|
Dewch i gwrdd â ni | Sioe Deithiol y Gaeaf Sector Twristiaeth y Cyngor Sir
|
|
Mae amserau y gellir eu harchebu bellach ar gael ar gyfer y ddwy sioe deithiol gyntaf ac mae cyfle i gwrdd â swyddogion datblygu twristiaeth y Cyngor Sir, gan gwmpasu pob agwedd ar y sector gan gynnwys trwyddedu, cynllunio a grantiau ynghyd â chymorth busnes a marchnata. Gellir archebu sesiynau ymlaen llaw ac maent ar gael fel sesiynau un i un neu fel grŵp.
Byddem wrth ein bodd yn cwrdd â chi naill ai yn Llanelli (30ain Tachwedd) neu yng Nghastellnewydd Emlyn (5ed Rhagfyr) rhwng 10am a 4pm.
|
|
|
Galw ar bob busnes
|
Wrth godi ymwybyddiaeth o'r Sir ar draws y DU fel cyrchfan ymwelwyr, rydym yn targedu awduron a newyddiadurwyr teithio ar draws y cyfryngau {o bapurau newyddion y Guardian, y Telegraph a'r Sun i gylchgronau sy'n cynnwys Countryfile, Waitrose a'r beibl ffasiwn Elle} gyda straeon a syniadau a fydd yn arwain at gael ein cynnwys ynddynt.
Digwyddiadau newydd, bwydlenni newydd, agoriadau newydd, lansiadau newydd, prosiectau newydd ac ati – os yw'n NEWYDD hoffem glywed amdano. Mae bod yn wahanol yn wych ar gyfer gwaith y cyfryngau. Os oes unrhyw beth sydd ychydig yn wahanol i'r arfer yn digwydd yn Sir Gâr, byddem yn dwlu cael gwybod amdano!
|
|
Un o gomedïwyr gorau'r DU yn dychwelyd i'w fan geni i ffilmio ar gyfer Channel 4
Roedd swyddogion y cyngor yn falch iawn o gydweithio â Channel 4 i drefnu i Rhod Gilbert, un o gomedïwyr gorau'r DU, ymweld â sir ei eni fel rhan o ddilyniant ar gyfer rhaglen Stand Up To Cancer ym mis Tachwedd.
|
Caffi sy'n croesawu cŵn yng Nglanyfferi yn un o'r Llysgenhadon diweddaraf
Mae'r busnes newydd Traeth Coffee wedi ymuno â dros 260 o bobl eraill drwy ddod yn Llysgennad Twristiaeth Sir Gaerfyrddin, gan ehangu eu gwybodaeth leol i ddarparu croeso cynnes i ymwelwyr.
Beth am ichi hefyd fod mewn gwell sefyllfa i gefnogi'r economi leol fel Traeth Café drwy gofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein AM DDIM hwn yma. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif y gellir ei lawrlwytho ac eicon i'w ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol a sticer ffenestr ar gyfer eich busnes.
|
Hysbyseb AM DDIM i gyrraedd 25,000 o ddefnyddwyr y mis
Gyda chymorth gan gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae gweithgareddau marchnata ar y gweill i dargedu'r rhai sy'n cynllunio gwyliau byr yn yr hydref. Byddwch yn rhan o'r ymgyrch gyda hysbyseb AM DDIM ar wefan Darganfod Sir Gâr (llety, atyniad, digwyddiad neu fwyd). |
|
|
Bod yn rhan o restr llety'r theatr
Gan fod tymor y Panto bron cyrraedd ein Theatrau, mae angen llety ar y criw a’r cast tra byddant yng Nghaerfyrddin gydol fis Rhagfyr. Os oes eiddo neu ystafell gennych chi, cysylltwch â Sarah os gwelwch yn dda drwy.
|
|
|
Taflen Gwybodaeth i Dwristiaid | Gwneud y mwyaf o Natur
Gan fod yr amgylchedd naturiol yn atyniad mawr i'r rhai sy'n ymweld â'r Sir {o Lygod y Dŵr yn Llanelli i Wiwerod Coch yng Nghoedwig Tywi}, mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i wneud yr hyn y gallwn ni i'w warchod a'i gynnal. Mae'r Cyngor Sir yn cyflogi parcmyn a swyddogion bioamrywiaeth i fod ar flaen y gad o ran y gweithgareddau ac maent wedi cynhyrchu'r daflen wybodaeth syml hon i chi a'ch ymwelwyr ei mwynhau a chyfrannu ati.
|
|
|
Cyfraith Newydd - Diweddariad 1 | Deunyddiau Ailgylchu Safleoedd Annomestig
O fis Ebrill 2024, bydd yn dod yn gyfraith yng Nghymru i bob busnes, elusen a sefydliad sector cyhoeddus i ddidoli eu gwastraff i'w ailgylchu. Mae hefyd yn berthnasol i'r holl gasglwyr a phroseswyr gwastraff ac ailgylchu sy'n rheoli gwastraff tebyg i wastraff y cartref o weithleoedd a digwyddiadau fel gwyliau, cyngherddau a sioeau.
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r gyfraith hon i wella'r ffordd yr ydym yn casglu ac yn gwahanu gwastraff. Cewch fwy o wybodaeth yma
|
|
|
Cyfraith Newydd - Diweddariad 2 | Cynhyrchion plastig untro
|
|
Yn aml, cynhyrchion plastig untro yw'r sbwriel sydd yn ein parciau, ar ein strydoedd ac ar ein traethau ac yna bydd adnoddau'r Cyngor Sir yn cael eu defnyddio i'w gasglu a'i waredu. Bydd cyfraith newydd gan Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi (gan gynnwys am ddim) rai cynhyrchion plastig untro penodol i ddefnyddwyr yng Nghymru. Cewch fwy o wybodaeth yma
.
|
Pecynnau gardd am ddim i sefydliadau cymunedol
Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn rhoi pecynnau gardd am ddim i sefydliadau cymunedol ac mae bob pecyn yn cynnwys planhigion brodorol, offer a deunyddiau, canllawiau ar sut i osod yr ardd, a chymorth ymarferol.
|
|
|
Parc yr Esgob- Bishop’s Park Abergwili secures major fund to restore a ‘secret’ garden
|
|
Mae Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn wedi derbyn mwy na £203,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a £137,127 gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU fel rhan o Gronfa Cymunedau Cynaliadwy Cyngor Sir Caerfyrddin. Bydd y gwaith o adfer gardd 'gudd' a oedd unwaith yn llecyn ar gyfer tyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer bwrdd Esgobion Tyddewi yn cwblhau rhan olaf y jig-so yn y parc. Mae hen diroedd Palas Esgobion Tyddewi, sydd bellach yn gartref i Amgueddfa wych Sir Gaerfyrddin, wedi bod yn lle i dyfu, dysgu a'u mwynhau ers dros 800 mlynedd. |
|
|
|
|