Croeso nôl, bawb! Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau'r haf, er gwaethaf y tywydd a gadwodd ein cefn gwlad mor wyrdd. Fel rydych chi'n gwybod, rydyn ni’n wynebu rhai heriau gwirioneddol yn ystod y flwyddyn i ddod, yn enwedig gyda chyllidebau tyn gartref ac yn y gwaith. Mae'n hanfodol ein bod ni’n clywed lleisiau ein cymunedau drwy'r nifer o ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd.
Er gwaethaf yr heriau hyn, rydw i’n hyderus y gallwn ni, gyda'n gilydd, wneud gwahaniaeth i'n teuluoedd. Diolch am eich ymrwymiad parhaus a'ch gwaith caled.
Cyfarfod rhwydwaith ar gyfer arweinwyr lleoliadau a gynhelir
-
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Hydref
-
Amser: 3.30pm-5pm
-
Lleoliad: Tŷ Penallta
Cyfarfod arweinwyr cynhwysiant
-
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Tachwedd
-
Amser: 3:30pm-4.30pm
-
Lleoliad: Microsoft Teams
Cyfarfod rhwydwaith parth ar gyfer pob arweinydd lleoliad
-
Dyddiad: Dydd Llun, 25 Tachwedd
-
Amser: 3:30pm-4.30pm
-
Lleoliad: I'w gadarnhau
|
Mae amserlen hyfforddiant ddiweddaraf Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, Caerffili, bellach ar gael ar ein gwefan. Am fanylion ac i gael mynediad at y ffurflen cais am hyfforddiant, cliciwch ar y ddolen isod.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gweithio i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob babi a phlentyn ledled Gwent. Fel rhan o'r gwaith hwn, maen nhw eisiau clywed gan bobl sy'n ystyried cael plant, rhieni beichiog, a rhieni/gofalwyr ledled Gwent.
Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i'w tudalen we a chwblhau arolwg byr.
Arolwg Ymgysylltu Dechrau Gorau mewn Bywyd
Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi bod ein sesiynau Chwarae yn y Parc drwy gydol mis Awst wedi bod yn llwyddiant ysgubol! Er gwaethaf tywydd anrhagweladwy yr haf ym Mhrydain, mynychodd dros fil o blant y sesiynau Chwarae yn y Parc gyda phob un yn cael pecyn bwyd iach am ddim.
Mae'r adborth gan deuluoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac roedd yn wych gweld cymaint ohonoch chi yno'n cymryd rhan. Diolch am eich cefnogaeth.
Rhwng 23 Medi a 11 Hydref, byddwn ni'n gwahodd rhieni sydd â phlant sy’n byw mewn cod post Dechrau’n Deg a chafodd eu geni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Rhagfyr 2022 i wneud cais am eu lle gofal plant Dechrau’n Deg.
Rhowch gymorth i’r teuluoedd sy’n gymwys rydych chi’n gweithio gyda nhw i wneud cais yn y cyfnod ymgeisio dewisol hwn i sicrhau nad ydyn nhw’n colli allan ar eu lle.
Bydd ymgeiswyr yn cael eu e-bost cymeradwyo yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 6 Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddefnyddio'r gwiriwr cod post, ewch i'n gwefan: https://www.blynyddoeddcynnarcaerffili.co.uk/gofal-plant/gofal-plant-dechraun-deg-2/
|
Mae'r broses ymgeisio ar agor i rieni wneud cais am le Codi'n Dair ar gyfer eu plant am dymhorau'r gwanwyn a'r haf 2025.
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 25 Hydref 2024
-
Hysbysiad o benderfyniad: Diwedd mis Tachwedd 2024
Anogwch rieni i wneud cais am le gyda chi (neu ysgol) os dyna yw eu dewis drwy fynd i wefan y Cyngor yn www.caerffili.gov.uk/DerbyniadauYsgol.
Mae ceisiadau bellach ar agor i blant sy'n troi'n 3 oed rhwng 1 Medi 2024 a 31 Awst 2025 i wneud cais am le’r Blynyddoedd Cynnar.
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21 Chwefror 2025
-
Hysbysiad o benderfyniad: Diwedd mis Mai 2025
Trafodwch hyn gyda theuluoedd sy’n gymwys rydych chi’n gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n gwneud cais. Hefyd, atgoffwch rieni y bydd angen iddyn nhw ailymgeisio y flwyddyn ganlynol ar gyfer dosbarth derbyn.
Gall rhieni wneud cais yma: www.caerffili.gov.uk/derbyniadauysgol
Ail-wiriadau cymhwyso 9 Medi
Bydd teuluoedd sy'n cael cyllid y Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cael e-bost gan Lywodraeth Cymru ar 9 Medi.
Bydd yr e-bost hwn yn gofyn iddyn nhw gadarnhau a fu unrhyw newidiadau i'w hamgylchiadau.
Rhaid i deuluoedd ymateb naill ai drwy gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau neu ddilyn y cyfarwyddiadau yn yr e-bost i ddiweddaru unrhyw newidiadau. Rhaid cwblhau hyn erbyn 7 Hydref 2024, neu gall eu cyllid fod mewn perygl.
Sicrhewch fod y teuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw yn ymwybodol o'r e-bost hwn ac yn gweithredu cyn y dyddiad cau.
I gael rhagor o wybodaeth am wiriadau cymhwysedd parhaus Llywodraeth Cymru, ewch i'w gwefan, trwy'r ddolen ganlynol Gwirio os ydych yn gymwys am Gynnig Gofal Plant Cymru | LLYW.CYMRU
Nodyn atgoffa i gadarnhau cytundebau rhieni newydd erbyn wythnos gyntaf y tymor
Peidiwch ag anghofio! Mae angen i leoliadau sy'n darparu gofal plant drwy'r Cynnig Gofal Plant gadarnhau Cytundebau Rhieni newydd ddydd Iau wythnos gyntaf y tymor.
🔗 Mewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru
I gael cymorth a chyngor, cysylltwch â’n llinell gymorth genedlaethol ar 0300 062 8628📞
Mae hi’r adeg honno o’r flwyddyn eto – mae Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol UK Active ar y gorwel ac yn cael ei gynnal ar 18 Medi! Mae thema eleni, sef ‘Eich iechyd am oes’, yn neges bwerus i’n hatgoffa ni nad ymdrech untro yw cadw’n actif, ond ymrwymiad gydol oes.
Fel darparwyr gofal plant, rydych chi’n chwarae rhan hanfodol wrth feithrin arferion iach mewn plant. Un ffordd hwyliog a hawdd o gael plant i symud yw cymryd rhan yn ‘10 am 10’: 10 munud o redeg, neidio, dawnsio neu unrhyw ymarfer y maen nhw’n ei fwynhau am 10am.
Byddem ni wrth ein bodd yn clywed sut gwnaethoch chi gymryd rhan. Dewch i symud a gwneud y Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol hwn yn un cofiadwy i’r plant!
Cymryd rhan
Gallwch chi helpu eich plantos i ddechrau ymddiddori mewn llyfrau unrhyw bryd, hyd yn oed os nad ydyn nhw'n barod i ddarllen neu edrych ar stori gyfan eto. Yn hytrach na darllen y geiriau, beth am roi cynnig ar y canlynol:
- Edrych am lyfr am rywbeth mae eisoes yn ei hoffi. Er enghraifft, rhowch lyfr am drafnidiaeth ger ei geir tegan rhag ofn y gallai fod o ddiddordeb iddo.
- Siarad am y lluniau. Beth bynnag sydd ar y dudalen, dweud wrtho beth ydyw.
- Creu eich llyfr eich hun am eich plentyn gan ddefnyddio ffotograffau neu luniau. Gallai gweld ei hun a'r bobl mae'n eu hadnabod mewn llyfr cartref ei gwneud hi'n fwy cyffrous edrych ar y stori.
- Defnyddio lleisiau doniol ar gyfer cymeriadau i'w gwneud yn hwyl ac yn gyffrous iawn.
Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn Llyfryn 10 tip i fy helpu i ddysgu siarad, Fersiwn Gymraeg (llyw.cymru)
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi
|