Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Gorffennaf 2024

Bookmark and Share Having trouble viewing this email? View it as a Web page.

Childcare banner

Bwletin Darparwyr Gofal Plant - Mehefin 2024

Croeso i'n e-gylchlythyr mis Gorffennaf, wedi'i ddylunio i'ch hysbysu'n rheolaidd am y newyddion, yr wybodaeth a'r datblygiadau diweddaraf sy'n berthnasol i'r sector gofal plant.

Bydden ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac, os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro, rhowch wybod i ni drwy lenwi ein harolwg byr.

Byddem ni'n gwerthfawrogi eich adborth ar yr e-gylchlythyr ac os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ei gynnwys neu ei egluro yna rhowch wybod i ni trwy e-bostio GGiD@caerffili.gov.uk.

Melo Cymru – Hunangymorth am ddim ar gyfer eich iechyd meddwl a'ch lles

Melo

Mae Melo yn cynnwys gwybodaeth, cyngor ac adnoddau hunangymorth i'ch helpu chi i ofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles.

Mae gwybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys:

Mae'r wefan yn cynnwys llawer o gyrsiau am ddim, adran ar gyfer dod o hyd i wasanaethau lleol yn eich ardal, ac adnoddau defnyddiol eraill. Ewch i'r wefan yn www.melo.cymru


Cost of living

Mae'r graffig hwn wedi'i gynhyrchu gan drydydd parti ac nid yw ar gael yn Gymraeg


Cynnig Gofal Plant Cymru – Cymhwysedd parhaus

Childcare Offer

Fel rhan o Gynnig Gofal Plant Cymru, rhaid i rieni a gwarcheidwaid gadarnhau eu cymhwysedd bob tymor, fel sy'n ofynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae hysbysiadau'n cael eu hanfon i ddangosfwrdd y rhieni tua ail wythnos pob hanner tymor. Pan fo rhieni'n cadarnhau “dim newidiadau” yn eu cais, mae'r ceisiadau hyn yn destun hapwirio 20%.

Yn aml, mae rhieni'n datgan newidiadau, fel dod yn ddi-waith. Felly, mae'n hanfodol monitro'r adran Cytundebau ar eich Dangosfwrdd Cynnig Gofal Plant Cymru yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod cytundebau'n parhau i fod yn weithredol. Rydyn ni'n argymell gwirio hyn yn fisol.

Bydd eich taflen amser yn dangos yr holl blant sydd â chyllid ar gael. Os nad yw plentyn yn ymddangos ar y daflen amser, ni fydd cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru yn cael ei dalu, a rhaid i chi fynd i'r afael â'r mater hwn ar frys.

Fel darparwr, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw gyllid gofal plant yn cael ei sicrhau cyn i blentyn ddechrau ac yn parhau i'r tymor nesaf. Ni all Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar adennill unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru ar eich rhan os nad yw cais wedi ei gymeradwyo mwyach neu os nad oes cytundeb gweithredol ar waith. 

Mae'r wybodaeth hon hefyd wedi'i hanfon atoch chi drwy e-bost gyda sgrinluniau


Lleoliadau gofal plant wedi'u hariannu sy'n dechrau ym mis Medi 2024

Building Blocks

Mae'r broses ymgeisio ar agor ar hyn o bryd am leoliadau gofal plant wedi'u hariannu yn achos y canlynol:

  • Dechrau'n Deg: Plant sy'n byw mewn cod post Dechrau'n Deg ac a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2021 a 31 Awst 2022. Am fanylion, cliciwch yma.
  • Cynnig Gofal Plant Cymru: Teuluoedd cymwys gyda phlant a gafodd eu geni rhwng 1 Medi 2020 a 31 Awst 2021. Am fanylion, cliciwch yma.

Anogwch bob teulu cymwys rydych chi'n gweithio gyda nhw i wneud cais a manteisio ar y cyfleoedd ariannu hyn.


Chwarae yn y Parc yn dychwelyd ym mis Awst

Play in the Park

Bydd y digwyddiadau Chwarae yn y Parc yn dychwelyd drwy gydol mis Awst, ac eleni bydd 8 lleoliad i chi ymweld â nhw a'u mwynhau.

Mae'r manylion llawn ar gael ar ein gwefan, a byddwn ni'n eu rhannu nhw ar ein tudalen ni ar Facebook yn ystod yr wythnosau nesaf.

Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich gweld chi yno!


Meithrinfa Mighty Oaks, Coed Duon, yn agor ystafell ddosbarth awyr agored

Mighty Oaks

Rydyn ni wrth ein boddau o gael rhannu llwyddiant ysbrydoledig Meithrinfa Mighty Oaks, Coed Duon. O dan arweiniad Ceri Gwilt a Kelly Vokes, mae'r feithrinfa wedi lansio ‘ystafell ddosbarth awyr agored’ wych yn ddiweddar, ar ôl wythnosau o waith caled a chydweithio gyda busnesau lleol. Mae'r gofod newydd hwn, ynghyd â gasebo, cafnau blodau, blwch tywod, îsl paentio a chegin fwd, yn darparu amgylchedd hyfryd i blant gael dysgu ac archwilio yn yr awyr agored.

Rydyn ni'n llongyfarch Meithrinfa Mighty Oaks ar ei dull arloesol, gan osod esiampl wych ar gyfer arferion da. Llongyfarchiadau i Ceri, Kelly, a'r holl fusnesau lleol fu'n rhan o greu gofod mor rhyfeddol!

Darllen rhagor yma


Gweithio mewn partneriaeth â'n llyfrgelloedd i gynorthwyo teuluoedd

Libraries

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili yn cynnig ystod wych o weithgareddau i deuluoedd, pobl ifanc, plant a phlant bach ar draws 18 o lyfrgelloedd.

Sut gallwch chi helpu:

  • Lledaenu'r Gair: Dywedh wrth eich ffrindiau, eich teulu a'r teuluoedd rydych chi’n gweithio gyda nhw am y digwyddiadau cyffrous sy'n digwydd yn ein llyfrgelloedd.
  • Cyryd Rhan: Beth am ymuno yn yr hwyl eich hun? Mae yna weithgareddau i bawb!
  • Edrych er eu gwefan: Edrych ar y digwyddiadau a'r gweithgareddau diweddaraf yma.

Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn cydweithio â’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Caerffili i hyrwyddo eu digwyddiadau a’u gweithgareddau. Mae gwybodaeth am ein gwasanaethau bellach ar gael mewn llyfrgelloedd ar draws y fwrdeistref sirol.


Neges y mis Siarad gyda Fi: Clapio sillafau mewn geiriau

Clapping

Oeddech chi'n gwybod y gall clapio sillafau mewn geiriau helpu plant gyda'u siarad a'u llythrennedd?

Torrwch eiriau yn sillafau neu'n ‘guriadau’. Dechreuwch â geiriau sy'n cynnwys dau air y mae'r plentyn yn eu gwybod fel ‘pelen-eira’ a ‘brwsh-gwallt’, yna symudwch ymlaen at eiriau mwy cymhleth fel ‘te-le-ffon’ neu ‘hof-ren-ydd’. Gall hyn helpu plant i:

  • Adnabod ble mae seiniau'n dod mewn geiriau sy'n eu helpu nhw i adnabod geiriau wedi eu hysgrifennu.
  • Sylwi ar eiriau sy'n odli.
  • Cael ymwybyddiaeth well o seiniau.
  • Deall ble mae un gair yn gorffen a gair arall yn dechrau.

Ymwybyddiaeth o ffonoleg yw hyn: cam pwysig er mwyn bod â lleferydd clir a dysgu darllen ac ysgrifennu.

Am ragor o wybodaeth am ymwybyddiaeth o ffonoleg, ewch i www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-11/taflen-ffeithiau-ymwybyddiaeth-o-ffonoleg.pdf

Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi


Sioe Frenhinol Cymru

Royal Welsh

Peidwich ag anghofio am Sioe Frenhinol Cymru ar 22ain – 25ain o Orffennaf 2024! Am fwy o wybodaeth, ewch i: Sioe Frenhinol Cymru

Dysgwch am anifeiliad fferm; beth mae’n nhw’n bwyta, ble mae’n nhw’n cysgu, au henwau? Beth am gynnal cystadleuaeth ar gyfer eich anifeiliad a dylunio rhosglwm ar gyfer yr ennillydd?

Buwch – cow

Mochyn – pig

Dafad – sheep

Ceffyl – horse

Hwyaden – duck

Iâr – chicken


Hoffwch ni ar Facebook

Am y wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar wasanaethau a gweithgareddau gofal plant, Hoffwch y "Caerphilly Early Years & Childcare Service" ar Facebook.

Facebook

GWELLA... CYFLAWNI... YSBRYDOLI - Improving... Achieving... Inspiring
facebooktwitterinstagramyoutubeflickr