Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Rhagfyr 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Rhagfyr 2024 🎄

Thank you

🎄Diolch a Nadolig Llawen!🎄

Oddi wrth bob un ohonom ni yn Nhîm y Blynyddoedd Cynnar, rydyn ni am ddweud diolch! Mae eich cyfraniadau wedi bod yn hanfodol i gynorthwyo’r gwaith da rydyn ni’n ei wneud ac mae’n cael effaith wirioneddol yn y gymuned.

"Mae eleni wedi bod yn llawn uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.  Cawsom ni adborth rhagorol yn ein harolygiad gan Estyn, a oedd yn cydnabod ymroddiad a gwaith caled ein holl dimau ar draws y Blynyddoedd Cynnar.  Hefyd, roedd rhaid i ni ffarwelio â rhai cydweithwyr hoffus.

Diolch i bawb am fod yn rhan o’n taith ac am gynorthwyo ein teuluoedd.  Cymerwch amser i fwynhau gwyliau'r Nadolig gyda'ch anwyliaid a manteisio ar unrhyw egwyl y gallwch chi ei gymryd. Welwn ni chi yn 2025.”

 

Sarah Mutch

Rheolwr y Blynyddoedd Cynnar a Phartneriaethau


Cau dros y Nadolig – Cau Hybiau

Christmas Closures

Rydyn ni’n ymddiheuro, ond byddwn ni ar gau dros y Nadolig

Sylwer y bydd yr Hwb ym Mharc y Felin ar gau o hanner dydd ar 24 Rhagfyr 2024, ac yn ailagor ar 2 Ionawr 2025.  Rydyn ni’n gofyn yn garedig i chi gynllunio yn unol â hynny yn ystod cyfnod y Nadolig a chysylltu â ni ymlaen llaw os oes angen cymorth arnoch chi cyn iddo gau. 


Llywodraeth Cymru yn Cyhoeddi Rhyddhad Ardrethi Busnes Parhaol i Ddarparwyr Gofal Plant yng Nghymru!

Schools

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhyddhad ardrethi annomestig parhaol ar gyfer safleoedd gofal plant yng Nghymru, a fydd yn arbed £3.4 miliwn i’r sector bob blwyddyn.  Ers 2019, mae darparwyr gofal plant, fel meithrinfeydd dydd, wedi elwa ar y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, sydd wedi eu helpu nhw i reoli costau cynyddol.  Mae’r cymorth parhaus hwn yn galluogi darparwyr i fuddsoddi mewn staff, creu swyddi newydd a lleihau’r cynnydd mewn ffioedd i rieni, gan sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau gofal plant.


Deall y Cwricwlwm ar gyfer Addysg Feithrin: Canllaw i Rieni a Gofalwyr

Education Wales

Mae’r Cwricwlwm i Gymru wedi rhyddhau canllaw defnyddiol i helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y cwricwlwm addysg feithrin ar gyfer plant 3 a 4 oed.  Mae’r canllaw hwn yn adnodd gwerthfawr i rieni a darparwyr y blynyddoedd cynnar, gan gynnig mewnwelediad clir i brofiadau dysgu a disgwyliadau ar gyfer plant ifanc.  Rydyn ni’n annog pawb i fwrw golwg drosto i ddeall y cwricwlwm yn well a sut mae’n cynorthwyo datblygiad plant.

Dyma'r ddolen: Addysg feithrin i blant 3 a 4 oed: Canllaw i rieni a gofalwyr


Diweddariad ar Gynnig Gofal Plant Cymru – Adolygiad o Ardrethi

Childcare Offer
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i symud i adolygiadau blynyddol o’r gyfradd fesul awr sy’n cael ei thalu i ddarparwyr gofal plant yng Nghymru, gan ymateb i geisiadau gan ddarparwyr, cyrff cynrychioliadol, a Phwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd.  Bydd y newid hwn yn dilyn cwblhau'r adolygiad tair blynedd presennol, a'i nod yw cynorthwyo twf y sector, gwella cynaliadwyedd, a helpu darparwyr gyda chynllunio hirdymor.

Datganiad o Ddiddordeb Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn - Wedi'i ymestyn i Ionawr 2025. Cyfle newydd!

EOI

Mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb ar gyfer y ddarpariaeth gofal plant yn Ysgol Gynradd y Rhosyn Gwyn wedi’i ymestyn i 13 Ionawr 2025. 

Dylai Datganiadau o Ddiddordeb gael eu hanfon at y Pennaeth, Kathryn Thompson, drwy e-bost at WhiteRosePrimary@sch.caerphilly.gov.uk erbyn 3pm ddydd Llun 13 Ionawr 2025.


Nodyn Atgoffa Cwrtais: Cyflwyno Cofrestr Presenoldeb

Flying Start

Os ydych chi'n darparu gofal Dechrau'n Deg, Lleoedd a Gynorthwyir, neu Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cofiwch lenwi eich cofrestrau presenoldeb erbyn dydd Gwener bob wythnos.

Mae monitro presenoldeb mewn lleoliadau gofal plant yn bwysig, a phan fydd plentyn yn absennol neu pan na fydd wedi cyrraedd, dylai hyn gael ei gofnodi'n gywir a dylai unrhyw bryderon gael eu codi yn unol â'r Polisi Derbyn, Presenoldeb a Phontio.  Yn unol â thelerau ac amodau'r cyllid, mae rhaid i ni ddarparu ffigyrau presenoldeb i Lywodraeth Cymru.

Mae Staff y Blynyddoedd Cynnar yn aml yn adolygu data presenoldeb lleoliadau gofal plant ar gyfer y teuluoedd y maen nhw’n eu cynorthwyo, ac mae'n hanfodol bod yr wybodaeth hon yn gyfredol er mwyn nodi unrhyw bryderon cyn gynted â phosibl a mynd i'r afael â nhw.  Mae methu â chyflwyno'ch cofrestrau yn gwneud y broses hon yn anodd iawn.  Cliciwch yma am y canllawiau ynghylch cofrestrau lleoliadau wedi’u hariannu 


Neges y Mis Therapi Lleferydd ac Iaith - Canwch rigwm i fi unrhyw bryd!

Talk with me

Gall caneuon a rhigymau helpu rhai bach i ddysgu darllen yn y dyfodol.  Weithiau mae gan blant hoff rigwm ac maen nhw eisiau i chi ei ganu drosodd a throsodd; mae hynny'n iawn!  Beth am ei wneud yn fwy o hwyl trwy wneud y canlynol:

  • Ychwanegu gweithredoedd fel y gallan nhw ymuno
  • Oedi yn y rhan gyffrous i weld a ydyn nhw’n cyffroi, er enghraifft, “dŵr yn yr afon a'r cerrig yn slic… cwympo ni'n dau, wel dyna i chi dric!”
  • Eistedd yn wynebu'ch gilydd pan fyddwch chi'n canu fel y gallwch chi weld wynebau eich gilydd a dangos y geiriau a'r gweithredoedd yn glir i'ch plentyn bach.
  • Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y llyfryn  10 tip i fy helpu i ddysgu siarad

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i Siarad gyda fi | LLYW.CYMRU


Arolwg Bwyd a Maeth ar gyfer Blynyddoedd Cynnar

Healthy Eating

Yng Ngwent, mae sefydliadau wedi bod yn cwrdd i rannu syniadau am sut i wella mynediad at fwyd iach ar gyfer ein plant ieuengaf. Fel rhan o hyn, rydym yn cynnal yr arolwg hwn gyda gweithwyr a rheolwyr gofal plant i ennyn gwell dealltwriaeth o’r heriau, yr anghenion cymorth a’r lefel o wybodaeth a sgiliau ynghylch bwyd a maeth o fewn y sector.  
Byddem yn hynod ddiolchgar pe gallech dreulio ychydig o funudau yn ymateb i’r arolwg byr hwn. Diolch yn fawr am eich amser. Cliciwch Yma


Newidiadau i'n Ffurflenni Ar-lein

Roedden ni am roi gwybod i chi y bydd y Cyngor yn diweddaru ei system ffurflenni ar-lein gan ddechrau ar 21 Ionawr. Bydd y diweddariad hwn yn effeithio ar y ffurflenni canlynol:

  • Ffurflen gais Gofal Plant Dechrau'n Deg
  • Ffurflen Lleoli Plentyn Unigol
  • Ffurflen Gofyn am Gymorth
  • Ffurflen Cais am Hyfforddiant
  • Ffurflen Talu am Hyfforddiant
  • Ffurflen Gofrestru Cynenedigol a’r Blynyddoedd Cynnar
  • Cwrs Elkan: Dewch i siarad â’ch babi

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Er bydd y ffurflenni’n edrych yn wahanol, bydd y cynnwys yn aros yr un fath. Rydyn ni’n rhagweld y bydd ein prosesau hefyd yn aros yr un fath. Os bydd unrhyw newidiadau, byddwn ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi yn y flwyddyn newydd.


Dilynwch ni ar Facebook

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, dilynwch ni ar Facebook.

Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr