Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Medi 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Medi, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Ehangu Dechrau'n Deg – Pecyn Hyrwyddo a Cheisiadau ar agor nawr!

Flying Start

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod ehangu Dechrau'n Deg wedi dechrau’n swyddogol! Gall teuluoedd yn y codau post sydd newydd eu hychwanegu bellach wneud cais am leoedd, gyda lleoliadau yn dechrau o fis Ionawr 2026. Bydd penderfyniadau'n cael eu hanfon ar 10 Tachwedd. Anogwch deuluoedd i wneud cais a gwirio eu cymhwysedd drwy ein gwiriwr cod post.

Darllenwch ragor am yr ehangu yn ein datganiad i'r wasg.

Dylai pob darparwr bellach fod wedi cael pecyn hyrwyddo oddi wrthym ni, sy'n cynnwys:

  • 1 × Poster ehangu Dechrau'n Deg
  • 1 × Atodiad ffenestr A5 (addas ar gyfer ffenestri arddangos – pilio'r blaen i ffwrdd a glynu)
  • 1 × Atodiad ffenestr A4 (addas ar gyfer ceir sy'n gysylltiedig â gwaith i hyrwyddo Dechrau'n Deg)

Dangoswch y deunyddiau hyn i helpu codi ymwybyddiaeth o'r ehangu. Rhannwch y deunyddiau hyn i helpu codi ymwybyddiaeth o'r ehangu. Mae eich cymorth yn hanfodol i sicrhau bod gan deuluoedd yr holl wybodaeth a’u bod nhw’n barod i elwa ar y cyfle hwn. Diolch!   


Yn eisiau gwirfoddolwyr: Helpwch i hyrwyddo Gofal Plant Dechrau'n Deg

Flying Start

Rydyn ni’n chwilio am leoliad Gofal Plant Dechrau'n Deg i wirfoddoli ar gyfer sesiwn ffilmio fer i'n helpu ni i greu fideos hyrwyddo yn arddangos profiadau rhieni o Ofal Plant Dechrau'n Deg.

Os ydych chi hefyd yn adnabod teulu a fyddai'n hapus i gael eu cyfweld am eu taith Dechrau'n Deg, byddai hynny'n well fyth. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ein cynorthwyo ni gyda'r prosiect hwn, cysylltwch â'n Swyddog Marchnata a Chyfathrebu yn owenst@caerffili.gov.uk.


Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru: Llywio Gofal Plant, Gwaith Chwarae a Gweithgareddau i'r Dyfodol

Have your say

Rydyn ni’n gwahodd barn ar Orchymyn Drafft Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2026, a Chynllun Cymeradwyo Gwirfoddol newydd ar gyfer darparwyr nad oes angen iddyn nhw gofrestru. Bydd eich adborth yn helpu llywio polisi sy'n cynorthwyo teuluoedd a darparwyr ledled Cymru.

🗓️ Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 3 Tachwedd 2023.

🔗 https://www.llyw.cymru/eithriadau-o-ran-cofrestru-gofal-plant-ar-cynnig-ar-gyfer-cynllun-cymeradwyo-gwirfoddol


Dan sylw: Winston’s Wish – Grymuso gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo plant ifanc sy'n galaru

Winstons wish

Winston’s Wish yw prif elusen profedigaeth plentyndod y DU, gan gynnig arweiniad, hyfforddiant ac adnoddau arbenigol i helpu gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo plant a phobl ifanc sy'n galaru. O becynnau cymorth ymarferol a syniadau gweithgareddau i hyfforddiant ymateb cyflym a chyngor uniongyrchol trwy linell gymorth, sgwrs fyw ac e-bost, mae Winston's Wish yn darparu sgiliau a hyder i ymarferwyr gael sgyrsiau sensitif a darparu cymorth ystyrlon.

🔗 Dolenni defnyddiol i weithwyr proffesiynol:


Ceisiadau'r Blynyddoedd Cynnar, Ionawr ac Ebrill 2025 (Codi’n dair)

Building Blocks

Mae'r broses ymgeisio ar agor i rieni wneud cais am le Codi'n Dair ar gyfer eu plant am dymor y gwanwyn a'r haf 2026.

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Gwener 31 Hydref 2025
  • Hysbysiad o benderfyniad: Diwedd mis Tachwedd 2025

Anogwch rieni i wneud cais am le gyda chi (neu ysgol) os dyna yw eu dewis drwy fynd i wefan y Cyngor yn http://www.caerffili.gov.uk/DerbyniadauYsgol.

Atgoffwch rieni bod angen iddyn nhw hefyd gyflwyno cais ar wahân i gychwyn mewn meithrinfa ym mis Medi 2026.


Ceisiadau meithrin ar agor!

Tunnel and child

Mae ceisiadau bellach ar agor i blant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2025 a 31 Awst 2026 i wneud cais am le mewn meithrinfa.

  • Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 13 Chwefror 2026
  • Hysbysiad o benderfyniad: Diwedd mis Mai 2026

Trafodwch hyn gyda theuluoedd cymwys rydych chi’n gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n gwneud cais. Hefyd, atgoffwch rieni y bydd angen iddyn nhw wneud cais eto'r flwyddyn ganlynol ar gyfer dosbarth derbyn.

Gall rhieni wneud cais yma: http://www.caerffili.gov.uk/DerbyniadauYsgol


Cymdeithas Strôc – Cefnogwch Dîm y Blynyddoedd Cynnar Caerffili a'n helpu ni i gyrraedd ein targed o £1000!

Stroke Association

Er cof am Kerry-Anne, bydd tîm ohonon ni yn cymryd rhan yn Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul 5 Hydref i godi arian ar gyfer y Gymdeithas Strôc. Bydden ni’n gwerthfawrogi unrhyw roddion, waeth pa mor fach, i'n helpu ni i dalu teyrnged i wraig hyfryd yr ydyn ni i gyd yn dal i’w cholli'n fawr. Diolch. 


Ymgynghoriad: Adolygiad o Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant

Survey

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant, sy'n helpu Awdurdodau Lleol i sicrhau bod digon o ofal plant ar gael i rieni a gofalwyr mewn gwaith neu hyfforddiant.

Maen nhw’n ceisio adborth, yn enwedig gan rieni a gofalwyr, i wneud yn siŵr bod Asesiadau Digonolrwydd Gofal yn cynnwys yr wybodaeth gywir i gynorthwyo gyda chynllunio gofal plant yn y dyfodol.

Mae holiadur byr, wedi'i anelu at rieni/gofalwyr, wedi'i gynnwys yn y ddogfen ymgynghori. Bydd eich mewnbwn yn helpu llunio darpariaeth gofal plant yn y dyfodol ledled Cymru.

👉 Gallwch chi ddod o hyd i'r ymgynghoriad yma.


Creating an Anti-Racist Culture in Settings Guide – DARPL

Darpl

Mae'r ddogfen Creating an Anti-Racist Culture in Settings Guide wedi’i diweddaru bellach ar gael. Bwriad y pecyn cymorth ymarferol hwn yw helpu lleoliadau gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar yng Nghymru i ymgorffori arferion gwrth-hiliol a chreu amgylcheddau cynhwysol.


Lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu sy'n dechrau ym mis Medi 2025

Amserlen Hyfforddiant 2025/2026

Calendar

Mae amserlen hyfforddiant blynyddol Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili bellach ar gael ar ein gwefan. Mae rhai cyrsiau'n dechrau yn yr wythnosau nesaf felly gwiriwch yr amserlen a chadw lle cyn gynted â phosibl. 

Mae’r manylion a’r ffurflen cais am hyfforddiant ar gael drwy glicio ar y ddolen isod. 


Hyfforddiant Arweiniad ComIT – Hanfodol i staff sy'n gweithio gyda phlant 0–3 mlwydd ac 11 mis oed

Childcare

Rydyn ni’n annog staff sy'n gweithio gyda phlant mewn lleoliadau gofal plant ac ysgolion i gwblhau Hyfforddiant Arweiniad ComIT. Mae'r hyfforddiant hwn yn darparu trosolwg ymarferol o'r dull ComIT, sydd wedi'i gynllunio i gynorthwyo plant sy'n mynychu lleoliadau gofal plant neu sy'n cael addysg y blynyddoedd cynnar.

Mae'r hyfforddiant yn cynnwys:

  • Rhestrau gwirio ar gyfer asesu'r amgylchedd, rhyngweithio rhwng oedolion a phlant, a phlant unigol
  • Cyngor a strategaethau i gynorthwyo teuluoedd plant 0-3 mlwydd ac 11 mis oed
  • Arweinaid ar nodi ac ymateb i bryderon ynghylch datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu

Rydyn ni’n eich annog chi i lenwi’r rhestrau gwirio plant ar gyfer unrhyw blentyn y mae gennych chi bryderon amdano. Wedyn, gallwch chi weithredu'r strategaethau wedi’u darparu yn y lleoliad a'u rhannu nhw gyda theuluoedd i gynorthwyo datblygiad gartref.

Noder: Er bod yr hyfforddiant yn gofyn i chi lenwi holiadur cyn y cwrs, nid yw’r cam hwn yn orfodol.

Request to join the ComIT EY SLC MS Team/Cais i ymuno â MS Teams LlICh yn y BC ComIT


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr