Diolch i'r holl ddarparwyr gofal plant, staff a phartneriaid a ddaeth i'n gweithdai gofal plant a pharthau yn ddiweddar. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi neilltuo amser yn eich amserlenni prysur – yn ystod y dydd neu ar ôl oriau gwaith – i ymgysylltu mewn modd meddylgar a brwdfrydig.
Rydyn ni nawr yn adolygu'r adborth a'r syniadau y gwnaethoch chi eu rhannu, ac yn ystyried sut orau i'w datblygu nhw.
Bydd y Tîm Gofal Plant yn cysylltu â lleoliadau unigol i archwilio cynlluniau ehangu yn fanylach. Hefyd, rydyn ni'n derbyn eich awgrymiadau ynghylch sut rydyn ni'n cyfathrebu â theuluoedd, a fydd yn helpu llunio ein strategaeth farchnata sydd ar ddod.
Rydyn ni'n llawn cyffro am y cyfleoedd sydd o'n blaenau ni, ac yn edrych ymlaen at gydweithredu hyd yn oed yn gryfach wrth i ni weithio gyda'n gilydd i ehangu'r ddarpariaeth o fis Ionawr 2026 ymlaen.
|
 Yn y gweithdai, dywedodd llawer ohonoch chi fod cyflwyno cofrestrau wythnosol erbyn 5pm nos Wener yn gallu bod yn anodd oherwydd amserlenni prysur ar ddiwedd yr wythnos. Hefyd, dywedodd rhai ohonoch chi eich bod chi’n cwblhau eich cofrestrau ar y penwythnos.
I gefnogi hyn, gallwch chi bellach gyflwyno’ch cofrestrau erbyn:
✅ 9am fore Llun
Mae hyn yn golygu rhagor o hyblygrwydd i chi, gan sicrhau bod cofrestrau yn dod i law mewn pryd i'w prosesu.
Diolch am eich adborth a’ch cymorth parhaus
 Mae'r broses gwneud cais am leoliadau gofal plant wedi'u hariannu ar agor ar hyn o bryd yn achos y canlynol:
-
Dechrau'n Deg: Mae'r broses gwneud cais ar agor yn achos plant sy'n byw mewn cod post Dechrau'n Deg ac a gafodd eu geni rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Awst 2023 i ddechrau ym mis Medi. Am fanylion, cliciwch yma.
-
Cynnig Gofal Plant Cymru: Teuluoedd cymwys gyda phlant a gafodd eu geni rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Awst 2022. Am fanylion, cliciwch yma.
Anogwch bob teulu cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais, a manteisio ar y cyfleoedd ariannu hyn.
Nodiadau atgoffa:
- 📢 Os nad ydych chi wedi ei gwneud hi eisoes, cofiwch ddilyn y cyfarwyddiadau wedi'u darparu ar eich dangosfwrdd Cynnig Gofal Plant Cymru i symud draw i GOV.UK One Login. 📌
-
Mae gwyliau'r haf yn agosáu. Gwnewch yn siŵr bod eich Cytundebau gyda rhieni yn cynnwys oriau gwyliau os am ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant yn y gwyliau. Rhagor o wybodaeth yma:
🔗 Darparwyr yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
and 🔗 Darparwyr yn hawlio taliadau o Gynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
- 🔔 Byddwch chi nawr yn cyflwyno ffurflenni Lleoli Plentyn Unigol ar gyfer teuluoedd y mae eu plant wedi'u cymeradwyo ar gyfer cyllid ac sydd wedi cysylltu â chi i ddarparu'r lleoliad. Nid yw'r ffurflen Lleoli Plentyn Unigol newydd yn mynnu i chi fewngofnodi i gyfrif. Bu ychydig o achosion o deuluoedd yn cyflwyno ffurflenni Lleoli Plentyn Unigol. Byddwch cystal â'u hatgoffa nhw y bydd y rhain yn cael eu gwrthod a bod angen i'r ffurflen Lleoli Plentyn Unigol gael ei llenwi gan y lleoliad, gyda'r rhiant.
 Mae Niwrowahaniaeth Cymru yn adnodd hanfodol sydd wedi ymrwymo i wella bywydau unigolion niwrowahanol, a'u teuluoedd, ledled Cymru. Mae'r fenter hon, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig digonedd o wybodaeth, adnoddau a chymorth ar gyfer cyflyrau fel awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia, a rhagor.
Nodweddion allweddol Niwrowahaniaeth Cymru:
-
Sesiynau cymuned ymarfer: Amrywiaeth o recordiadau o'r digwyddiadau Cymuned Ymarfer ar gyfer ymarferwyr, gan ganolbwyntio ar wahanol gyflyrau niwrowahanol, a materion sy'n effeithio ar y gymuned niwrowahanol.
-
Adnoddau i rieni a gofalwyr: Wedi'u datblygu mewn partneriaeth â phobl niwrowahanol, rhieni a gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol, nod yr adnoddau hyn yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau, dealltwriaeth o niwrowahaniaeth a dulliau ymarferol i rieni a gofalwyr pobl niwrowahanol.
-
Sesiynau cyngor rhithwir i rieni a gofalwyr: Sesiynau gwybodaeth ar-lein i rieni a gofalwyr, yn darparu gwybodaeth am amrywiaeth o bynciau yn ymwneud â niwrowahaniaeth.
Am ragor o wybodaeth ewch i Niwrowahaniaeth Cymru.
Adnoddau ychwanegol:
 Yn ddiweddar, mae llawer ohonoch chi wedi cael cyfle unigryw i gamu i fyd awtistiaeth drwy'r Profiad Realiti Awtistiaeth. Fe wnaeth y profiad ymgolli hwn gynnig cipolwg i ni ar yr heriau dyddiol sy'n wynebu unigolion ag awtistiaeth.
Y prif negeseuon
-
Gorlwytho'r synhwyrau: Un o'r agweddau mwyaf trawiadol ar y profiad oedd gorlwytho'r synhwyrau. Roedd y gawod gyson o wahanol synhwyrau yn ei gwneud hi'n anodd canolbwyntio a phrosesu gwybodaeth, gan adlewyrchu'r heriau sy'n wynebu unigolion ag awtistiaeth.
-
Rhwystrau i gyfathrebu: Hefyd, fe wnaeth y profiad dynnu sylw at y rhwystrau i gyfathrebu y mae pobl ag awtistiaeth yn aml yn eu hwynebu. Fe wnaeth tasgau syml droi'n gymhleth wrth i ni ymdrechu i ddehongli cyfarwyddiadau a chyfathrebu'n effeithiol, gan dynnu sylw at bwysigrwydd amynedd a chyfathrebu clir.
-
Empathi ac ymwybyddiaeth: Y neges fwyaf gwerthfawr, o bosibl, oedd ennill empathi ac ymwybyddiaeth, i feithrin dealltwriaeth a gwerthfawrogiad dyfnach. Mae'r empathi hwn yn hanfodol wrth feithrin amgylchedd mwy cynhwysol a chefnogol i unigolion ag awtistiaeth.
Rydyn ni'n estyn ein diolch i drefnwyr a hwyluswyr y Profiad Realiti Awtistiaeth am ddarparu cyfle mor fewnweledol ac effeithiol, ac am ein helpu ni i ddeall yr heriau sy'n wynebu unigolion ag awtistiaeth.
Os nad ydych chi wedi ei gwneud hi eisoes, byddwch cystal â mynegi eich barn yma!
 Bydd y digwyddiadau Chwarae yn y Parc yn dychwelyd drwy gydol mis Awst, ac eleni bydd 8 lleoliad i chi ymweld â nhw a'u mwynhau.
Mae'r manylion llawn ar gael ar ein gwefan a byddwn ni'n eu rhannu nhw ar ein tudalen Facebook yn ystod yr wythnosau nesaf.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!
Mae Alma Economics, ar ran Llywodraeth Cymru, yn gwahodd rhieni a gwarcheidwaid i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil am y rhaglen Dechrau'n Deg. Y nod yw deall profiadau teuluoedd yn well – p'un a ydyn nhw'n defnyddio gwasanaethau'r rhaglen Dechrau'n Deg ar hyn o bryd ai peidio.
Dyma'r hyn sydd o ddiddordeb arbennig iddyn nhw:
- Sut mae'r rhaglen Dechrau'n Deg wedi gwneud gwahaniaeth i'r teuluoedd sy'n ei defnyddio
- Sut olwg sydd ar gymorth blynyddoedd cynnar i deuluoedd nad ydyn nhw'n defnyddio'r rhaglen Dechrau'n Deg
I gymryd rhan, mae gofyn i deuluoedd lenwi arolwg cofrestru byr, gan rannu gwybodaeth sylfaenol amdanyn nhw eu hunain, am eu teulu, ac am unrhyw gymorth y maen nhw neu eu plentyn/plant yn ei gael – fel gofal plant, grwpiau magu plant, ymweliadau iechyd, neu gymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Manylion am y cyfweliad:
- Ni fydd cyfweliadau yn para mwy na 30 munud
- Gall cyfweliadau fod yn Gymraeg neu Saesneg
- Gall cyfweliadau fod drwy alwad ffôn neu alwad fideo
🗓️ Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal drwy gydol haf 2025.
🎁 Fel diolch, bydd pawb sy'n cymryd rhan yn cael y canlynol:
-
Taleb gwerth £10 ar ôl cwblhau'r cyfweliad
-
£20 ychwanegol yn 2026 a 2027 am gymryd rhan ym mhob un o dair blynedd yr astudiaeth
🔗 Cofrestru a rhagor o wybodaeth yma: https://tinyurl.com/2jcjvykb
📩 I ofyn cwestiynau, cysylltwch â: hanna.jeppsson@almaeconomics.com
Rhannwch y cyfle hwn ag unrhyw deuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw a allai fod â diddordeb mewn rhannu eu barn ar y rhaglen Dechrau'n Deg.
|
I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram |
|
 |
|