yn addysgiadol gyda chwis ar y diwedd.
Ar ôl ei gwblhau, anfonir sticeri ffenestri wedi'u brandio, tystysgrifau ac eiconau cyfryngau cymdeithasol atoch i arddangos eich cyflawniad. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Sarah.
|
|
|
Map wal twristiaeth newydd o'r Sir ar gael nawr
Ar ôl cael ei arddangos fel canolbwynt yng nghyfleuster newydd Caban ym Mhentywyn, gofynnodd sawl darparwr llety a allen nhw hefyd ddefnyddio'r map ymwelwyr artistig o'r Sir ar gyfer eu heiddo. Mae'n ased gweledol trawiadol i arddangos y Sir i westeion ac rydym yn falch iawn i rannu'r gwaith celf ar gais.
|
Gwefan Mapio Hawliau Tramwy Cyhoeddus Newydd ar gyfer y Sir
Mae ein tîm Cefn Gwlad wedi lansio gwefan newydd sy'n dangos yr holl Hawliau Tramwy Cyhoeddus cofrestredig yn y sir, gan dynnu sylw at lwybrau sydd wedi'u gwella yn ddiweddar yn ogystal â hysbysiadau am gau llwybrau dros dro. Mae hefyd yn caniatáu i chi roi gwybod am broblemau ar lwybrau. Mae tîm cefn gwlad a thwristiaeth y Cyngor Sir yn gweithio gyda'r fforwm mynediad lleol i sicrhau bod y llwybrau a hyrwyddir yn cael eu marchnata.
|
|
|
|
|