Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mai 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mai 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Diweddariad pwysig: Codau presenoldeb newydd ar gyfer eich cofrestrau

Typing

Diweddariad pwysig: Codau presenoldeb newydd ar gyfer eich cofrestrau

Wrth i ni ddechrau tymor newydd yr haf, rydyn ni am estyn ein diolch o'r galon am eich ymrwymiad a'ch cymorth diwyro dros y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfnod prysur arall, ond mae eich ymroddiad wedi cael ei werthfawrogi'n fawr. Diolch am eich ymdrechion ac am weithio ochr yn ochr â ni.

I'r rhai ohonoch chi sy'n darparu lleoliadau gofal plant sy'n cael eu hariannu drwy Dechrau'n Deg neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, byddwch chi wedi cael eich cofrestrau newydd. Er mwyn ein helpu ni i gofnodi presenoldeb yn gywir, rydyn ni wedi cyflwyno ychydig o godau presenoldeb newydd:

  • L ar gyfer cyrraedd yn hwyr
  • V ar gyfer ymweliadau neu deithiau addysgol
  • R ar gyfer diwrnodau sydd wedi'u neilltuo ar gyfer defodau crefyddol yn unig

Rydyn ni hefyd wedi diweddaru'r canllawiau ar gyfer rhai o'r codau eraill. Ewch i'n tudalen we ni i gael cyfarwyddiadau manwl ar lenwi eich cofrestrau ac i gael rhagor o wybodaeth am bob cod a phryd i'w ddefnyddio. Canllawiau ynghylch cofrestrau lleoliadau wedi'u hariannu – Blynyddoedd Cynnar Caerffili


Ydych chi'n cynnig Cynnig Gofal Plant Cymru? Mae newid pwysig yn dod!

Gov uk

Os ydych chi'n defnyddio Porth y Llywodraeth ar hyn o bryd i gael mynediad at Gynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen i chi fudo i GOV.UK One Login.

Dylech chi fod wedi cael e-bost gan y tîm Cynnig Gofal Plant ddydd Mawrth 6 Mai, wedi'i anfon i'r cyfeiriad e-bost sydd wedi'i gofrestru ar y platfform, yn gofyn i chi gwblhau'r mudiad hwn. Mae hwn yn newid syml ond pwysig, a'r tro nesaf y byddwch chi'n mewngofnodi, bydd cyfarwyddiadau ar y sgrin yn eich tywys drwy'r broses.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Cael cymorth gydag GOV.UK One Login gyda'r Cynnig Gofal Plant i Gymru

Am gymorth, ffoniwch linell gymorth Cynnig Gofal Plant Cymru

📞 0300 062 8628

Mae'r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Iau 9am i 5pm, dydd Gwener 9am i 4.30pm.


Rhaglen Hyfforddiant yr Haf

play

Mae amserlen hyfforddiant yr haf Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili nawr ar gael ar ein gwefan. Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch ar y ddolen isod. 

Cadwch le nawr


Nodiadau Atgoffa Dyddiadur Pwysig!!

diary

Y broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg nawr ar agor ar gyfer Medi 2025

building blocks

Mae'r broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant cymwys sydd â dyddiad geni rhwng 01/04/2023 a 31/08/2023 nawr ar agor!

Y cyfnod gorau i wneud cais yw rhwng 28 Ebrill a 12 Mai, ond bydd modd gwneud cais ar ôl y cyfnod hwn.

Anogwch unrhyw rieni cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.


Banc bwyd Eglwys Connect Life yn rhoi 30 o fwndeli'r Pasg i gynorthwyo teuluoedd yng Nghaerffili

Easter Donations

Banc bwyd Eglwys Connect Life yn rhoi 30 o fwndeli'r Pasg i gynorthwyo teuluoedd yng Nghaerffili

Diolch yn fawr iawn i fanc bwyd Eglwys Connect Life, sy'n rhan o Ymddiriedolaeth Trussell, am roi 30 o fwndeli'r Pasg gwych i gynorthwyo'r teuluoedd rydyn ni'n gweithio gyda nhw ym Mlynyddoedd Cynnar Caerffili.

Cafodd y rhan fwyaf o'r bwndeli hyn eu rhannu â theuluoedd sy'n byw mewn unedau digartref lleol, tra cafodd y gweddill eu dosbarthu i deuluoedd yn y gymuned a oedd yn gwerthfawrogi'r weithred garedig hon yn fawr.

Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i'n partneriaid anhygoel ni am feddwl bob amser am y teuluoedd rydyn ni'n eu cynorthwyo; mae eich haelioni yn gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd!

Am ragor o wybodaeth ac i wneud rhodd, ewch i'n gwefan ni yn https://caerphilly.foodbank.org.uk/.


Arolwg Bwyd Blynyddoedd Cynnar i Rieni Gwent

Gwent

Neges ‘Siarad gyda Fi’ y mis – Siaradwch gyda fi am yr hyn rydyn ni'n gallu ei weld

Talk with me

Mae gwneud sylwadau am bethau y gall eich plentyn eu gweld yn ffordd wych o'i helpu i ddysgu siarad. Gallwch chi wneud hyn mewn arferion pob dydd:

  • Wrth gerdded i'r siop, ‘ci yw e, mae'n gi mawr blewog’
  • Mewn archfarchnad, ‘mae angen i ni brynu bananas, mae'r bananas yn drwm!’
  • Yn y parc, ‘rwyt ti'n dringo'n uchel’, ‘mae'r ferch yn neidio’.
  • Wrth roi'r dillad i ffwrdd gyda'ch gilydd, ‘mae gen i hosan streipiog’, ‘mae'r dillad yn wlyb’.
  • Wrth wneud cinio gyda'ch gilydd, ‘dewch i ni arllwys y llaeth’, ‘waw, dyna foronen fawr’.

Nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau gwneud hyn! Mae clywed yr un geiriau dro ar ôl tro yn helpu plant i'w dysgu, felly, efallai y byddwch chi'n sôn am hoff bethau eich plentyn yn rheolaidd. Gwnewch sylwad ac aros rhag ofn ei fod eisiau ymateb. Os ydy'n rhoi cynnig arni hi, dywedwch y geiriau yn ôl wrtho. Os ydy'n dweud ‘nana’ gallwch chi ddweud ‘ie, banana yw hi’. Mwynhewch rannu'r geiriau i gyd am y pethau mae'n eu gweld bob dydd!

Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y llyfryn 10 tip i fy helpu i ddysgu siarad.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Sicrhewch nad yw teuluoedd yn colli allan ar hanfodion ysgol

School

Sicrhewch nad yw teuluoedd yn colli allan ar hanfodion ysgol

Gall plant (Derbyn i flwyddyn 11) o deuluoedd ar incwm is sy'n cael budd-daliadau penodol, y rhai sy'n ceisio lloches a phlant mewn gofal hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.

Mae amser o hyd i wirio cymhwysedd a gwneud cais am gyllid eleni cyn i'r broses gwneud cais gau ar 31 Mai.

Am ragor o wybodaeth am y Grant Hanfodion Ysgol ac i wirio cymhwysedd, ewch i Hawliwch help gyda chostau ysgol.

Helpwch rannu hyn â theuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw ac â'ch rhwydweithiau ehangach.


Taflu goleuni ar y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion

ABUH

Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo iechyd a lles plant a phobl ifanc. Gan weithio ar draws meysydd iechyd ac addysg, mae nyrsys ysgol yn darparu cymorth arbenigol i deuluoedd, ysgolion a chymunedau.

Os ydych chi'n gweithio gyda phlant a theuluoedd, gallwch chi eu hatgyfeirio nhw at y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion am gymorth gydag amrywiaeth o anghenion corfforol, emosiynol a lles. Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan dîm o nyrsys arbenigol, gyda chymorth Nyrsys Cofrestredig a Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd.

Sut i atgyfeirio:

  • Mae rhieni/gofalwyr yn gallu ffonio 01633 431685 i gael mynediad uniongyrchol at y Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion.
  • Hefyd, mae pobl ifanc (11–19 oed) yn gallu anfon neges destun i 07312 263262 yn ddienw drwy ChatHealth am gyngor a chymorth cyfrinachol.

Am ragor o wybodaeth am y gwasanaeth ac i gael mynediad at adnoddau defnyddiol, ewch i'r adran Nyrsio Ysgolion ar wefan Iachach Gyda'n Gilydd.


Navigating Employment Allowance Changes: Essential Guidance for Childcare Providers

Childcare

Dros y misoedd diwethaf, mae'r cyfryngau gofal plant wedi bod yn rhoi sylw sylweddol i'r Lwfans Cyflogaeth, cynllun Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddarparu cyllid i wrthbwyso rhan o'r costau Yswiriant Gwladol i fusnesau bach.

Mae newidiadau wedi bod i bolisi, ac mae Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) wedi dweud bod eu canllawiau yn “cael eu hadolygu'n barhaus”.

Mae CThEF wedi cyhoeddi canllawiau ar-lein, ac maen nhw ar gael i siarad â nhw os oes gan leoliad gwestiynau am beth mae'r newidiadau yn ei olygu iddyn nhw. Os yw lleoliadau'n cymryd y dull hwn, gallan nhw wneud hynny yn hyderus bod y cyngor mae CThEF yn ei roi iddyn nhw'n gywir mewn perthynas â threfniant eu busnes eu hunain.

Rydyn ni'n teimlo bod y peth mwyaf diogel y gall darparwyr ei wneud i sicrhau eu hunain yn dibynnu ar drefniant eu busnes.

  • Os yw lleoliad yn gofyn am gymorth cyfrifydd i'w helpu gyda'u busnes, dylai eu cyfrifydd eu helpu nhw i sicrhau eu bod nhw'n unol â'r newidiadau.
  • Os nad yw lleoliad yn defnyddio cyfrifydd, dylen nhw gysylltu â CThEF eu hunain i geisio eglurder a bodloni eu hunain

Canllawiau CThEF

Lwfans Cyflogaeth: Yr hyn y byddwch chi'n ei gael – GOV.UK


Aelodaeth Cymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (PACEY) yng Nghymru

pacey

Mae'n bleser gan PACEY Cymru gyhoeddi, drwy rodd hael gan Sefydliad Moondance a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ein bod ni'n gallu darparu gostyngiad ar aelodaeth wedi'i hariannu i aelodau cymwys yng Nghymru o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026.

Yn ogystal, bydd aelodau cymwys* sy'n adnewyddu neu'n ymuno â PACEY o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026 yn gallu gwneud cais am grant bach er mwyn helpu gyda gweithgareddau i blant.

Yn ogystal â'r uchod, gallwn ni gadarnhau gostyngiad o £65 ar gyfer cynllun Cychwyn o Ansawdd PACEY o 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026 (bydd y wefan yn cael ei diweddaru o 01.04.25)

  • Ar gyfer unigolion sy'n prynu aelodaeth, bydd yn £144.99 gan gynnwys TAW (£209.99 gan gynnwys TAW gyda gostyngiad o £65 o gyllid)

Sylwch mai dim ond y pecyn cymorth sydd â TAW wedi'i hychwanegu.

Bydd unrhyw warchodwyr plant sy'n ymuno â PACEY gyda Cychwyn o Ansawdd hefyd yn gymwys i wneud cais am y grant bach.


Newyddion gan PACEY Cymru

Mae PACEY wedi ymuno â Grŵp Coram yn swyddogol, ac mae bellach yn cael ei adnabod fel Coram PACEY. Yng Nghymru, mae'r gwaith hwn yn parhau fel Coram PACEY Cymru, gyda'r un tîm a'r un gwasanaethau ar waith. Mae'r sefydliad yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynorthwyo gofalwyr plant gartref – fel gwarchodwyr plant a nanis – a mynd ati i wrthdroi'r gostyngiad yn nifer y gwarchodwyr plant. 👉 Rhagor o wybodaeth


Dathlu Diwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 15 Mai

Acsessabiliy

Er anrhydedd i Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Hygyrchedd Byd-eang 2025, rydyn ni'n cydweithio â @ReciteMe i dynnu sylw at sut y gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth MAWR! 💡

Oeddech chi'n gwybod bod ein gwefan – www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk – eisoes yn cynnwys y nodweddion hygyrchedd hanfodol hyn?

  • Testun amgen ar bob delwedd
  • Lliwiau cyferbyniad uchel ar gyfer gwell darllenadwyedd
  • Iaith glir, syml drwy'r cyfan
  • Cymorth llywio â bysellfwrdd llawn
  • Dewisiadau sain amgen ar gyfer fideos

Rydyn ni'n falch o gynnig profiad cynhwysol ar gyfer pawb sy'n ymweld â'n gwefan ni


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr