Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ebrill 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ebrill 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Diweddariad pwysig i ddarparwyr gofal plant: Newidiadau i'n ffurflenni ar-lein

Eforms

Mae'r rhan fwyaf ohonoch chi wedi cwblhau Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol ar gyfer lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu yn eich lleoliad. Ar hyn o bryd, mae’r broses hon yn defnyddio system o'r enw Cyswllt Caerffili.

Beth sy'n newid?

Bydd Cyswllt Caerffili yn cael ei ddisodli gan system newydd yn fuan. O ganlyniad, mae ein holl ffurflenni ar-lein, gan gynnwys y ffurflen Lleoli Plentyn Unigol, yn cael eu hailgreu yn y system newydd. Mae disgwyl i'r ffurflenni newydd hyn gael eu cwblhau a'u cyhoeddi ddiwedd mis Ebrill.

Beth sydd angen i chi ei wybod?

  • Newidiadau gweledol: Does dim byd i chi boeni amdano. Pan fyddwch chi'n cyrchu’r ffurflen newydd ar ein gwefan, bydd yn edrych yn weledol wahanol, ond bydd y cwestiynau a'r prosesau yn aros yr un fath. Dim ond golwg y ffurflenni a'r negeseuon e-bost sy’n cael eu hanfon atoch chi fydd yn newid.
  • Ni fydd y dolenni Lleoli Plentyn Unigol presennol yn gweithio: Ni fydd unrhyw ddolenni rydych chi wedi'u cadw i'r ffurflen Lleoli Plentyn Unigol gyfredol bellach yn gweithio ar ôl i'r ffurflen newydd gael ei chyhoeddi. Bydd modd i chi gyrchu'r ffurflen Lleoli Plentyn Unigol newydd ar ein gwefan yma
  • Cyrchu ffurflenni: Am y tro, ni fydd yn ofynnol i chi fewngofnodi i gyrchu’r ffurflenni fel yr ydych chi nawr, ond gall hyn newid yn y dyfodol.

Sicrhewch yr wybodaeth ddiweddaraf:

Byddwn ni’n postio rhagor o fanylion am yr uwchraddio ar ein gwefan, felly cadwch lygad am ddiweddariadau.

Ein nod yw sicrhau pontio llyfn a di-dor i'n holl ddarparwyr gofal plant. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu bryderon, mae croeso i chi gysylltu â ni.


Gwybodaeth bwysig i holl Ddarparwyr Cynnig Gofal Plant Cymru

Childcare offer

GOV.UK One Login

Os ydych chi'n darparu gofal plant drwy Gynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen i chi newid y ffordd rydych chi'n mewngofnodi i'r platfform Cynnig Gofal Plant cyn bo hir. Yn hytrach na defnyddio system bresennol Porth y Llywodraeth, bydd angen i chi newid i ddefnyddio GOV.UK One Login.

Bydd Llywodraeth Cymru yn anfon gwybodaeth atoch chi am hyn drwy e-bost dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Felly, mae'n hanfodol bod cyfeiriad e-bost eich lleoliad sydd o dan 'Eich Proffil' yn y platfform Cynnig Gofal Plant yn gywir. Os na, byddwch chi’n colli'r wybodaeth bwysig a gallai eich cyllid fod mewn perygl - mewngofnodwch i wirio nawr!

🔗

Neu ffoniwch ein llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628📞


Cytundebau Cynnig Gofal Plant dros Wyliau Banc y Pasg

Childcare

Mae gwyliau'r Pasg ar y gweill. Gwnewch yn siŵr bod y Cytundebau sydd gennych chi gyda rhieni yn cynnwys oriau gwyliau os ydyn nhw’n defnyddio'r Cynnig yn ystod y gwyliau.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: 👉 Darparwyr yn rheoli cytundebau Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

ac yma: 👉 Darparwyr yn hawlio taliadau o Gynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

Cofiwch! Mae angen i leoliadau sy'n darparu gofal plant drwy'r Cynnig Gofal Plant gadarnhau Cytundebau Rhieni newydd ddydd Iau wythnos gyntaf y tymor.

