Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Hydref 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Hydref 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Hydref, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Diwrnodau Tîm

Team Day

Roedd mis Medi yn fis prysur yn llawn digwyddiadau tîm cyffrous.

Yn gyntaf, dychwelodd ein timau Gofal Plant i'r gwaith ar ôl gwyliau'r haf a chychwyn y tymor trwy fynychu hyfforddiant Meddwl trwy Systemau Vanguard yn Nhŷ Penallta. Roedd yn ddiwrnod hynod lwyddiannus ac yn gyfle gwych i bawb ddod at ei gilydd. Diolch enfawr i’r tîm am eu brwdfrydedd a’u hymgysylltiad. Cadwch olwg am y rownd nesaf o ddyddiadau, a fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Nesaf, cynhaliodd Tîm Blynyddoedd Cynnar Cyngor Caerffili ein diwrnod tîm yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon. Roedd y diwrnod yn canolbwyntio ar Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, gyda diweddariadau ar arolwg y Rhaglen Trawsnewid ac Integreiddio Blynyddoedd Cynnar a Mwstro Tîm Caerffili. Er ei fod bron yn orlawn, braf oedd cael y tîm cyfan mewn un lle i rannu diweddariadau a syniadau. Diolch yn fawr iawn i bawb am gymryd rhan yn y gweithgareddau adeiladu tîm - pwy fyddai wedi meddwl bod cymaint o bobl gystadleuol yn y Blynyddoedd Cynnar! Mae paratoadau ar gyfer cwis ‘mwy heriol’ y flwyddyn nesaf eisoes ar y gweill.

Yn olaf, ond yn sicr nid yn lleiaf, cafodd ein cyfarfodydd tri pharth eu cynnal. Daeth niferoedd da i bob un, ac roedd ein gweithgaredd cymdeithasu yn gyfle gwych i bawb rwydweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid yn eu Parth. Roedd y diwrnod yn canolbwyntio ar y newidiadau yn y broses o gael mynediad at leoliadau Allgymorth Dechrau’n Deg, a chytunodd pawb ei fod yn gam cadarnhaol ymlaen i’n teuluoedd mwyaf agored i niwed. Mae dyddiadau’r cyfarfodydd nesaf eisoes wedi’u rhannu. Os nad ydych chi wedi eu cael, cysylltwch â Stacy Price.


Gweithgareddau hanner tymor

Kite

Wrth i’r gwyliau hanner tymor agosáu, gall rhieni, gofalwyr a phlant edrych ymlaen at gyfres o ddigwyddiadau llawn hwyl ledled y Fwrdeistref Sirol sydd wedi’u cynllunio i ddiddanu ac ennyn diddordeb plant o bob oed.

Am ragor o fanylion, ewch i'n tudalen we Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.


Syniadau iach ar gyfer Calan Gaeaf

Halloween

Does dim rhaid i fwyd parti fod yn gacen, siocled, melysion, creision a bisgedi. Gall fod yn hwyl, yn flasus o hyd a gall gyfrif tuag at 5 y dydd a gweithgaredd corfforol eich plant.

  • Caws a chracyrs - Defnyddiwch dorrwr siâp i wneud gwahanol siapiau/cymeriadau
  • Defnyddiwch ffrwythau a llysiau i wneud cymeriadau - cofiwch osgoi defnyddio siocled a defnyddio ffon fara ar gyfer ysgubau efallai. Mae modd defnyddio caws ar gyfer dannedd.
  • Gadewch i'r plant wneud dewisiadau o ran torwyr siâp. Bydd plant yn fwy tebygol o fwyta eu bwyd os ydyn nhw wedi helpu i'w baratoi.
  • Mae popcorn plaen yn ddewis amgen i greision.

Gall creu arddangosfeydd bwyd lliwgar annog plant i roi cynnig ar fwyd newydd!

Hefyd, beth am rai syniadau Calan Gaeaf gwych nad ydyn nhw’n frawychus ar gyfer y synhwyrau. Mae gweithgareddau Calan Gaeaf ar gyfer y synhwyrau yn cynnwys biniau synhwyraidd, sleim, chwarae anniben, jariau llonyddu, toes chwarae, a mwy. Rhagor o wybodaeth yma


Childcare Offer: Do you have Holiday Agreements with Parents?

Childcare Offer

Mae’r gwyliau’r Hydref yn agosáu. Gwnewch yn siŵr bod eich Cytundebau gyda rhieni yn cynnwys oriau gwyliau os am ddefnyddio'r Cynnig yn y gwyliau.

Rhagor o wybodaeth yma:

👉 https://www.llyw.cymru/darparwyr-yn-rheoli-cytundebau-cynnig-gofal-plant-cymru

👉 https://www.llyw.cymru/darparwyr-yn-hawlio-taliadau-o-gynnig-gofal-plant-cymru

Am help a chyngor ffoniwch ein llinell gymorth genedlaethol ar 03000 628 628📞


Nodyn i'ch atgoffa o ddyddiadau allweddol ar gyfer ceisiadau am ofal plant ac addysg gynnar

Childcare

Nodyn i'ch atgoffa o ddyddiadau allweddol ar gyfer ceisiadau am ofal plant ac addysg gynnar:


Hyrwyddwch Wythnos Ailgylchu yn eich lleoliad gofal plant: Ymgyrch ‘Achubwch Fi’

Recycling

Thema Wythnos Ailgylchu eleni yw ‘Achubwch Fi’! Yn rhedeg o 14-20 Hydref 2024, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar achub eitemau ailgylchadwy rhag mynd i'r bin sbwriel.

Fel darparwyr gofal plant, rydych chi'n chwarae rhan hanfodol wrth ffurfio arferion y genhedlaeth nesaf. Dyma rai ffyrdd deniadol a llawn hwyl o hybu ailgylchu yn ystod yr Wythnos Ailgylchu:

  1. Crefftau ailgylchu: Trefnwch sesiynau crefft lle gall plant greu celf o ddeunyddiau ailgylchadwy. Mae hyn nid yn unig yn tanio creadigrwydd ond hefyd yn eu dysgu am bwysigrwydd ailddefnyddio eitemau.
  2. Amser stori: Darllenwch lyfrau am ailgylchu a'r amgylchedd. Gall straeon fod yn arf pwerus i gyfleu neges cynaliadwyedd i feddyliau ifanc.
  3. Gemau ailgylchu: Trefnwch gemau sy'n cynnwys didoli eitemau yn y biniau ailgylchu cywir. Mae'r gweithgaredd ymarferol hwn yn helpu plant i ddysgu beth ydych chi’n gallu a beth nad ydych chi’n gallu ei ailgylchu.

Trwy ymgorffori o leiaf un eitem ychwanegol rydych chi’n gallu ei hailgylchu yn eich trefn ddyddiol, gallwch chi gael effaith sylweddol a helpu i ddysgu plant am werth ailgylchu a diogelu ein planed. Mae pob gweithred fach yn cyfrif!

Wythnos Ailgylchu Hapus! 🌍♻️


Wythnos Magu Plant 21 Hydref 2024: Munud Arbennig!

Parenting week

Bydd Wythnos Magu Plant 2024, ar y thema ‘Munud Arbennig’, yn cael ei dathlu o ddydd Llun 21 Hydref i ddydd Gwener 25 Hydref. Fel rhan o’r dathliadau, mae Cyswllt Rhieni Cymru yn cynnal gweminar o’r enw “Llais Rhieni ar draws y Bedair Cenedl” ddydd Mercher 23 Hydref am 10.00am.

Bydd y gweminar hwn yn cynnwys siaradwyr allweddol o bob rhan o’r DU, gan ddarparu mewnwelediadau a thrafodaethau gwerthfawr ynghylch magu plant. Mae’n gyfle gwych i gysylltu â rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill, rhannu profiadau, a dysgu gan arbenigwyr.

Am ragor o fanylion ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, gallwch chi ymweld â’r dudalen Eventbrite.

Gweminar Cyswllt Rhieni Cymru: Tocynnau Llais Rhieni ar draws y Bedair Cenedl, Dydd Mercher, Hydref 23, 2024 am 10.00am | Eventbrite


Gwybodaeth wedi’i diweddaru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

PHW

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru'r wybodaeth gyhoeddedig ynghylch Diogelu Iechyd mewn Lleoliadau Plant a Phobl Ifanc (gan gynnwys Addysg) a cyfnodau eithrio ar gyfer heintiau cyffredin.

Gellir dod o hyd i'r dogfennau yma (Cyngor ac arweiniad ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn ysgol ac addysgol - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)


Neges Lleferydd ac Iaith y mis: Gallwch chi ddysgu ein hiaith a'n diwylliant i mi!

Lets Talk Language and Culture

Nid yw byth yn rhy gynnar i ddefnyddio mwy nag un iaith gyda’ch plentyn. O’u genedigaeth, gall plant ddysgu mwy nag un iaith. Y pethau pwysicaf yw:

  • Defnyddiwch yr iaith rydych chi'n fwyaf cyfforddus â hi
  • Defnyddiwch ieithoedd mewn ffordd sy'n teimlo'n naturiol i chi
  • Rhowch lawer o gyfleoedd i glywed y ddwy iaith
  • Dylech chi gael hwyl yn dysgu gyda'ch gilydd

Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y llyfryn ‘10 tip i fy helpu i ddysgu siarad’.

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Lledaenwch y neges ynglŷn â brechiadau rhag y ffliw

Flu

Mae pob plentyn 2 a 3 oed (oedran ar 31 Awst 2024) yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw am ddim ar ffurf chwistrell trwyn brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV). Fodd bynnag, nid yw pob rhiant yn ymwybodol o hyn neu’n manteisio ar y cynnig.

Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i blant.  Helpwch i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd brechu rhag y ffliw drwy siarad â'r rhieni rydych chi'n gweithio gyda nhw. Gall rhieni siarad â'u hymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis i gael rhagor o wybodaeth.

Gallwch chi argraffu ein poster i'w arddangos yn eich lleoliad neu ei roi i rieni.

Rhagor o wybodaeth: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlynffliw/


Neges Cymraeg y mis

Pumpkin

Peidiwch ag anghofio dathlu Diwrnod Shwmae Sumae 15fed o Hydref a Chalan Gaeaf 31ain o Hydref!

Defnyddiwch eich pwmpenni mewn ryseitiau amrywiol er mwyn i'r plant eu blasu. Am ysbrydoliaeth, ewch i:

Rysáit cawl pwmpen | Rysáit Cawl Pwmpen - YouTube

Beth am ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg gyda ‘shwmae’ neu ‘sumae’ a defnyddio rhai ymadroddion a chyfarchion Cymraeg trwy gydol y dydd?

Bore da - Bore da

Prynhawn da - Prynhawn da

Hwyl fawr - Hwyl fawr

Diolch - Diolch

Sut wyt ti? - Sut wyt ti?

Croeso - Croeso


Arolwg ar gyfer rhieni neu ofalwyr, ac ymarferwyr i archwilio’r anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu (SLCN)

Billingual

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg i ddeall anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant rhwng 5 i 8 oed ac mewn addysg amser llawn.

Mae pandemig Covid-19 wedi effeithio ar y ffordd y mae pob un ohonom yn byw, yn dysgu ac yn gweithio. Mae’n bosibl y bydd effeithiau’r cyfyngiadau cymdeithasol a orfodwyd, y ffyrdd newydd o ddysgu a gyflwynwyd, a’r newidiadau mewn asesiadau i gyd yn para am amser hir, a dim ond dechrau dod i’r amlwg y mae llawer ohonynt.

Mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor a Phrifysgol De Cymru, bellach yn cynnal arolwg o'r rhai sy'n gofalu am blant cyfnod y pandemig sydd bellach yn 5 i 8 oed ac mewn addysg llawn amser.

Mae'r arolwg ar gyfer ymarferwyr ar gael ar 'Jisc Online Surveys'

Y dyddiad cau ar gyfer ei ddychwelyd yw 21 Hydref 2024.


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr