Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2025

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Ionawr 2025

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Ionawr, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Croeso'n ôl a blwyddyn newydd dda!

HNY

Blwyddyn newydd dda i'n holl ddarparwyr gofal plant anhygoel! Mae Tîm Gwasanaeth Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar yn llawn cyffro i’ch cynorthwyo chi yn y flwyddyn i ddod gyda newyddion, diweddariadau a hyfforddiant i’ch helpu chi i barhau i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant. Rydyn ni’n edrych ymlaen at 2025 arbennig!


Ceisiadau Gofal Plant Dechrau'n Deg

Sylwch ein bod ni wedi agor y broses gwneud cais am ofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant cymwys gyda dyddiad geni rhwng 01/01/2023 a 31/03/2023.

Y cyfnod gorau i wneud cais yw rhwng 20/01/2025 a 07/02/2025, ond mae modd gwneud cais ar ôl y cyfnod hwn.

Anogwch unrhyw deuluoedd cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais.

Flying Start

Cyfradd y Cynnig Gofal Plant yn cynyddu

childcare offer

Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cael datganiad ysgrifenedig i gyhoeddi newidiadau i gyfradd fesul awr y Cynnig Gofal Plant Cymru sy’n dod i rym o 7 Ebrill 2025.

I grynhoi:

  • Mae’r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol wedi cyhoeddi cynnydd yn y gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant sy’n darparu Cynnig Gofal Plant Cymru o £5.00 yr awr i £6.00 yr awr. Bydd y gyfradd ddiwygiedig yn dod i rym ar 7 Ebrill 2025, sef dydd Llun cyntaf y flwyddyn ariannol newydd.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol fel rhan o’r adolygiad i gynyddu arian elfen addysg feithrin y Cynnig ac i gynyddu arian elfen gofal plant Dechrau’n Deg.
  • Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi cynnydd o 20% yn y tâl y gall darparwyr gofal plant ei godi am fwyd gan rieni sy’n defnyddio’r Cynnig yn eu lleoliad.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i aelodau CWLWM roi eglurder ar ganllawiau polisi ynghylch codi tâl. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym ar yr un pryd â’r gyfradd ddiwygiedig.
  • Mae’r datblygiadau hyn yn adeiladu ar y rhyddhad ardrethi busnes o 100% a gyhoeddwyd eisoes ar gyfer darparwyr gofal plant cofrestredig, a’r penderfyniad i adolygu’r gyfradd sy’n daladwy ar gyfer y Cynnig Gofal Plant a gofal plant Dechrau’n Deg yn flynyddol.

Gallwch chi ddarllen datganiad ysgrifenedig y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol yma.


Amserlen hyfforddiant y gwanwyn

calendar

Mae amserlen hyfforddiant y gwanwyn Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili bellach ar gael ar ein gwefan.

Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch yma.

Sylwch: Mae dau ddyddiad ychwanegol bellach wedi’u hychwanegu ar gyfer yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf Pediatrig ar 1 Chwefror a 29 Mawrth.


Neges Lleferydd ac Iaith y mis – Dewch i siarad a chwarae bob dydd.

talk with me

Oeddech chi'n gwybod, os yw plentyn yn dewis y gweithgaredd, mae'n debygol o aros yn hirach. Does dim rhaid i chwarae gynnwys teganau. Mae unrhyw beth y mae eich plentyn chi yn ei fwynhau yn cyfrif fel chwarae – hyd yn oed os yw’n arferion dyddiol, helpu gyda swydd neu amser bath.

Er mwyn siarad a chwarae bob dydd, beth am wneud y canlynol?

  • Gadael i’ch plentyn ddewis beth i’w wneud gyda’ch gilydd
  • Dweud y gair am yr hyn y gall eich plentyn ei weld neu wneud
  • Copio beth mae’n ei wneud gyda theganau er mwyn cael ei sylw

Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y llyfryn 10 tip i fy helpu i ddysgu siarad.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Paratowch ar gyfer Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2025!

sass

 

Cadwch y Dyddiad! Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn agor ar 31 Ionawr

Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2025 yn agor ar 31 Ionawr, a dyma’ch cyfle chi i arddangos y gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud wrth gyflawni eich gofyniad cyfreithiol fel darparwr gofal plant neu chwarae cofrestredig.

I baratoi, mewngofnodwch i'ch cyfrif AGC ar-lein nawr i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol, gosod nodyn atgoffa ar gyfer 31 Ionawr ac archwilo sut mae eich cyfraniadau yn llywio gwasanaethau gofal plant trwy adolygu data Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2024.

Bydd cyfarwyddiadau llawn yn y flwyddyn newydd, felly cadwch lygad ar eich mewnflwch i wneud eich cyflwyniad yn hawdd ac yn ddi-straen!


Elusen Sparkle dan sylw: Cynorthwyo Teuluoedd, Newid Bywydau

sparkle

Sparkle yw partner elusennol Canolfan Plant Caerffili ynghyd â Serennu a Chanolfan i Blant Nevill Hall. Mae Sparkle yn cynorthwyo plant a phobl ifanc yng Ngwent ag anableddau a/neu anawsterau datblygiadol, ynghyd â'u teuluoedd. Eu nod yw sicrhau bod y plant hyn yn cael cymorth cyflawn ac yn gallu cymryd rhan mewn profiadau plentyndod gwerthfawr, gan fanteisio ar yr un amrywiaeth o gyfleoedd, profiadau bywyd, gweithgareddau a gwasanaethau cymunedol ag unrhyw blentyn arall.

Mae Sparkle yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth, gan gynnwys digwyddiadau chwarae i'r teulu a chlybiau chwarae yn ystod gwyliau'r ysgol i blant ag anghenion ychwanegol, wedi’u hariannu gan Blynyddoedd Cynnar Caerffili. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu hysbysebu yn eu cylchlythyr chwarterol, y gall staff a rhieni yn ardal Caerffili gofrestru ar eu cyfer trwy e-bostio abb.familyliaisonwest@wales.nhs.uk.

Swyddogion Cyswllt Teulu yw’r pwynt cyswllt cyntaf i bob teulu, gan gynnig arweiniad, cymorth ac adnoddau. Gallan nhw hefyd gynorthwyo gyda llenwi ffurflenni, megis Lwfans Byw i'r Anabl a grantiau. Os oes gennych chi blentyn neu berson ifanc sydd wedi cael diagnosis o anabledd neu anhawster datblygiadol neu sy'n cael asesiad ar gyfer anabledd neu anhawster datblygiadol, ac rydych chi’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Cyswllt Teulu, Lisa, dros y ffôn ar 02920 867447 neu drwy e-bost yn abb.familyliaisonwest@wales.nhs.uk.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'w gwefan: Caerffili | Sparkle, helpu plant i ddisgleirio


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Follow us on FB

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr