|
Sioe deithiol twristiaeth
Bu i 15 o fusnesau lleol fynychu'r Sioe Deithiol Twristiaeth dros y pythefnos diwethaf yn Llanelli a Chastellnewydd Emlyn gan gyfarfod wyneb yn wyneb a'r tîm datblygu twristiaeth a swyddogion eraill o'r adrannau busnes, trwyddedu a chymorth digwyddiadau.
Bydd y sioe deithiol nesaf ar 31 Ionawr yn llyfrgell Rhydaman a gallwch archebu lle nawr. Mae lleoedd yn gyfyngedig oherwydd capasiti'r lleoliad felly gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu eich apwyntiad. Gellir archebu sesiynau ymlaen llaw ac maent ar gael fel sesiynau un i un neu fel grŵp.
|
|
Y Llysgenhadon Twristiaeth diweddaraf yw Coleg Sir Gâr
Mae'r grŵp presennol o fyfyrwyr sy'n astudio Twristiaeth yng Ngholeg Sir Gâr wedi ymgymryd â'r modiwlau lefel Efydd ar-lein i fod y Llysgenhadon diweddaraf gyda'r nod o wella amser aros ymwelwyr ar draws y sir.
Gallwch ymuno â'r myfyrwyr a 300 arall sydd eisoes wedi gwella eu gwybodaeth am leoedd i ymweld â nhw drwy ddilyn rhai o'r modiwlau ar-lein hyn sy'n hwyliog, yn llawn gwybodaeth ac am ddim (o ddiwylliant i'r arfordir).
|
Martin Clunes ac ITV yn dychwelyd i Lanymddyfri
Roedd Martin Clunes a chriw o 90 yn ôl yn ymweld â Llanymddyfri ym mis Tachwedd i orffen ffilmio ar gyfer cyfres ddrama newydd ITV1 a fydd yn cael ei darlledu yn 2024. Mae swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda chwmnïau ffilm a theledu sydd am ddod â'u cynyrchiadau i'r ardal - nid yn unig i helpu i dynnu sylw at y sir, ond er mwyn i fusnesau a sector lletygarwch y sir elwa'n economaidd (amcangyfrifwyd bod ffilm yn 2021 wedi rhoi hwb o £750,000 i'r economi leol).
|
Camau marchnata yn codi ymwybyddiaeth
Er mwyn hybu cysylltiadau cyhoeddus, cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu ar y radio ac ymgyrchoedd gyda GWR sydd eisoes ar waith i gynyddu ymwybyddiaeth twristiaeth o'r Sir, mae nifer o bartneriaethau wedi'u sefydlu i ddenu ymwelwyr ychwanegol dros dymor y gaeaf.
Gyda chefnogaeth ariannol cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae deunyddiau hyrwyddo digidol ac ar bapur wedi'u cadarnhau gyda 3 o brif gylchgronau'r DU y mae darllenwyr yn tanysgrifio iddynt sef Coast, Countryfile a The Great Outdoors sy'n gyfanswm o dros 200,000 o ddarllenwyr.
|
Fideo hyrwyddo newydd Gaeaf 23 bellach ar gael
Gan ddangos y gorau o'r Sir ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae fideo twristiaeth newydd yn cael ei hyrwyddo ar draws gwefannau Darganfod Sir Gâr a'r cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â hysbysebion wedi'u targedu yn defnyddio Google a Facebook. Rhowch y fideo ar eich gwefannau nawr.
|
|
|
Synhwyrydd Carbon Monocsid yn y sector llety ymwelwyr
Mae ein tîm Diogelu'r Cyhoedd yn annog darparwyr llety i wirio eu systemau gwresogi a sicrhau bod synhwyrydd carbon monocsid yn cael ei osod yn eu cyfleusterau i ymwelwyr. Gall offer sy'n defnyddio tanwyddau penodol (megis nwy, glo, coed neu olew), ollwng carbon monocsid os nad ydynt yn gweithio'n iawn, os oes rhywbeth yn eu rhwystro, neu os nad yw'r ystafell wedi cael ei hawyru'n gywir.
|
Rhowch eich barn ar y newidiadau i wyliau ysgol yng Nghymru.
Rhowch eich barn ar y newidiadau i wyliau ysgol yng Nghymru Mae ymgynghoriad wedi agor ar newid y calendr ysgol, er mwyn gwasgaru gwyliau'n fwy cyfartal, gan gynnwys egwyl hanner tymor yr hydref o 2 wythnos. Byddai'r newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno o fis Medi 2025, sy'n golygu y byddai ysgolion yn cael seibiant o bythefnos ym mis Hydref 2025 a seibiant o bum wythnos yn ystod haf 2026.
|
|
|
|
|