Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mawrth 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mawrth 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Diweddariadau pwysig ar gostau gofal plant ac ehangu Dechrau'n Deg

Budget

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o newidiadau allweddol o ran cyfraddau gofal plant a darparu rhagor o leoedd Gofal Plant Dechrau'n Deg wedi'u hariannu.

Bydd cynnydd yng nghyfraddau ariannu gofal plant o 7 Ebrill 2025 fel a ganlyn:

  • Cyfradd Lleoliad Dechrau'n Deg: £17 y sesiwn (Yr Awdurdod Lleol sy'n pennu hyn)
  • Cyfradd darpariaeth uwch: Cynnydd i dalu costau staff o fis Ebrill 2025 ymlaen
  • Cynnig Gofal Plant Cymru: £6.40 yr awr (Llywodraeth Cymru sy'n pennu hyn)

Ewch i dudalen Lleoliadau Gofal Plant a thaliadau ein gwefan i weld dadansoddiad o gyfraddau sesiynau, darpariaeth wedi’i chyfoethogi ac amserlen dalu wedi'i diweddaru.

Byddwn ni’n cynnal Gweithdy Gofal Plant Dechrau'n Deg ym mis Mai/Mehefin (dyddiad i’w gadarnhau) i drafod y canlynol:

  • Disgwyliadau o ran darparu Gofal Plant Dechrau'n Deg
  • Cynlluniau ar gyfer ehangu i ardaloedd Dechrau'n Deg eraill*
  • Cydweithio â'r sector i ddarparu rhagor o leoedd
  • Cyfathrebu â theuluoedd yn effeithiol

*Oherwydd yr amser sydd ei angen ar gyfer cynllunio a datblygu darpariaeth, nid ydyn ni’n disgwyl ehangu'r ardaloedd Dechrau'n Deg cyn mis Medi 2025.

Yn dilyn y newidiadau ariannu hyn a'r cyhoeddiad am ehangu gofal plant wedi’i ariannu gan Dechrau'n Deg, bydd y Cynllun Lleoedd â Chymorth yn dod i ben ym mis Ebrill 2025. Yn lle hynny, bydd plant a oedd yn gymwys i gael Lleoedd â Chymorth yn y gorffennol yn cael eu hariannu drwy Allgymorth Dechrau'n Deg. Os oes gennych chi blant yn eich lleoliad sy'n cael eu hariannu gan Leoedd â Chymorth, byddwn ni’n cysylltu â chi cyn bo hir.  Bydd hyn hefyd yn cael sylw yn y gweithdy.


Cwblhewch eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn 14 Mawrth 2025 - mae angen i chi weithredu

Reminder

Mae'n bryd i chi gyflwyno eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth drwy AGC Ar-lein.

Pam mae hyn yn bwysig

Mae cwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ofyniad cyfreithiol. Gallai methu â'i gyflwyno erbyn y dyddiad cau effeithio ar eich gradd arweinyddiaeth a'ch cofnod arolygu.

Tri cham syml - gweithredwch nawr

  1. Mewngofnodwch i AGC Ar-lein
  2. Cwblhewch eich ffurflen Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
  3. Cyflwynwch erbyn 14 Mawrth 2025

Oes angen cyfrif AGC Ar-lein arnoch?

Cofrestrwch nawr yn AGC Ar-lein

Os byddwch yn cael problemau wrth agor cyfrif, ffoniwch 0300 7900 126 (opsiwn 4)

Adnoddau sydd ar gael

Peidiwch â chymryd risg a methu'r dyddiad cau. Dechreuwch arni heddiw er mwyn sicrhau bod eich gwasanaeth yn parhau i gydymffurfio.


Newidiadau i CThEM sydd ar y gweill: Canllawiau hanfodol ar gyfer Lleoliadau Gofal Plant

Community
Info

 

Bydd y flwyddyn ariannol newydd yn dod â newidiadau sylweddol i'r Lwfans Cyflogaeth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan gyflogwyr a goblygiadau ar gyfer Cymorth Gwladwriaethol.

Mae'n hanfodol i leoliadau gofal plant ddeall y newidiadau hyn a reolir gan CThEM, ac addasu iddyn nhw.

I gynorthwyo gyda'r cyfnod pontio hwn, mae CThEM wedi cyhoeddi canllawiau ar-lein cynhwysfawr. Mae'n hanfodol bod lleoliadau'n cyfeirio at y canllawiau swyddogol er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cael yr wybodaeth gywir a mwyaf diweddar.

Canllawiau CThEM

https://www.gov.uk/government/publications/cwg2-further-guide-to-paye-and-national-insurance-contributions/2025-to-2026-employer-further-guide-to-paye-and-national-insurance-contributions

Gwybodaeth “Cysylltu â ni” CThEM

https://www.gov.uk/government/organisations/hm-revenue-customs/contact/employer-enquiries


Dechrau'n Deg: E-byst penderfynu wedi'u hanfon

Flying Start

Bydd e-byst penderfyniad Dechrau'n Deg yn cael eu hanfon ar Dydd Llun, 10fed o Fawrth. Mae'r e-byst hyn yn amlinellu'r camau nesaf i rieni, felly gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n ymwybodol a'u hatgoffa nhw i wirio eu ffolderi sbam rhag ofn.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863262.


Dyddiadau Tymor Gweithredol Lleoliadau sydd dan Gontract Dechrau’n Deg: Ionawr 2025 – Pasg 2025

calendar

Ar gyfer Lleoliadau sydd dan gontract Dechrau’n Deg, mae dyddiadau’r tymhorau ar gyfer Ionawr 2025 hyd at Pasg 2025 fel a ganlyn:

  • Tymor yn dechrau ddydd Llun 6 Ionawr 2025
  • Hanner tymor yn dechrau ddydd Llun 24 Chwefror 2025
  • Hanner tymor yn gorffen ddydd Gwener 28 Chwefror 2025
  • Tymor yn gorffen ddydd Gwener 11 Ebrill 2025

Os oes gennych chi unrhyw ddiwrnodau cau wedi'u cynllunio lle nad ydych chi'n weithredol (mae hyn yn cynnwys diwrnodau HMS ysgolion os ydych chi'n lleoliad sydd wedi'i leoli ar safle ysgol) neu os na allwch chi gynnig eu hawl Dechrau'n Deg llawn i blant ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y tymor, mae'n hanfodol eich bod chi'n trafod y dyddiadau cau gyda'ch Swyddog Gofal Plant ac yn rhoi gwybod i dîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu e-bostio hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk


Dan sylw: Cymorth i deuluoedd â phlant â chyflyrau ar yr ymennydd

Childcare

Rydyn ni’n annog pob aelod o staff i sicrhau bod teuluoedd y maen nhw’n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o'r adnoddau gwerthfawr sydd ar gael gan Cerebra, elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i helpu plant â chyflyrau ar yr ymennydd a'u teuluoedd. Trwy wrando ar anghenion y teuluoedd hyn, mae Cerebra yn ysbrydoli'r ymchwil ac arloesi mwyaf defnyddiol.

Mae Cerebra yn cynnig cyngor a chymorth i blant a'u teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd i helpu teuluoedd i oresgyn heriau a darganfod bywyd gwell gyda'u plentyn. Mae hyn yn cynnwys:

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cerebra wedi helpu un fam yn yr erthygl hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â'r adnoddau sydd ar gael ar eu gwefan i sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o'r adnoddau a'r systemau cymorth anhygoel hyn sydd ar gael iddyn nhw.


Neges y mis Siarad gyda fi – Awgrymiadau i Adeiladu Geirfa

Flying Start

Bydd teuluoedd a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 7 Chwefror yn cael e-bost gyda phenderfyniad erbyn 5pm ar 10 Mawrth. Bydd yr e-bost gyda phenderfyniad yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a gafodd ei ddarparu yn y cais. 

Os oes unrhyw un o'r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw wedi gwneud cais, cofiwch eu hatgoffa nhw i edrych drwy eu negeseuon e-bost gan gynnwys eu ffolderi sbam ac e-byst sothach. 


Toybox

Cynnig Gofal Plant Cymru – Y broses gwneud cais ar agor

Mae safle y gwarchodwr plant, Donna Jones, o Goed Duon bellach yn fan gollwng ar gyfer Prosiect ToyBox ym Medwas.

Mae gan Donna uned wrth ochr ei thŷ lle gall aelodau o'r cyhoedd ollwng unrhyw deganau, gemau, llyfrau, gwisg ffansi, cyfarpar awyr agored bach ac ati nad ydyn nhw bellach yn eu defnyddio (ail law neu newydd) ac sy’n gweithio’n dda i’w rhoi i'r prosiect.

Mae Donna, gyda chymorth ei phlant clwb ar ôl ysgol, yn profi'r teganau a'r cyfarpar i sicrhau eu bod nhw’n ddiogel i'w trosglwyddo ac yna mae Donna yn eu dosbarthu nhw i'r uned ym Medwas.

Mae Donna yn chwarae rhan fawr yn y prosiect a hoffai hi annog pobl i ailgylchu ac ailddefnyddio. Am ragor o wybodaeth, mae'r holl fanylion ar gael yma: Gwefan Prosiect Toy Box o dan man gollwng Coed Duon.


Ceisiadau am le mewn Ysgol Feithrin

Nursery

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth Meithrin ym mis Medi yn prysur agosáu ar 21 Chwefror 2025.

Helpwch atgoffa teuluoedd â phlant a fydd yn 3 oed cyn 31 Awst 2025 i wneud cais cyn y dyddiad cau. Dydyn ni ddim am i unrhyw blentyn golli allan!

Mae'r manylion ar gyfer gwneud cais yn Am gymorth i wneud cais, gall rhieni ffonio'r Tîm Derbyniadau Ysgol ar 01443 864870.


Learning Language and Loving It – Dyddiadau newydd

Oherwydd y galw isel, mae'r cwrs ‘Learning Language and Loving It’ sydd i fod i ddechrau’n gynnar ym mis Mawrth bellach wedi'i symud i ddiwedd mis Mawrth. 

Mae’r rhaglen hon yn cynnwys 12 o sesiynau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, dan arweiniad therapyddion Iaith a Lleferydd Hanen ardystiedig o dîm Blynyddoedd Cynnar Caerffili. Mae’n darparu strategaethau ymarferol i gynorthwyo iaith a datblygiad cymdeithasol plant trwy weithgareddau pob dydd.

I gadw lle ar yr hyfforddiant, ewch i'n tudalen hyfforddiant.

Calendar


Newid pwysig i lwyfan digidol Cynnig Gofal Plant Cymru

Paratoi ar gyfer Dydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror a Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth!

Childcare Offer

O 4 Mawrth 2025, bydd taflenni amser heb eu cyflwyno’n cael eu dileu am byth 365 diwrnod ar ôl eu cynhyrchu, i gydymffurfio â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol. Rydyn ni’n annog darparwyr i gyflwyno taflenni amser yn rheolaidd (yn wythnosol neu'n fisol). Gwiriwch a chyflwyno unrhyw daflenni amser "wedi dechrau" neu "heb ddechrau," yn enwedig y rhai sydd bron yn 365 diwrnod oed, gan y byddan nhw’n cael eu dileu, ac ni fydd modd eu hadennill nhw ar ôl y cyfnod hwn.

Sicrhewch bod taflenni amser ond yn cael eu cyflwyno ar gyfer oriau’r Cynnig Gofal Plant wedi’u cytuno a’u trefnu er mwyn osgoi hawlio arian yn anghywir. Bydd y tîm yn adennill arian am unrhyw oriau wedi’u hawlio’n anghywir.


easter 2

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Gyda'r Pasg ar y gorwel, dyma rai dolenni a allai fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio gweithgareddau yn eich lleoliad:

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr