Oeddech chi’n gwybod bod 4.8% o blant ysgol yng Nghymru ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu?
Mae’r Llwybr Hyfforddiant Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu wedi’i greu i gynorthwyo ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant 0–4 oed 11 mis ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae partneriaid y Blynyddoedd Cynnar wedi datblygu'r llwybr hyfforddiant hwn i alluogi ymarferwyr i nodi'n glir pa hyfforddiant sydd ei angen arnyn nhw, sut i'w gael, a pha gyfleoedd sydd ar gael i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth ymhellach. Yn ogystal â hyfforddiant, mae'n darparu mynediad at becynnau cymorth a fframweithiau hunanwerthuso i ymarferwyr eu defnyddio.
Gallwch chi weld y ddogfen ar ein gwefan. Cymerwch amser i'w darllen a deall y goblygiadau i'ch rôl.
Bydd ein Tîm Gofal Plant ar gael i archwilio hyn gyda chi a beth mae'n ei olygu i'ch tîm.
|
‘Ein lle gorau yw wyneb yn wyneb’. Os ydych chi gyda phlentyn, y lle gorau i fod yw ar ei lefel (hyd yn oed os yw hyn yn golygu gorwedd ar y llawr!) er mwyn i chi allu gweld wynebau eich gilydd. Mae hyn yn golygu y gallwch chi wneud y canlynol:
- Gweld mynegiant wyneb eich gilydd
- Gweld beth sydd o ddiddordeb i'r plentyn a rhoi'r geiriau cywir i gyd-fynd â'r hyn y mae'n gallu ei weld/yn ei wneud
- Gall y plentyn wylio'ch ceg i weld sut rydych chi'n gwneud y synau mewn geiriau
Beth am fod wyneb yn wyneb am 5 munud ychwanegol y dydd a gweld faint mae'n newid eich rhyngweithiadau!
Gallwch chi ddod o hyd i'r strategaeth hon yn y 10 tip i fy helpu i ddysgu siarad.
Am ragor o wybodaeth am ryngweithio â phlant ifanc, ewch i https://llyw.cymru/siarad-gyda-fi.
Anhwylder gorbryder plentyndod cymhleth yw Mudandod Dethol, wedi'i nodweddi gan anallu plentyn i siarad mewn rhai sefyllfaoedd cymdeithasol, megis yn y feithrinfa neu'r ysgol, er ei fod yn gallu siarad yn hyderus gartref. Nod y fideo hwn, wedi'i gynhyrchu gan Therapydd Lleferydd ac Iaith y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yw cynorthwyo ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant trwy ddangos iddyn nhw sut i nodi mudandod dethol posibl mewn plentyn a pha gamau i'w cymryd nesaf.
https://www.youtube.com/watch?v=wq8rV86z3pI
Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi bod yn adolygu ein gwefan i sicrhau bod yr holl wybodaeth yn gywir, yn gyflawn ac yn drefnus. Mae rhai ohonoch chi wedi dweud y gall fod yn anodd dewis yr adran "Gwybodaeth i Ddarparwyr Gofal Plant" ar sgriniau llai oherwydd ei bod wedi'i lleoli ar waelod y ddewislen Gofal Plant. I fynd i'r afael â hyn, rydyn ni wedi creu adran newydd o dan y ddewislen "Amdanom Ni" o'r enw "Gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant". Yma, byddwch chi'n gweld is-adran o'r enw "Gwybodaeth i Leoliadau Gofal Plant ym Mwrdeistref Sirol Caerffili", sy'n cynnwys eich holl dudalennau perthnasol.
Nod yr adran hon yw rhoi mynediad hawdd i chi at wybodaeth hanfodol, gan gynnwys hyfforddiant, lleoliadau wedi'u hariannu, canllawiau cofrestru, y cynllun Blynyddoedd Cynnar Iach a mwy. Rydyn ni'n gwerthfawrogi eich adborth, felly, os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwella'r cynnwys, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost at HwbYBlynyddoeddCynnar@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 863232.
Rydyn ni'n drist a diolchgar o gyhoeddi ein bod ni'n cau meithrinfa ddydd Coleg y Cymoedd yn Ystrad Mynach ar 31 Gorffennaf 2024. Mae'r feithrinfa wedi bod ar agor ers nifer o flynyddoedd ac wedi gwasanaethu plant a rhieni di-ri yn y gymuned. Wrth i ni baratoi i ffarwelio, hoffai Blynyddoedd Cynnar Caerffili anfon diolch o galon i’r holl staff am eu hymroddiad a dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer y dyfodol!
Cynnig Gofal Plant Cymru: Mae ceisiadau ar agor ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru ar gyfer plant sydd â dyddiad geni rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Awst 2021. Anogwch rieni cymwys i wneud cais am gyllid i ddechrau ym mis Medi. Mae gwybodaeth a'r broses gwneud cais ar gael ar ein gwefan: Gofal plant wedi’i ariannu ar gyfer plant 3 a 4 oed/Cynnig Gofal Plant Cymru - Blynyddoedd Cynnar Caerffili
Gofal plant wedi'i ariannu gan Dechrau'n Deg: Bydd rhieni a wnaeth gais am ofal plant Dechrau'n Deg erbyn 10 Mai yn cael e-bost gyda phenderfyniad erbyn 5pm ar 10 Mehefin. Byddan nhw'n cysylltu â chi i drefnu eu lleoliadau. Manteisiwch ar y cyfle hwn i sicrhau bod eich adnodd ar Dewis yn gyfredol: Darparwyr gofal plant Dechrau'n Deg (Dewis)
|
Laura Thomas ydw i, a hoffwn i gyflwyno fy hun fel y Swyddog Digonolrwydd Chwarae newydd ar gyfer y Fwrdeistref. Rydw i wedi gweithio o fewn yr ALl ers dros 12 mlynedd cyn symud ar draws i Chwarae Caerffili yn gynharach eleni. Mae'r ychydig fisoedd nesaf yn gyfnod cyffrous i Chwarae Caerffili wrth i ni dyfu ein tîm a chyflwyno ein Darpariaeth Gwyliau Chwarae. Ochr yn ochr â hyn rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â thîm y Blynyddoedd Cynnar i gyflwyno 7 digwyddiad Chwarae yn y Parc. I ddathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol, byddwn ni hefyd yn cyhoeddi grantiau Diwrnod Chwarae y gall lleoliadau a darparwyr gofal plant wneud cais amdanyn nhw i gyflwyno gweithgareddau Diwrnod Chwarae yn eu lleoliadau eu hunain i ddathlu pwysigrwydd chwarae ym mywydau plant. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am Chwarae Caerffili neu os ydych chi’n chwilio am unrhyw gymorth i uwchsgilio staff/gwirfoddolwyr i ennill cymhwyster Gweithiwr Chwarae, cysylltwch â willil17@caerffili.gov.uk.
|
Mae’n adeg gyffrous o’r flwyddyn unwaith eto lle mae cynllunio ar gyfer cyflwyno Chwarae yn y Parc wedi hen ddechrau. Oherwydd llwyddiant 2022 a 2023, gyda thua 2000 o fynychwyr ar draws y chwe sesiwn, rydym yn ehangu yn 2024!
- Dydd Iau, Awst 1af, Parc Lles, Senghenydd, Caerffili CF83 4GA (ffocws hybu’r Gymraeg, cydweithio â thîm staff Menter Iaith Caerffili)
- Dydd Mercher, Awst 7fed, Parc Morgan Jones, Caerffili CF83 1AB (Diwrnod Chwarae Cenedlaethol)
- Dydd Gwener, Awst 9fe, Parc Bargoed, Moorland Rd, Bargoed CF81 8PS
- Dydd Mawrth, Awst 13eg, Cae Chwarae Abertridwr, Heol Aberfawr, Abertridwr, Caerffili CF83 4EJ
- Dydd Iau, Awst 15fed, Maes yr Eisteddfod, Teras Tan-Y-Llan, Rhymni NP22 5HE
- Dydd Mawrth, Awst 20fed, Parc Ystrad Mynach, Heol Caerffili, CF83 7EP
- Dydd Iau, Awst 22ain, Parc Waunfawr, Waunfawr Park Rd, Crosskeys NP11 7PH
- Dydd Mawrth, Awst 27ain, Maes Sioe Coed Duon, Sunnybank Road, Coed Duon NP12 1HY
Bydd pob sesiwn ar agor i deuluoedd gael mynediad iddynt o 11am - 2pm.
Chwarae yn y Parc - Blynyddoedd Cynnar Caerffili
Peidiwch anghofio i fynychu Ffiliffest 2024; mae digon o hwyl i'w gael ac mae e ar garreg eich drws! Am fwy o wybodaeth, ewch i Menter Iaith Ffiliffest.
Mae'n Amser Haf Prydain Fawr! Dyma gyfle i fod yn brysur yn yr ardal tu allan; plannwch hadau, addurnwch potiau, a gallech chi fwyta unrhyw gynnyrch rydych chi wedi'i dyfu gyda'ch gilydd yn ystod Amser Snac. Blasus iawn! Dewch i wrando ar stori ‘Supertaten’ yn Gymraeg: Supertaten
|