🔗 Mewngofnodi i gyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU

I gael cymorth a chyngor, cysylltwch â’n llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628📞


Cynorthwyo Lleisiau Bach: Sut mae hyfforddiant HANEN yn gwneud gwahaniaeth yn Busy Feet

Busy feet

Yn ddiweddar, aethon ni i ymweld â Busy Feet yn Gilfach, a rhannodd Cath, Sarah a Claire eu profiadau gyda'r rhaglenni hyfforddi HANEN Learning Language and Loving It a HANEN Teacher Talk. Mae Busy Feet yn enghraifft wych o sut mae'r mentrau hyn yn gwella sgiliau iaith a chymdeithasol plant trwy weithgareddau bob dydd.

Clywch yn uniongyrchol sut mae'r rhaglenni hyn wedi gwneud gwahaniaeth yn eu lleoliad.

"Mae'r cyrsiau hyn wedi bod yn anhygoel o fuddiol i ni a'r plant. Rydyn ni wedi dysgu pwysigrwydd aros cyn ymyrryd – caniatáu i blant fynegi eu hunain a datrys eu heriau eu hunain. Mae dull OWL y Ganolfan Hanen, sy'n pwysleisio Arsylwi, Aros a Gwrando, wedi bod yn amhrisiadwy wrth gynorthwyo cyfathrebu a datblygiad iaith. Rydyn ni hefyd wedi magu dealltwriaeth ddyfnach o wahanol nodweddion personoliaeth a sut i ddarparu ar eu cyfer yn effeithiol. Mae'r daith hon wedi bod yn agoriad llygad, ac rydyn ni’n argymell y cyrsiau hyn yn fawr i bob lleoliad!"

Ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rydyn ni wedi ymrwymo i feithrin gweithlu medrus i gynorthwyo datblygiad pob plentyn. Ein nod yw gwneud Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu yn fusnes i bawb, gyda theuluoedd, lleoliadau gofal plant a chymunedau yn chwarae rôl allweddol.

Dewch i gael rhagor o wybodaeth am Lwybr Hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu y Blynyddoedd Cynnar, a chadw eich lle ar y cwrs HANEN nesaf sydd ar gael. Cliciwch yma i weld yr amserlen hyfforddi. 


Dechrau'n Deg – Cyfnod ymgeisio gorau newydd 28/04

Flying Start

Sylwch y bydd ceisiadau am ofal plant Dechrau'n Deg i blant cymwys sydd â dyddiad geni rhwng 01/04/2023 a 31/08/2023 yn agor ar 28 Ebrill 2025.

Y cyfnod gorau i wneud cais yw 28 Ebrill i 12 Mai ond mae modd gwneud ceisiadau ar ôl y cyfnod hwn.

Anogwch unrhyw rieni cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.

Gofal plant Dechrau'n Deg – Blynyddoedd Cynnar Caerffili


Mae Chwarae yn y Parc yn ôl!

Play in the park

Ymunwch â ni am hwyl am ddim i'r teulu 14-16 Ebrill, 11am-2pm!

📍 14.04.25 – Parc Bargod, Moorland Road, Bargod 📍 15.04.25 – Parc Senghenydd 📍 16.04.25 – Parc Waunfawr, Crosskeys

Mwynhewch gelf a chrefft, chwarae anniben, gemau awyr agored a lle diogel i blant – i gyd wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol i bawb!

Rhagor o wybodaeth am barciau a chyfleusterau: greenspacescaerphilly.co.uk/cy

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm y Blynyddoedd Cynnar:  01443 863232 neu BlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk


Nodyn atgoffa – E-byst Penderfyniadau Dosbarthiadau Derbyn ac Ysgolion Iau

Admissions

Nodyn atgoffa cyflym i roi gwybod i rieni y bydd e-byst penderfyniadau Dosbarthiadau Derbyn ac Ysgolion Iau ar gyfer lleoedd mis Medi 2025 yn cael eu hanfon ar 16 Ebrill.

Byddwn ni’n cyhoeddi hyn yn gyhoeddus ar 17 Ebrill i roi amser i’r tîm Derbyn i ysgolion reoli unrhyw ymholiadau.

Atgoffwch rieni i wirio eu mewnflychau – a chofiwch sôn am wirio ffolderi sbam neu sothach rhag ofn!

Diolch am eich cymorth i'n helpu ni i ledaenu'r gair.


Dan sylw: Banc Babanod The Parish Trust

Parish Trust

Mae Banc Babanod The Parish Trust yn adnodd hanfodol sy'n gwasanaethu ardal gyfan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a thu hwnt. Mae'r gwasanaeth hanfodol hwn ar gael trwy atgyfeiriadau proffesiynol yn unig, gan sicrhau bod teuluoedd sydd wir mewn angen yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Mae'r Banc Babanod yn cynnig amrywiaeth eang o eitemau, o hanfodion i famau sy'n paratoi ar gyfer aros yn yr ysbyty i gymorth i deuluoedd â phlant hyd at bum mlwydd oed. Maen nhw hefyd yn darparu eitemau trydanol, fel sterilyddion a phympiau bronnau, pob un ohonyn nhw wedi cael Prawf Dyfeisiau Cludadwy er diogelwch.

Yn gyffredinol, mae disgwyl i’r rhai wedi’u hatgyfeirio gasglu'r eitemau, ond mewn achosion lle mae gan deulu fabi mewn gofal newyddenedigol, bydd y Banc Babanod yn gwneud pob ymdrech i ddosbarthu bwndel yn uniongyrchol iddyn nhw. Yn ogystal, maen nhw’n ymdrechu i ddarparu eitemau fel cotiau pan fo'n bosibl, er nad ydyn nhw byth yn dosbarthu hen fatresi. Os yw rhoddion yn caniatáu, mae matresi newydd ar gael i deuluoedd mewn angen.

Mae Banc Babanod The Parish Trust hefyd yn cynnal Amazon WishList, sy'n caniatáu i'r gymuned gyfrannu drwy roi eitemau mawr eu hangen.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'r wefan: Banc Babanod | The Parish Trust


Aelodaeth PACEY yng Nghymru

Pacey

Mae PACEY Cymru yn falch o gyhoeddi, trwy rodd hael gan The Moondance Foundation a chyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ein bod yn gallu darparu gostyngiad ar aelodaeth a ariennir ar gyfer aelodau cymwys yng Nghymru rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026.
Yn ogystal, bydd aelodau cymwys* sy’n adnewyddu neu’n ymuno â PACEY o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026 yn gallu gwneud cais am grant bach i gefnogi gweithgareddau i blant.
Dechrau o Ansawdd
Yn ogystal â'r uchod, gallwn gadarnhau gostyngiad o £65 ar gyfer PACEY Quality Start o 1 Ebrill 2025 - 31 Mawrth 2026. (bydd y wefan yn cael ei diweddaru o 1.4.25) Ar gyfer unigolion sy'n prynu bydd yn £144.99 gan gynnwys. TAW (209.99 gan gynnwys TAW gyda gostyngiad o £65 o gyllid) Sylwch mai dim ond y pecyn cymorth sydd wedi ychwanegu TAW.


Bydd unrhyw warchodwyr plant sy'n ymuno â PACEY gyda Quality Start hefyd yn gymwys i wneud cais am y grant bach.


Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY): Arolwg Rhieni a Gofalwyr

Survey

Gwerthuso'r system ADY: Rhieni/gofalwyr, dewch i ddweud eich dweud a rhannu eich barn a'ch profiadau o'r system anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. I gymryd rhan yn yr arolwg, ewch i’r ddolen isod: https://www.smartsurvey.co.uk/s/aln-parents-carers/


Cais am adborth gan Arolygiaeth Gofal Cymru

CIW

Mae gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ddiddordeb mewn clywed gan y rhai sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar wasanaethau gofal cymdeithasol, gofal plant a chwarae yng Nghymru, yn ogystal â'u perthnasau, ymwelwyr, staff, gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, neu ffrindiau. Mae eich adborth yn bwysig ac yn helpu llywio prosesau arolygu a gorfodi AGC. Os ydych chi'n gallu darparu adborth, byddai hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Rhannwch y ddolen https://careinspectorate.wales/feedback-surveys gyda'ch staff a'ch defnyddwyr gwasanaeth fel y gallan nhw rannu eu profiadau unrhyw bryd, nid yn ystod arolygiadau yn unig. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch ag AGC ar 0300 790 0126.


Cyflwyniad i'r rhaglen gofal plant – Allwch chi helpu?

Introduction

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn chwilio am leoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant i gynnig lleoliadau profiad gwaith i’r rhai sy’n cymryd rhan yn eu rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant. Mae'r treial gwaith hwn yn darparu profiad uniongyrchol amhrisiadwy mewn amgylchedd gofal plant.

Wedi'i anelu at y rhai sy'n newydd i'r sector, mae'r rhaglen yn cyflwyno meysydd allweddol y blynyddoedd cynnar a gofal plant, gan gwmpasu rhannau o fframwaith sefydlu Cymru Gyfan. Er nad yw wedi’i achredu, mae'n cynnig cam cyntaf hanfodol tuag at ennill gwybodaeth a phrofiad yn y sector.

Mae'r cynllun treial gwaith yn cynnig cyfle i unigolion sydd wedi cwblhau'r rhaglen Cyflwyniad i Ofal Plant ennill profiad gwerthfawr, gyda'r posibilrwydd o gael cyfweliad neu leoliad yn y sector.

Os gallwch chi gefnogi'r fenter hon drwy gynnig lleoliad, cofrestrwch


Neges y mis Siarad Gyda Fi – Her Ymwybyddiaeth ffonolegol!

Talk with me

Ymwybyddiaeth Ffonolegol yw ymwybyddiaeth o 'strwythur sain' geiriau. Ffordd wych o ymarfer hyn yw trwy glapio sillafau a chwarae gemau sain. Eich her yw chwarae'r 3 gêm hyn bob dydd gyda'ch plant:

  1. Cyfrif sillafau – Darllenwch lyfr. Dewiswch dudalen a chlapio sillafau pob gair.
  2. Dw i’n gweld gyda fy llygaid bach i – Ewch am dro neu edrych allan o'r ffenestr. Chwaraewch ‘dw i’n gweld gyda fy llygaid bach i’ a rhoi gwybod i'r plentyn pa sain sydd ar ddechrau’r gair. Rhowch gliwiau iddo os oes angen mwy o help arno. Cofiwch bwysleisio sut mae’r llythyren yn swnio.
  3. Hwiangerddi – Mae hwiangerddi yn gwella ymwybyddiaeth ffonolegol plant Canwch yr hwiangerddi yn araf ac ar lefel y plentyn, fel y gall glywed yr holl eiriau a synau rydych chi'n eu gwneud.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Neges Gymraeg y Mis – Rhowch hwb i'ch sgiliau Cymraeg gyda chyrsiau Camau am ddim!

Muriad

Ydych chi'n gweithio mewn Cylch Meithrin, meithrinfa ddydd, neu fel Gwarchodwr plant? Mae Cyrsiau Camau yn cynnig rhaglen Cymraeg Gwaith hyblyg, hunanastudio am ddim wedi’i gynllunio ar gyfer sector y blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Gyda chyrsiau ar lefel Mynediad, Sylfaen a Chanolradd, byddwch chi’n dysgu Cymraeg ymarferol i'w defnyddio gyda phlant – o liwiau a rhifau, i orchmynion a chwestiynau – mewn dim ond 30 awr fesul lefel. Mae cymorth ar gael gan Rhian Thomas, Swyddog Arweiniol Camau, i'ch tywys chi drwyddo.

Ydych chi eisiau dechrau neu angen help i ddewis lefel? Cysylltwch â camau@meithrin.cymru neu gofrestru nawr: Camau | Dysgu Cymraeg


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr