|
DR Taxis yn dod yn llysgennad twristiaeth.
Fel un o'r bobl gyntaf y gallai ymwelydd ei gyfarfod, mae gyrwyr tacsis y Sir yn elfennau pwysig o ran lle mae rhywun yn mynd, yn mwynhau ac yn gwario arian. Mae Ethan Jones o DR Taxis, Llanelli bellach wedi gwella ei wybodaeth leol drwy ddod yn yrrwr tacsi cyntaf Sir Gaerfyrddin i fod yn Llysgennad Twristiaeth.
Gallwch ymuno ag Ethan a mwy na 200 o bobl drwy gofrestru ar gyfer y cwrs ar-lein, AM DDIM yma. Ar ôl cwblhau'r cwrs, byddwch yn derbyn tystysgrif y gellir ei lawrlwytho ac eicon i'w ddefnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol.
|
|
Cynnwys am ddim i wella'ch gwefan a'ch cyfryngau cymdeithasol
Cynnwys gwych yw hanfod unrhyw bresenoldeb ar y we, felly beth am gymryd ychydig o ysbrydoliaeth o wefan ymwelwyr swyddogol Darganfod Sir Gâr a rhoi gwybod i'ch ymwelwyr beth sydd i'w weld a'i wneud yn eich ardal. Mae'n hawdd ychwanegu dolenni o'r wefan ryngweithiol hon at eich gwefan chi a chofiwch fod modd cynnwys eich digwyddiad, eich llety neu'ch atyniad am ddim!
|
Fideo hyrwyddo newydd yr hydref ar gael
Gan ddangos y gorau o'r Sir ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae fideo hyrwyddo newydd wedi cael ei greu ac mae'n cael ei farchnata ar draws gwefannau a chyfryngau cymdeithasol Darganfod Sir Gâr yn ogystal â hysbysebu wedi'i dargedu gan ddefnyddio Google a Facebook. Rhowch y fideo ar eich gwefannau nawr
|
|
Prosiectau twristiaeth lleol yn derbyn cyllid o £1/2m
Mae swm o £488,000 wedi'i sicrhau o gronfa twristiaeth y Pethau Pwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau ar draeth Llansteffan ac yn Amgueddfa Sir Gâr fel rhan o fuddsoddiad ehangach o £610,000 gan y Cyngor Sir.
Does dim llawer o bobl yn sylwi ar amwynderau lleol ond maen nhw'n rhan allweddol o brofiad ymwelydd ac o fudd i'r rhai sy'n byw yn yr ardal. Os oes gennych eitem i'w hystyried gan ein gweithgor ymwelwyr trawsadrannol, e-bostiwch isod.
|
Atyniadau ymwelwyr allweddol yn derbyn y Faner Werdd
Mae Parciau Gwledig Pen-bre a Llyn Llech Owain Cyngor Sir Caerfyrddin ac, am y tro cyntaf, Parc Coetir y Mynydd Mawr, i gyd wedi derbyn Gwobr nodedig y Faner Werdd ar gyfer 2023/24. Mae'r parciau, sydd ar agor drwy gydol y flwyddyn, yn croesawu dros 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac mae'r gwobrau'n glod i waith gwych y staff a'r gwirfoddolwyr.
|
Paentiad byd-enwog yn dod i atyniad lleol
Mae 'Tobias a'r Angel' yn agor ddydd Sadwrn 9 Medi yn Amgueddfa Sir Gâr!
Dewch i weld trydedd arddangosfa fendigedig a’r olaf o bartneriaeth Taith Campwaith yr Oriel Genedlaethol, gyda chymorth hael gan yr Oriel Genedlaethol, Llundain.
Bydd y paentiad hardd hwn, o weithdy Andrea del Verrocchio, i’w weld gyda mynediad am ddim tan 7 Ionawr 2024.
|
|
|
|
|