Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Tachwedd 2024

Wythnos Genedlaethol Diogelu yng Nghymru

Safeguarding

Bydd Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024 yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd, gyda ffocws ar ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a dull perthynol o ddiogelu. Mae Bwrdd Diogelu Gwent yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer Ymarferwyr y Rhwydwaith Diogelu Lleol gyda’r nod o wella arferion diogelu trwy ddysgu a chydweithio.

Mae’r digwyddiadau hyn yn rhoi cyfle i ymarferwyr gofal cymdeithasol a gwirfoddolwyr yng Ngwent gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai ar bynciau diogelu allweddol.

  • Digwyddiad ar-lein: ddydd Llun, 11 Tachwedd 2024, 1pm-4pm (Microsoft Teams) Cyflwyniadau am ymarfer sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau gan Rhoda Emlyn Jones OBE, a chwilfrydedd proffesiynol gan Barbara Firth. Cofrestrwch yma 
  • Digwyddiad wyneb yn wyneb: ddydd Mawrth, 12 Tachwedd 2024, 9.30am-12.30pm (Gwesty Parkway, Cwmbrân) Gweithdai ar ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau, cyfathrebu cydweithredol, a gweithio gyda risg. Cofrestrwch yma 

Amser Rhigwm Mawr Cymru, Nwyddau am Ddim!

Big Welsh Rhyme Time

Mae BookTrust Cymru yn falch iawn o roi gwybod i chi fod Amser Rhigwm Mawr Cymru yn ôl rhwng 10 a 14 Chwefror 2025 a bydden nhw wrth eu bodd petaech chi’n ymuno â’r holl hwyl.

Thema Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025 fydd Bwrlwm y Rhigwm i Bawb ac maen nhw eisiau sicrhau mai hwn fydd y digwyddiad Amser Rhigwm Mawr Cymru mwyaf cyffrous a chynhwysol eto.

Mae modd hawlio tystysgrifau a sticeri AM DDIM wrth gofrestru, gydag opsiwn i gael tystysgrif ddigidol os byddai'n well gan leoliadau beidio â chael eitemau yn y post

Peidiwch â cholli cyfle! I gofrestru ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru 2025, ewch i: https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/bigwelshrhymetime


Adnodd Pwysig i Ymddiriedolwyr

Trustees

Ydych chi'n rhan o Sefydliad Corfforedig Elusennol?

Os felly, mae gennym ni newyddion gwych! Mae'r llywodraeth yn darparu cyfoeth o wybodaeth werthfawr ar eu gwefan yn benodol ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau.

Mae’r adnodd hwn yn ymdrin â phynciau hanfodol fel rolau, dyletswyddau, a phwerau o ran gwneud penderfyniadau, gan ei wneud yn berffaith ar gyfer ymddiriedolwyr presennol a’r rhai sy’n ystyried ymuno â Sefydliad Corfforedig Elusennol.

I archwilio’r mewnwelediadau pwysig hyn, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Ymddiriedolwr elusen: beth mae'n ei olygu (CC3a) - GOV.UK.


Cau Dechrau'n Deg Nant-y-Parc

Nant Y Parc

Yn ystod hanner tymor mis Hydref, yn anffodus, fe gaeodd ein lleoliad gofal plant Nant-y-Parc oherwydd prinder staff. Diolch byth, mae Clwb y Ddraig, sydd eisoes ar y safle, wedi camu i’r adwy i ddarparu cymorth. Mae teuluoedd yn Senghenydd wedi cael cymorth gan Blynyddoedd Cynnar Caerffili a Chlwb y Ddraig i sicrhau pontio didrafferth.

Bydd ein staff Dechrau'n Deg yn parhau â'u gwaith gwerthfawr mewn lleoliadau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol. Diolch i dîm Nant-y-Parc am eu hymroddiad a dymunwn yn dda iddyn nhw yn eu rolau newydd, a gobeithio y bydd Clwb y Ddraig yn parhau i ffynnu.


Digwyddiad Cist neu Geiniog!

Mae Cist neu Geiniog yn ddigwyddiad Calan Gaeaf rhad ac am ddim i deuluoedd, sy'n cynnwys cistiau wedi'u haddurno'n greadigol sy'n arddangos aelodau'r gymuned leol. Mae modd i fynychwyr fwynhau gweithgareddau llawn hwyl i blant ac oedolion, gan ei wneud yn ddathliad cofiadwy o ysbryd cymunedol a chreadigrwydd difyr!

Truck or Treat

Cafodd Tîm y Blynyddoedd Cynnar amser gwych yn y digwyddiad Cist neu Geiniog blynyddol a gafodd ei gynnal gan y rhwydwaith rhieni, gyda dros 500 o blant a llawer o bartneriaid yn bresennol! 🎃🕷️ Mae’n saff dweud bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol! O greu pryfed cop i liwio llusernau a gwneud balŵns anifeiliaid, roedden ni wrth ein bodd yn gweld y creadigrwydd yn disgleirio wrth i bawb ymroi i'r ysbryd arswydus! 👻✨

Da iawn i bawb a gymerodd ran – fe wnaeth eich brwdfrydedd a’ch gwaith caled y digwyddiad hwn yn un cofiadwy i’r gymuned gyfan. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gymryd rhan eto y flwyddyn nesaf! 🌟


Neges Lleferydd ac Iaith y mis: Ydych chi'n adnabod plentyn sydd â chwlwm tafod?

general

Mae cwlwm tafod yn gyflwr cyffredin sy'n bresennol o adeg geni. Cwlwm tafod yw lle mae'r croen sy'n cysylltu'r tafod â llawr y geg yn dynn, yn fyr neu'n drwchus. Os yw'n fyr neu'n dynn iawn, gall hynny ei gwneud hi'n anoddach symud y tafod.

Mae’n debyg ei fod yn effeithio ar 2% i 10% o blant ac mae mwy o'r plant sydd wedi’u heffeithio yn fechgyn.

Nid yw cwlwm tafod yn cael unrhyw effaith ar leferydd nac iaith y rhan fwyaf o blant. Ni fydd yn atal eich plentyn rhag dysgu a dweud geiriau, ac mae'n annhebygol y bydd yn effeithio ar eich plentyn yn dweud seiniau mewn geiriau yn gywir. Peidiwch â phoeni os nad yw eich plentyn yn gallu dweud pob sain yn gywir. Mae llawer o blant yn gwneud camgymeriadau wrth iddyn nhw ddatblygu eu lleferydd.

I gael rhagor o wybodaeth am gwlwm tafod, beth allwch chi ei wneud i gynorthwyo siarad plant a ble i fynd os ydych chi'n poeni, ewch i: Taflen Cwlwm Tafod - Cymraeg (llyw.cymru)

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Diweddariad pwysig o ran Dechrau'n Deg: E-byst derbyn

Flying Start

Bydd rhieni a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 11 Hydref yn cael e-bost gyda phenderfyniad erbyn 5pm ar 11 Tachwedd. Byddan nhw'n cysylltu â chi i drefnu eu lleoliadau. Manteisiwch ar y cyfle hwn i sicrhau bod eich adnodd ar Dewis yn gyfredol: Darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg (Dewis)


Diweddariad pwysig i rieni: Canlyniadau Lleoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar

Recruitment

Dyma nodyn cyflym i’ch atgoffa chi y bydd rhieni a wnaeth gais am Leoliadau Addysg y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer mis Ionawr neu fis Ebrill 2025 yn cael eu llythyrau canlyniad gan y Tîm Derbyniadau Ysgolion ddiwedd mis Tachwedd. Cofiwch atgoffa'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw i gadw llygad am yr wybodaeth bwysig hon, gan y bydd yn eu helpu nhw i baratoi ar gyfer y flwyddyn ysgol sydd i ddod. Os oes gan rieni unrhyw gwestiynau, gallan nhw ffonio Hwb y Blynyddoedd Cynnar ar 01443 863232.


Rhybudd diogelwch cynnyrch: Gleiniau dŵr

Waterbeads

⚠️Oeddech chi’n gwybod?⚠️Gall gleiniau dŵr, sy’n aml yn cael eu marchnata fel teganau neu ddeunyddiau synhwyraidd, achosi risgiau difrifol i blant ifanc. Mae'r Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch wedi cyhoeddi rhybudd sy'n pwysleisio y gall y gleiniau bach, lliwgar hyn ehangu i dros 400 gwaith eu maint pan fyddan nhw’n dod i gysylltiad â hylif, gan arwain at rwystrau gastroberfeddol neu beryglon tagu.

Yn druenus, mae marwolaethau wedi bod ymhlith plant sy’n gysylltiedig â gleiniau dŵr. Er mwyn sicrhau diogelwch y plant yn eich gofal, mae'n hanfodol cadw gleiniau dŵr oddi wrth blant dan bump oed a goruchwylio plant hŷn yn ofalus os ydyn nhw’n cael caniatâd i’w defnyddio nhw. Cadwch nhw allan o olwg a chyrraedd bob amser, a bod yn wyliadwrus am unrhyw arwyddion o’u llyncu neu dagu. Gall eich ymwybyddiaeth wneud gwahaniaeth wrth atal damweiniau. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma. 


Danteithion Iach i’r Nadolig

Christmas treats

🎄Wrth i’r Nadolig agosáu, rydyn ni’n llawn cyffro i rannu ychydig o ysbrydoliaeth o ran byrbrydau iach i gadw ysbryd yr ŵyl yn fyw! Dyma ychydig o ryseitiau maethlon a llawn hwyl ar gyfer y rhai bach:

  • 🎅Cebabs banana Siôn Corn: Casglwch fananas, mefus a malws melys at ei gilydd i gael danteithion hyfryd.
  • 🦌Ceirw seleri: Llenwch ffyn seleri gyda menyn pysgnau ac ychwanegu cyrn pretzel i gael ychydig o amrywiaeth a sbort.
  • 🎄Coed Nadolig melon dŵr: Torrwch felon dŵr yn siapiau coed a'u haddurno gydag iogwrt neu siocled gwyn i gael ychydig o naws Nadoligaidd a blas.

Mae yna lawer o ffyrdd creadigol o ddathlu'r tymor hwn gydag opsiynau iach! Am ragor o syniadau, edrychwch ar dudalen Healthy Little Foodies. Mwynhewch y bwyd! 


Dilynwch ni ar Facebook

I gael yr wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, ewch ar Facebook a dilyn Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Caerffili.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr