Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Gorffennaf, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Croeso i'n Swyddogion Cynhwysiant newydd

Hellos

Rydyn ni’n falch iawn o gyflwyno a chroesawu chwe aelod newydd i Dîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili:

Anne Jones, Gemma Morgan, Kay-d Heaver, Roisin DeSouza, Stephanie Hooper a Zoe Davies-Percy.

Yn ymuno â ni fel Swyddogion Cynhwysiant, maen nhw’n dod â chyfoeth o brofiad, angerdd ac ymroddiad i'w rolau newydd. Bydd eu gwaith yn canolbwyntio ar helpu uwchsgilio staff lleoliadau gofal plant ledled y Fwrdeistref Sirol, cynorthwyo ymarferwyr i ddiwallu anghenion datblygiadol plant, modelu strategaethau, hyrwyddo darpariaeth gynhwysol o ansawdd uchel i bob plentyn, yn ogystal â gweithio gyda lleoliadau i gynyddu cyfraddau presenoldeb.           


Ehangu Dechrau'n Deg – Ceisiadau’n agor ym mis Medi

Rydyn ni’n llawn cyffro i rannu diweddariad am ehangu Dechrau'n Deg. Bydd teuluoedd sy’n byw yn y codau post sydd newydd eu hychwanegu yn gallu gwneud cais o ddydd Llun 1 Medi 2025, gyda lleoliadau yn dechrau ym mis Ionawr 2026. Bydd teuluoedd cymwys sydd wedi cofrestru gyda ni i gyd yn cael neges destun gennym ni, yn eu hannog nhw i wneud cais trwy'r wefan. 

Byddwn ni’n rhannu deunyddiau hyrwyddo a rhagor o wybodaeth yn fuan, felly cadwch lygad yn agored! Diolch fel arfer am eich cymorth i'n helpu ni i ledaenu'r neges a pharatoi teuluoedd i wneud cais.

Flying Start

Newyddion da – cynnydd yn y gyfradd ar gyfer lleoliadau gofal plant Dechrau'n Deg

Flying Start

Yn dilyn adolygu cyfraddau, cynlluniau ariannol ac adborth gan ddarparwyr, rydyn ni'n falch o gyhoeddi y bydd y gyfradd ar gyfer sesiwn 2.5 awr yn cynyddu i £20 (£100 yr wythnos am 5 sesiwn) o fis Medi ymlaen. Dylai hyn helpu gyda chostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â gofal plant Dechrau'n Deg, megis y canlynol:

  • pob plentyn Dechrau'n Deg yn cael ei broffil un dudalen ei hun
  • staff gofal plant yn mynychu hyfforddiant mewn swydd (HMS) (5 x sesiwn Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
  • trosglwyddo gwaith papur ar gyfer pob plentyn i'w leoliad Addysg y Blynyddoedd Cynnar
  • darparwyr gofal plant yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol eraill i wella presenoldeb tuag at 100%
  • pob plentyn yn cael cymorth i wella ei sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu (pecyn cymorth COMIT), yn ogystal â sgiliau datblygiadol eraill.

Diolch i bawb a ddaeth i'r gweithdai. Byddwn ni'n trefnu sesiwn arall ym mis Medi/Hydref ar gyfer y rhai a wnaeth ei golli y tro diwethaf, i drafod gofal plant Dechrau'n Deg ac ehangu Cam 3.


Er cof cariadus am Kerry-Anne Lewton

Keri anne

Yn ystod tymor yr haf, fe wnaeth plant yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg wylio lindys yn tyfu ac yn troi'n bili-palod. Fe wnaethon nhw eu rhyddhau nhw er cof am ein cydweithiwr a'n ffrind gwych Kerry-Anne Lewton, a fydd yn ein calonnau am byth.

Hoffai ein staff rannu'r gerdd ganlynol er cof amdani hi:

In life's garden you were a vibrant bloom,
A radiant butterfly, dispelling our gloom,
A tender touch, a gentle heart,
Oh, how we cherish the love you'd impart.

Each flutter, a reminder of your grace,
A loving embrace, your warm solace,
Through stormy skies and sunny days,
A beacon of hope, guiding our ways.

We'll treasure the moments, the laughter, the tears,
A kaleidoscope of memories, transcending the years,
A butterfly's dance, a symbol of love,
Now you fly free, in heavens above.


Cychwyn Chwarae yn y Parc

Play in the park

Mae sesiynau Chwarae yn y Parc wedi cychwyn, gyda sesiynau ym Mharc Morgan Jones ar 6 Awst i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda gwestai arbennig, y Cynghorydd Carol Andrews. Os nad oeddech chi yno, peidiwch â phoeni, mae saith sesiwn arall dal i ddod y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw. 

Nesaf: Maes Chwarae Abertridwr 📅 Dydd Mercher 13 Awst, 11am–2pm


Cyrsiau hyfforddi Hanen sydd i ddod

Training

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod cyrsiau hyfforddi Hanen wedi'u trefnu ar gyfer y misoedd nesaf. Gweler y manylion isod:

Cwrs

Dyddiad dechrau

  Dyddiad cau ar gyfer cofrestru

Learning Language and Loving It

15 Medi

  12 Medi

TeacherTalk

22 Medi

  12 Medi

TeacherTalk

3 Tachwedd

  22 Hydref

Mae manylion llawn y cyrsiau a gwybodaeth am gadw lle ar gael ar y wefan.


Cymorth o ran costau ysgol – Grant Hanfodion Ysgol

Schoool essentials grant

Mae'r broses gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgolion bellach ar agor! Anogwch unrhyw deuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw i wirio eu cymhwysedd a gwneud cais.

Os yw plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod rhagor o gymorth ariannol ar gael drwy'r Grant Hanfodion Ysgol.

Gall y cymorth hwn helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol ac offer i sicrhau bod y plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol. Gall rhieni wirio cymhwysedd eu plentyn a gwneud cais yn www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol


Rhaglen Bwyd a Hwyl

FAN

Cafodd rhaglen haf Bwyd a Hwyl 2025 ei lansio’n swyddogol ar 22 Gorffennaf yng Nghaerffili, gydag ymweliad arbennig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS.

Mae'r lansiad yn nodi dechrau blwyddyn arall o ddarpariaeth gwyliau sy’n gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol.

Darllen rhagor: https://bit.ly/3IBpXFh


Lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu sy'n dechrau ym mis Medi 2025

CCP

I gadw lle yn un o'r 2 weithdy canlynol, neu i danysgrifio i restr bostio y gweithdy i gael diweddariadau am yr holl weithdai yn y dyfodol, ewch i

  • Dydd Llun 15 Medi, 10am-12pm – Cyflwyniad i gysgu Bydd syniadau'n cael eu rhannu am sut i ymdopi ag anawsterau cysgu cyffredin mewn plant a phobl ifanc. Cadwch le erbyn 12pm ddydd Llun 8 Medi.
  • Dydd Mercher 22 Hydref, 10am-12pm – Pontio a gwahanu Bydd syniadau'n cael eu rhannu o ran cynorthwyo plant a phobl ifanc gyda phontio a gwahanu. Cadwch le erbyn 12pmd ddydd Mercher 15 Hydref

Hefyd, ddydd Llun 18 Awst, 10am-12pm – Cynorthwyo cyfathrebu Gweithdy wedi’i gyflwyno ar y cyd â Therapydd Iaith a Lleferydd. I gadw lle yn y gweithdy hwn, ewch i https://forms.office.com/e/qpyjEJLPtN

Nod y gweithdy yw eich helpu chi i wneud y canlynol:

  • Deall sut mae cyfathrebu yn datblygu mewn plant a deall dulliau cyfathrebu
  • Archwilio pam mae rhai plant yn datblygu anawsterau cyfathrebu
  • Archwilio'r heriau cysylltiedig sy’n gallu datblygu ochr yn ochr ag anawsterau cyfathrebu
  • Ystyried gwahanol ddulliau o gynorthwyo'ch plant i gyfathrebu

Dan sylw: Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Nas

Mae Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru yn adnodd hanfodol i unigolion awtistig a'u teuluoedd ledled Cymru.

Maen nhw’n cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys:

  • Cyngor ac arweiniad:  Yn cwmpasu pynciau fel diagnosis, cyfathrebu, addysg ac iechyd meddwl.
  • Gwasanaethau cymorth:  Yn cynnwys llinellau cymorth, canolfannau preswyl, a changhennau lleol dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n darparu gweithgareddau cymdeithasol a chymorth cymheiriaid.
  • Hyfforddiant ac addysg: Helpu ysgolion, gweithleoedd a gwasanaethau cyhoeddus i ddod yn fwy ystyriol o awtistiaeth.
  • Ymgyrchu: Gweithio i ddylanwadu ar bolisi a gwella gwasanaethau i bobl awtistig yng Nghymru.

Fel gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd, mae'n bwysig bod yn gyfarwydd â'r cymorth sydd ar gael. Cymerwch ychydig o amser i archwilio'r wefan ac ystyried sut y gallech chi ei ddefnyddio yn eich gwaith i gynorthwyo teuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw.

Maen nhw wedi llunio canllaw defnyddiol: Sensory differences – a guide for all audiences – Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae pobl awtistig yn profi gwahaniaethau synhwyraidd ac yn cynnig cyngor ymarferol i helpu staff i ddeall a chynorthwyo’r anghenion hyn, gan greu amgylcheddau mwy cyfforddus a chroesawgar.  Cafodd yr wybodaeth hon ei rhannu â chi yn dilyn eich ymweliad â'r Profiad Realiti Awtistiaeth.


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr