Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Awst 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Awst, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Animeiddiad gofal plant yn barod!

Animation

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod ein hanimeiddiad newydd, sydd wedi cael ei greu i arddangos ein gwasanaeth gofal plant eithriadol, bellach yn gyflawn ac yn barod i chi ei rannu!

Mae'r animeiddiad hwn yn ffordd hyfryd o amlygu manteision allweddol ein gwasanaeth, gan gynnwys ein hymrwymiad i gynorthwyo darparu amgylchedd diogel a meithringar i blant a sicrhau bod lleoliadau wedi'u hariannu ar gael drwy'r rhaglen Dechrau'n Deg a Chynnig Gofal Plant Cymru.

Rydyn ni'n credu y bydd yr animeiddiad hwn yn ffordd amhrisiadwy o ddangos y gwasanaeth o ansawdd uchel rydyn ni'n ei ddarparu i ddarparwyr gofal plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Byddwch cystal â'i rannu â'ch rhwydweithiau i helpu rhieni i ddeall y cymorth rhagorol rydyn ni'n ei ddarparu.

Diolch yn fawr iawn am eich ymroddiad parhaus i gynnal y safonau uchaf o ran gofal plant, a'r effaith gadarnhaol y mae hyn yn ei chael ar fywydau plant a'u teuluoedd.

Mae modd gwylio'r animeiddiad yma:

https://vimeo.com/treetopfilms/review/989484382/3e410e07e6


Tîm o Amgylch y Lleoliad

TATS

O fis Medi ymlaen, bydd y tîm gofal plant yn rhoi'r dull newydd ‘Tîm o Amgylch y Lleoliad’ ar waith, i wella cymorth i bob lleoliad gofal plant dan gontract yng Nghaerffili. Er mwyn cyflwyno'r fenter hon, byddwn ni'n cynnal sesiynau briffio brynhawn Mawrth 3 Medi, 1–3pm a 5–6pm. Bydd dolenni ar gyfer ymuno â'r sesiynau hyn yn cael eu hanfon drwy e-bost.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich cyfranogiad a'ch cydweithrediad yn y fenter newydd gyffrous hon!


Cymorth o ran costau ysgol – Grant Hanfodion Ysgol

Grants

Mae'r broses gwneud cais am y Grant Hanfodion Ysgolion nawr ar agor! Anogwch unrhyw deuluoedd rydych chi'n gweithio gyda nhw i wirio eu cymhwysedd a gwneud cais.

Os yw plentyn eisoes yn cael prydau ysgol am ddim, gallai fod rhagor o gymorth ariannol ar gael drwy'r Grant Hanfodion Ysgol.

Gall y cymorth hwn helpu gyda hanfodion fel gwisg ysgol ac offer i sicrhau bod y plentyn yn barod ar gyfer y diwrnod ysgol. Gall rhieni wirio cymhwysedd eu plentyn a gwneud cais yn www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol


Meic Cymru

Meic

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc yng Nghymru hyd at 25 oed. Mae gwybodaeth o bob math ar gael, yn amrywio o fanylion am ddigwyddiadau yn yr ardal leol i gymorth i ddelio â sefyllfaoedd anodd. Bydd Meic yn gwrando hyd yn oed os na fydd neb arall. Ni fydd yn eich barnu a bydd yn eich helpu drwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a’r math o gymorth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc er mwyn newid pethau.

https://www.meiccymru.org/cym/


Cychwyn Chwarae yn y Parc

PITP

Mae'r sesiynau Chwarae yn y Parc wedi cychwyn, gyda sesiynau yn Senghenydd a Pharc Morgan Jones i ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol. Os gwnaethoch chi fethu'r rhain, peidiwch â phoeni, mae chwe sesiwn arall eto i ddod y gallwch chi gymryd rhan ynddyn nhw – mae'r un nesaf ar 9 Awst ym Mharc Bargod, ac yna ddydd Mawrth 13 Awst ym Maes Chwarae Abertridwr.

Am fanylion llawn, cliciwch yma


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr