Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mehefin 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mehefin 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Anrhydeddu staff ym mharti gardd Palas Buckingham

Staff meeting the king

Yn ddiweddar, aeth Sarah Mutch, rheolwr y Blynyddoedd Cynnar, a staff o'r lleoliad gofal plant 'Busy Feet' i barti gardd frenhinol ym Mhalas Buckingham, i gael eu cydnabod am eu gwaith eithriadol ym maes y gwasanaeth cyhoeddus a'r Blynyddoedd Cynnar.

Wedi'i gynnal gan y Brenin Charles, roedd y digwyddiad yn dathlu unigolion sy'n gwneud cyfraniadau sylweddol i’r gymuned. Fe wnaeth gwesteion, gan gynnwys aelodau o'r Teulu Brenhinol, fwynhau brynhawn cain gyda cherddoriaeth fyw a lluniaeth yng ngerddi'r palas.

Mae'r gwahoddiadau hyn yn tynnu sylw at eu hymroddiad a'u heffaith, gan wneud hon yn foment falch i bawb. Llongyfarchiadau, Sarah a'r staff yn Busy Feet!


Nodyn atgoffa pwysig: Proses Lleoli Plentyn Unigol

SURVEY

Rhaid i bob lleoliad sy'n darparu gofal plant Dechrau'n Deg lenwi Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol. Mae'r ffurflen hon yn cael ei llenwi gan y darparwr gofal plant ar ôl dod i gytundeb gyda'r rhieni neu'r gwarcheidwaid.

Dyma nodyn i atgoffa pob lleoliad na ddylai lleoliadau plant ddechrau nes bydd y Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol wedi'i chymeradwyo a'r cyllid, dyddiad dechrau, dyddiad gorffen a’r oriau wedi’u hariannu wedi'u cadarnhau gan y Blynyddoedd Cynnar. Mae nifer cynyddol o achosion lle mae plant yn dechrau eu lleoliadau cyn i’r cyllid gael ei gymeradwyo, sy'n achosi problemau.

Bydd Hwb y Blynyddoedd Cynnar bob amser yn ymdrechu i brosesu'r Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol cyn gynted â phosibl.


Proses gwneud cais ar gyfer Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol 2025 bellach ar agor yng Nghaerffili

PLAY

Mae’r broses gwneud cais ar gyfer Grantiau Bach Diwrnod Chwarae Cenedlaethol Caerffili 2025 bellach ar agor, gan gynnig hyd at £200 ar gyfer lleoliadau gofal plant, gwarchodwyr plant a chlybiau y tu allan i'r ysgol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal digwyddiadau chwarae cynhwysol cost isel i blant rhwng 4 a 12 oed.

Rhaid i'r digwyddiadau gael eu cynnal rhwng 5 a 11 Awst, bod yn rhad ac am ddim neu gostio dim mwy na £1, gan gefnogi thema eleni: "Chwarae am y nesaf peth i ddim – gwneud pob diwrnod yn antur." Y dyddiad cau i wneud cais yw 12pm ddydd Mercher 2 Gorffennaf, gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn cael gwybod erbyn dydd Gwener 18 Gorffennaf. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Laura Williams yn willil17@caerffili.gov.uk neu 07720 103858.


Chwarae yn y Parc yn dychwelyd ym mis Awst

Play in the Park

Mae’n adeg gyffrous o'r flwyddyn unwaith eto lle mae cynllunio ar gyfer Chwarae yn y Parc wedi hen ddechrau. 

Bydd pob sesiwn ar agor rhwng 11am a 2pm. Dyma’r dyddiadau a'r lleoliadau:

  • Dydd Mercher 6 Awst 2025 – Parc Morgan Jones, Caerffili CF83 1AB
  • Dydd Gwener 8 Awst, Cae’r Eisteddfod, Tan-y-Llan Terrace, Rhymni NP22 5HE
  • Dydd Llun 11 Awst, Clwb Rygbi Abercarn – Tir Lles, Abercarn NP11 5AR
  • Dydd Mercher 13 Awst, Maes Chwarae Abertridwr, Aberfawr Road, Abertridwr CF83 4EJ
  • Dydd Mawrth 19 Awst, Parc Waunfawr, Waunfawr Park Road, Crosskeys NP11 7PH
  • Dydd Iau 21 Awst, Parc Ystrad Mynach, Caerphilly Road CF83 7EP

·        Dydd Mercher 27 Awst, Maes y Sioe, Sunnybank Road, Coed Duon NP12 1HY


Lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu

Childcare

Cynnig Gofal Plant Cymru: Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plant sydd â dyddiad geni rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Awst 2022. Anogwch rieni cymwys i wneud cais am gyllid i ddechrau ym mis Medi. Mae gwybodaeth a'r broses gwneud cais ar gael ar ein gwefan: Gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed/Cynnig Gofal Plant Cymru – Blynyddoedd Cynnar Caerffili

Gofal plant wedi'i ariannu gan Dechrau'n Deg: Bydd rhieni a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 12 Mai yn cael e-bost gyda phenderfyniad erbyn 5pm ar 9 Mehefin. Byddan nhw'n cysylltu â chi i drefnu eu lleoliadau. Manteisiwch ar y cyfle hwn i sicrhau bod eich adnodd ar Dewis yn gyfredol: Darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg (Dewis)


Profiad Realiti Awtistiaeth

Autism Reality

Yn dilyn ceisiadau gan rai lleoliadau, rydyn ni wedi llwyddo i sicrhau'r Profiad Realiti Awtistiaeth ar gyfer nifer o sesiynau ym mis Mehefin/Gorffennaf yng Nghanolfan Integredig i Blant Sant Iago.

Mae’r Profiad Realiti Awtistiaeth yn cynnig cwrs hyfforddi bythgofiadwy sy'n portreadu’n ddilys yr heriau prosesu synhwyraidd sy'n wynebu unigolion ar y sbectrwm awtistiaeth bob dydd. Gydag ymrwymiad dwys i ddeall a pharchu'r gymuned awtistig, mae'r profiad ymgolli hwn yn gweithredu fel catalydd ar gyfer trawsnewid byd-eang. Mae empathi, cynhwysiant a pharch yn ganolog i’w ethos, gan osod safon y mae pob rhaglen hyfforddi arall yn anelu at ei hefelychu.

Os hoffech chi ddod, cadwch le trwy’r ddolen isod.

https://www.eventbrite.com/e/1366092913679?aff=oddtdtcreator

Byddwch cystal â chyrraedd 10 munud cyn eich amser penodedig gan y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen feddygol cyn mynd ar y bws. Mae pob sesiwn yn para tua awr.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r gwefan Hafan - ARE


Dan sylw: MAC Media Academy Cymru

MAC

Mae'r Fenter Gwrywdod Cadarnhaol yn rhaglen ddeinamig sydd wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc rhwng 10 a 17 oed. Eu nod yw codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch casineb at fenywod a thrais ar sail rhywedd, herio ymddygiadau negyddol ac annog datblygu gwrywdod cadarnhaol.

Trwy fentora a sesiynau addysgol, maen nhw am rymuso pobl ifanc i gydnabod a mynd i'r afael â gwrywdod cadarnhaol ynddyn nhw eu hunain ac eraill, gan feithrin cymuned fwy diogel a mwy cynhwysol. 

Am ragor o wybodaeth neu i wneud atgyfeiriad, ewch i mediaacademycymru.wales/positive-masculinity


Neges y mis Siarad gyda Fi – Troi amser sgrin yn amser i ni

Talk with me

Mae gwneud sylwadau am bethau y gall eich plentyn eu gweld yn ffordd wych o'i helpu i ddysgu siarad. Gallwch chi wneud hyn mewn arferion pob dydd:

  • Wrth gerdded i’r siop, ‘ci yw e, mae’n gi mawr blewog’
  • Mewn archfarchnad, ‘mae angen i ni brynu bananas, mae’r bananas yn drwm!’
  • Yn y parc, ‘rwyt ti’n dringo’n uchel’, ‘mae’r ferch yn neidio’.
  • Wrth roi’r dillad i ffwrdd gyda’ch gilydd, ‘mae gen i hosan streipïog’, ‘mae’r dillad yn wlyb’.
  • Gwneud cinio gyda’ch gilydd, ‘gadewch i ni arllwys y llaeth’, ‘waw, dyna foronen fawr’.

Nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau gwneud hyn! Mae clywed yr un geiriau drosodd a throsodd yn helpu plant i’w dysgu nhw, felly efallai y byddwch chi’n siarad am hoff bethau eich plant yn rheolaidd. Gwnewch sylwad ac aros rhag ofn eu bod nhw eisiau ymateb. Os ydyn nhw'n rhoi cynnig arni hi, dywedwch yr ymadrodd yn ôl wrthyn nhw. Os ydyn nhw’n dweud ‘nana’ gallwch chi ddweud ‘ie, banana yw hi’. Mwynhewch yn rhannu'r holl eiriau am y pethau y maen nhw'n eu gweld bob dydd!

Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y llyfryn 10 tip i fy helpu i ddysgu siarad.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Lansio ymgynghoriad ar fwyta'n iach mewn ysgolion

Healthy eating

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar fwyta'n iach mewn ysgolion i wella maeth plant. Mae'r ymgynghoriad, a fydd ar agor tan 29 Gorffennaf 2025, yn ceisio barn ar y canlynol:

  1. Ysgolion Cynradd: Rheoliadau a chanllawiau bwyd a diod newydd.
  2. Hyrwyddo Bwyta'n Iach: Canllawiau i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol.
  3. Ysgolion Uwchradd: Galw am dystiolaeth ar arferion presennol.

Rydyn ni’n eich annog chi i gymryd rhan i helpu llunio safonau maeth ar gyfer iechyd plant.

I ddweud eich dweud, ewch i: Bwyta’n iach mewn ysgolion | LLYW.CYMRU


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr