Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Chwefror 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis chwefror, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Nodiadau atgoffa pwysig i’ch dyddiadur!

Training

Cyrsiau hyfforddi newydd ar gael!

Mae'n bleser gennym ni gyhoeddi ychwanegu dau gwrs newydd at ein hamserlen hyfforddi ni:

Hanen Learning Language and Loving It – Mae hyn yn dechrau ddiwedd mis Mawrth ac yn cynnwys 12 sesiwn

Calendar

Newidiadau i enwau cyrsiau diogelu

Community

Wrth gadw lle ar gyrsiau diogelu, edrychwch ar yr wybodaeth ganlynol i sicrhau eich bod chi’n mynychu'r hyfforddiant cywir:

  • Grŵp B – Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer cynorthwywyr, myfyrwyr, prentisiaid ac unrhyw staff NAD YDYN NHW’N cyflawni rôl Arweinydd Diogelu Dynodedig. Mae’r cwrs hwn yn 6 awr o hyd.
  • Grŵp C – Mae'r hyfforddiant hwn ar gyfer arweinwyr, dirprwyon, rheolwyr, unigolion cyfrifol ac unrhyw aelod o staff SY’N cyflawni rôl Arweinydd Diogelu Dynodedig, megis llenwi ffurflenni Dyletswydd i Roi Gwybod a mynychu cyfarfodydd Amddiffyn Plant. Mae’r cwrs hwn yn 2 ddiwrnod o hyd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru ar gyfer y cwrs priodol yn seiliedig ar eich rôl. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Laura Cook, Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu'r Blynyddoedd Cynnar.


Tudalen newydd ar Instagram: Cadwch mewn cysylltiad!

Instagram

🎉 Cadwch mewn cysylltiad â Blynyddoedd Cynnar Caerffili! 🌈

Rydyn ni'n falch o gyhoeddi lansio ein tudalen Instagram newydd sbon: @CaerphillyEarlyYears! Dyma'r lle i fynd ar gyfer:

Diweddariadau pwysig: Byddwch y cyntaf i wybod am gyhoeddiadau allweddol. Newyddion cyffrous: Mynnwch wybod am ddigwyddiadau a mentrau arbennig sydd i ddod. Cynnwys newydd: Darganfyddwch weithgareddau, awgrymiadau ac adnoddau llawn hwyl i'ch helpu chi yn eich rôl a datblygiad cynnar  eich plentyn.


Dyddiadau Tymor Gweithredol Lleoliadau sydd dan Gontract Dechrau’n Deg: Ionawr 2025 – Pasg 2025

calendar

Ar gyfer Lleoliadau sydd dan gontract Dechrau’n Deg, mae dyddiadau’r tymhorau ar gyfer Ionawr 2025 hyd at Pasg 2025 fel a ganlyn:

  • Tymor yn dechrau ddydd Llun 6 Ionawr 2025
  • Hanner tymor yn dechrau ddydd Llun 24 Chwefror 2025
  • Hanner tymor yn gorffen ddydd Gwener 28 Chwefror 2025
  • Tymor yn gorffen ddydd Gwener 11 Ebrill 2025

Os oes gennych chi unrhyw ddiwrnodau cau wedi'u cynllunio lle nad ydych chi'n weithredol (mae hyn yn cynnwys diwrnodau HMS ysgolion os ydych chi'n lleoliad sydd wedi'i leoli ar safle ysgol) neu os na allwch chi gynnig eu hawl Dechrau'n Deg llawn i blant ar unrhyw ddiwrnod yn ystod y tymor, mae'n hanfodol eich bod chi'n trafod y dyddiadau cau gyda'ch Swyddog Gofal Plant ac yn rhoi gwybod i dîm Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232 neu e-bostio hwbyblynyddoeddcynnar@caerffili.gov.uk


Dan sylw: Cymorth i deuluoedd â phlant â chyflyrau ar yr ymennydd

Childcare

Rydyn ni’n annog pob aelod o staff i sicrhau bod teuluoedd y maen nhw’n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o'r adnoddau gwerthfawr sydd ar gael gan Cerebra, elusen genedlaethol sy'n ymroddedig i helpu plant â chyflyrau ar yr ymennydd a'u teuluoedd. Trwy wrando ar anghenion y teuluoedd hyn, mae Cerebra yn ysbrydoli'r ymchwil ac arloesi mwyaf defnyddiol.

Mae Cerebra yn cynnig cyngor a chymorth i blant a'u teuluoedd mewn gwahanol ffyrdd i helpu teuluoedd i oresgyn heriau a darganfod bywyd gwell gyda'u plentyn. Mae hyn yn cynnwys:

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cerebra wedi helpu un fam yn yr erthygl hon.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gyfarwydd â'r adnoddau sydd ar gael ar eu gwefan i sicrhau bod teuluoedd yn ymwybodol o'r adnoddau a'r systemau cymorth anhygoel hyn sydd ar gael iddyn nhw.


Diweddariad pwysig ynghylch Dechrau'n Deg!

Flying Start

Bydd teuluoedd a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 7 Chwefror yn cael e-bost gyda phenderfyniad erbyn 5pm ar 10 Mawrth. Bydd yr e-bost gyda phenderfyniad yn cael ei anfon i'r cyfeiriad e-bost a gafodd ei ddarparu yn y cais. 

Os oes unrhyw un o'r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw wedi gwneud cais, cofiwch eu hatgoffa nhw i edrych drwy eu negeseuon e-bost gan gynnwys eu ffolderi sbam ac e-byst sothach. 


Cynnig Gofal Plant Cymru – Y broses gwneud cais ar agor

Bydd y broses gwneud cais yn agor ar 12 Chwefror ar gyfer plant sydd â dyddiad geni rhwng 1 Ionawr 2022 a 31 Mawrth 2022. Maen nhw’n gymwys o 28 Ebrill 2025 hyd at 31 Awst 2026. Am fanylion, cliciwch yma

Anogwch bob teulu cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais, a manteisio ar y cyfleoedd ariannu hyn. 

Childcare Offer

Ceisiadau am le mewn Ysgol Feithrin

Nursery

Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am le mewn dosbarth Meithrin ym mis Medi yn prysur agosáu ar 21 Chwefror 2025.

Helpwch atgoffa teuluoedd â phlant a fydd yn 3 oed cyn 31 Awst 2025 i wneud cais cyn y dyddiad cau. Dydyn ni ddim am i unrhyw blentyn golli allan!

Mae'r manylion ar gyfer gwneud cais yn Am gymorth i wneud cais, gall rhieni ffonio'r Tîm Derbyniadau Ysgol ar 01443 864870.


Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu – Mae’n fusnes i bawb!

Childcare

Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn sgiliau pwysig i blant eu datblygu. Mae gan wefan Siarad Gyda Fi Llywodraeth Cymru adnoddau defnyddiol ar gael i rieni/gofalwyr ac ymarferwyr. Ni fydd pawb yn gwybod am y wefan hon na'r adnoddau defnyddiol, a gallwn ni helpu  lledaenu'r gair trwy rannu'r posteri Siarad Gyda Fi. Gallwch chi eu dosbarthu nhw i rieni/gofalwyr neu eu harddangos nhw mewn ardaloedd lle byddan nhw’n cael eu gweld yn aml, fel yr ystafell staff neu wrth y drws lle mae'r plant yn cael eu casglu.

Mae gan y posteri i gyd frandio Siarad Gyda Fi ac mae hyn yn golygu eich bod chi’n gwybod y gallwch chi ymddiried y bydd y cyngor yn ddefnyddiol, yn gyfredol a gallwch chi ei rannu bobman.

Dyma’r posteri: Siarad gyda fi: pecyn adnoddau | LLYW.CYMRU

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://www.llyw.cymru/siarad-gyda-fi

Mae gennym ni hefyd adran ar ein gwefan sy'n ymroddedig i Leferydd, Iaith a Chyfathrebu: Cymorth i blant i ddysgu sut i siarad a chyfathrebu - Blynyddoedd Cynnar Caerffili 


Paratoi ar gyfer Dydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror a Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth!

Welsh language music day

Beth am chwarae ychydig o gerddoriaeth Gymraeg yn eich lleoliad i bawb ei mwynhau?

https://cyw.cymru/caru-canu/

Beth am drafod y wisg draddodiadol Gymreig a'i chymharu â'r hyn sy'n cael ei wisgo gan blant heddiw?

Rhowch gynnig ar wneud cawl traddodiadol gyda'r plant yn defnyddio llysiau.

Hefyd, gallech chi ddarllen ‘Y Feipen Enfawr’ gan Kaytie Daynes: https://www.youtube.com/watch?v=YQJ35L5_XmA

Cofiwch y pice ar y maen: os yw'n haws, gallech chi wneud rhai gan ddefnyddio toes chwarae!


Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Instagram

Instagram

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr